Kirsty Williams: Rhianon, rydych chi'n gywir—mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn ddull partneriaeth ac ni fyddem wedi gallu gwireddu uchelgais y rhaglen heb y cydweithio a'r gweithio agos rhyngom ag awdurdodau addysg lleol. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, ceir cronfa o arian gwerth biliynau o bunnoedd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu hyd yn...
Kirsty Williams: Diolch, Paul. Mae'r fframwaith yn bendant yn rhoi lefel o sicrwydd y bydd unigolion yn cael eu trin yn deg. Ac rydym wedi dod i gytundeb â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyfathrebu â'u hysgolion unwaith eto a'i gwneud yn glir iawn i'r ysgolion yn eu hawdurdodau lleol mai dim ond yr asiantaethau sy'n ymddangos yn y fframwaith y dylai ysgolion eu defnyddio. Paul, rwy'n ymrwymo i ofyn i...
Kirsty Williams: Cafodd Caerffili dros £56 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac o'r swm hwn, gwariodd £28 miliwn yn etholaeth Islwyn. Bwriedir cael £110 miliwn arall ar gyfer yr ail don ariannu, ac rydym yn gweithio gyda Chaerffili i wireddu eu cynlluniau.
Kirsty Williams: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n cyflogwyr i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon yn Sir Benfro a ledled Cymru yn wir yn ystod y pandemig. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys pecyn wedi'i deilwra o gymorth llesiant ac iechyd meddwl, a chyllid ychwanegol i greu capasiti o fewn gweithlu'r ysgol.
Kirsty Williams: Diolch, David, a diolch am eich geiriau caredig. Maent yn werth cymaint mwy yn dod gennych chi, gan fy mod wedi gwerthfawrogi'r cyfle i weithio ochr yn ochr â chi fel un o aelodau criw 1999. A gaf fi sicrhau'r Aelod fod yna hyblygrwydd? Os oes gan ddysgwyr rwystr penodol sy'n ei atal rhag gwisgo masg wyneb, dylai ysgolion gydnabod hynny. Gallai hynny ddigwydd yn achos dysgwyr niwroamrywiol...
Kirsty Williams: Nid wyf yn ymwybodol ein bod yn gofyn i blant wisgo masgiau mewn sefyllfa heb oruchwyliaeth o gwbl. Mae'r plant yn cael eu goruchwylio ar gludiant ysgol a phan fyddant mewn ystafelloedd dosbarth. Y cyngor a roddwn pan na ellir cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol, yw y dylid gwisgo masgiau am fod hynny'n cynnig lefel o ddiogelwch i staff a dysgwyr, fel y dywedais. Mae yna adegau pan nad...
Kirsty Williams: Mae ein canllawiau gweithredol yn nodi y dylai dysgwyr ysgol uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o adeilad yr ysgol os na ellir cadw pellter cymdeithasol, ac ar gludiant ysgol dynodedig. Mae hwn yn un o ystod o fesurau i gadw ysgolion mor ddiogel â phosibl i staff a dysgwyr.
Kirsty Williams: Yr her fwyaf sy'n wynebu unrhyw Weinidog addysg yw sylweddoli nad oes modd i ewyllys un Gweinidog yn unig yrru'r gwaith o ddiwygio a thrawsnewid addysg. Rhaid ei wneud mewn cydweithrediad â'r sector. Mae cydadeiladu ein cenhadaeth genedlaethol a'n cwricwlwm newydd wedi canolbwyntio ar feithrin y cysylltiadau cryf hynny. Credaf y bydd yn bwysig iawn i unrhyw Weinidog addysg newydd barhau i...
Kirsty Williams: Mae'r Aelod yn gywir: weithiau, gallwn ryddhau adnoddau ychwanegol i'r system addysg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nid yw'r heriau o weithredu cyllideb o'r maint sydd gennym heb eu hanawsterau, ond ni fyddaf byth yn gwrthod cyfle gan y Gweinidog cyllid i wario mwy o arian ar ysgolion. O ran y fiwrocratiaeth a'r adrodd, byddwn yn dweud wrth Siân Gwenllian ei bod, drwy gydol fy nghyfnod fel...
