Joyce Watson: Diolch yn fawr iawn. Ac ar y pwynt rydych chi'n ei wneud, nid oes unrhyw awgrym yn yr adroddiad hwn o gwbl y bydd hyn yn mynd yn ehangach, nac yn agor y drws. Mewn gwirionedd, mae wedi canolbwyntio'n gwbl briodol ar y ddeiseb, sy'n ymwneud â chyflwyno gwaharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru. A chan ein bod yn ei drafod, mae'n rhaid inni fod yn gytbwys—
Joyce Watson: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae gan ein rhanbarth bopeth i'w gynnig, o draethau godidog i'r warchodfa awyr dywyll ryngwladol ym Mannau Brycheiniog, a fydd, wrth gwrs, yn dathlu ei degfed pen blwydd eleni. A dyna'r rheswm pam, rwy'n siŵr, y bydd Cymru, eleni, yn croesawu'r nifer mwyaf erioed o longau mordeithio, a disgwylir i 91 llong alw yn ein porthladdoedd yn 2023, a...
Joyce Watson: Beth, ar y cwestiwn hwn?
Joyce Watson: 10. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu i ddenu twristiaid i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59226
Joyce Watson: Meddwl oeddwn i, o fewn y ffigyrau hynny, a'r cyfarfod hwnnw y gwnaethoch chi ei gael gyda'r gymdeithas dai, a wnaethon nhw sôn am y gyllideb drychinebus sydd wedi cynyddu morgeisi pobl hyd at £600 y mis, gan gyllideb Liz Truss yn seiliedig ar ideoleg y mae pobl yn dal i ddioddef ei chanlyniadau. Mae'n siŵr eu bod nhw wedi sôn am hynny.
Joyce Watson: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Joyce Watson: Rwy'n croesawu'r cynnydd o ran Gogledd Iwerddon, neu brotocol Windsor, ond rwy'n rhannu eich pryderon y gallai'r cytundeb a gytunwyd yr wythnos diwethaf gael effaith negyddol ar borthladdoedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys Abergwaun a Phenfro. Mae Brexit wedi gwneud gwaith da o ran rhoi hwb i borthladdoedd Ffrainc ar draul porthladdoedd y DU. Mae'n llawer haws nawr, wrth gwrs, osgoi...
Joyce Watson: 3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pha mor gystadleuol yw porthladdoedd Cymru? OQ59232
Joyce Watson: A daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip i ymateb i’r ddadl—Dawn Bowden.
Joyce Watson: Galwaf ar Tom Giffard i ymateb i’r ddadl.
Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: Galwaf yn awr ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Joyce Watson: Rwyf am alw ar Gareth Davies nesaf, ac rwy'n deall ei fod wedi ymddiheuro i'r Llywydd am ei gyfraniad yn gynharach, ac felly, fe gaiff gymryd rhan yn y ddadl hon.
Joyce Watson: Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.
Joyce Watson: Diolch am dynnu sylw at yr hyn rydych wedi ei nodi a'r diffygion sy'n dal i fodoli ar hyn o bryd. Gorffennais fy rhan gyntaf drwy eich ateb, gan ddweud nad ydym yn hunanfodlon ac y byddwn bob amser yn ymdrechu i fod yn gynhwysol, ac mae hynny wrth gwrs yn sefyll. Cafodd y Senedd ei dylunio i ddarparu mynediad da i bobl anabl, ac roedd gennym gynghorydd mynediad a gâi ei gyflogi yn ystod y...
Joyce Watson: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystad y Senedd yn hygyrch i bawb. Hygyrchedd oedd un o'r prif ystyriaethau yn ystod y gwaith o ddylunio adeilad y Senedd, ac fe wnaethom ystyried hygyrchedd hefyd wrth gwblhau asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer yr holl welliannau adeiladu diweddarach ar yr ystad hon. Yn ddiweddar, cyfarfu swyddogion â...
Joyce Watson: Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid mai partneriaethau cymdeithasol yw'r allwedd sy'n sail i bopeth yn y gweithle, ac, yn groes i'r myth Torïaidd a'r cysyniadau ideolegol sydd ganddyn nhw sy'n wahanol i'n rhai ni, mae partneriaethau cymdeithasol o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr mewn gwirionedd. Mae'n rhoi pobl mewn sefyllfa o drafod, yn hytrach na gwrthdaro, ac rydym ni wedi gweld digon o wrthdaro...
Joyce Watson: Mae rasio milgwn yn rhy aml yn hynod beryglus i'r milgwn, ac mae yna ystadegyn fod 2,000 o filgwn wedi cael eu hewthaneiddio yn y DU rhwng 2018 a 2020 yn syml o ganlyniad i gael eu rasio. Credaf yn gryf na ddylai unrhyw anifail ddioddef yn enw chwaraeon, ac mae hynny'n wir am bob camp sy'n defnyddio unrhyw fath o anifail ar gyfer adloniant pobl, felly rwy'n falch o'ch clywed yn dweud bod...