Kirsty Williams: Rwy'n cydnabod ein bod yn gofyn llawer iawn gan ein haddysgwyr proffesiynol. Ac yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni gyflymu a rhoi mwy fyth o bwyslais ar waith y grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth. Mae'r grŵp hwnnw'n dal i weithio, er gwaethaf heriau'r pandemig, ar nodi'r pwysau sy'n wynebu athrawon a gweithredu atebion newydd. Mae'r siarter llwyth gwaith bellach wedi'i...
Kirsty Williams: Wel, Suzy, a gaf fi ddweud diolch yn fawr am eich geiriau caredig, a diolch ichi am faddau i mi? Cofiaf gyfarfod cyhoeddus penodol yn Neuadd y Strand yn Llanfair-ym-Muallt—er mai iechyd oedd y pwnc y diwrnod hwnnw—pan gredaf fy mod wedi bod yn arbennig o gas, nid y byddai neb yn y Siambr byth yn fy nghofio'n bod yn gas neu'n finiog neu'n anodd gyda phobl, ond—. Felly, diolch ichi am...
Kirsty Williams: Wel, Suzy, rwy'n ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno is-ddeddfwriaeth newydd sy'n caniatáu i athrawon o bob cwr o'r byd ddechrau proses, gyda'n Cyngor Gweithlu Addysg, i gael eu hachredu i addysgu yn y wlad hon. Rwy'n credu bod yr ymgeiswyr cyntaf eisoes wedi dechrau'r broses, gan gynnwys darpar athro mathemateg newydd a oedd wedi cymhwyso yn yr Unol...
Kirsty Williams: Wel, Ddirprwy Lywydd, ceisiodd yr Aelod gymell ymdeimlad ffug o ddiogelwch, rwy'n credu, cyn gofyn y cwestiwn hwnnw. Pe bai gennyf unrhyw obeithion y byddai'n fy arbed yn y sesiwn olaf hon, maent wedi cael eu chwalu'n greulon gan y cwestiwn hwnnw. A gaf fi ddweud bod llwyddiant y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau'n rhywbeth i'w ddathlu? Credaf ei bod yn deg dweud ein bod wedi rhagweld...
Kirsty Williams: Wel, diolch am hynny, Suzy. A gaf fi eich sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw eisoes yn cael ei ddarparu? Er enghraifft, hyd yn oed ynghanol y pandemig, mae GwE, ein gwasanaeth cymorth rhanbarthol yng ngogledd Cymru, eisoes yn darparu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i lywodraethwyr cyn diwygio nid yn unig y cwricwlwm, ond anghenion dysgu ychwanegol hefyd, ac mae honno'n rhaglen waith sy'n...
Kirsty Williams: Wel, yn gyntaf, Llyr, a gaf fi ddiolch i chi am wasanaethu fel llywodraethwr? Maent yn rolau pwysig a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg i feddwl sut y gallant helpu ein plant a'n pobl ifanc drwy wneud yr hyn a wnewch chi a gwasanaethu yn rôl llywodraethwr. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa rydych newydd ei disgrifio yn dderbyniol. Rwy'n ddiolchgar i chi am dynnu fy sylw at y...
Kirsty Williams: Mae gan gyrff llywodraethu ran hanfodol i'w chwarae yn gwella perfformiad ysgolion. Mae awdurdodau lleol yn darparu cymorth uniongyrchol i lywodraethwyr drwy eu gwasanaethau cymorth i lywodraethwyr. O dan safonau'r Gymraeg, darperir yr holl wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yn ddwyieithog. Mae awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i'r un...
Kirsty Williams: Diolch am y cwestiwn hwnnw, Nick. Mae fy swyddogion yn cael sgyrsiau wythnosol gyda'r undebau llafur i drafod ystod eang o faterion ac yn amlwg, mae llesiant staff ysgol a staff cymorth yn codi'n aml. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y gwasanaethau y mae'r elusen Cymorth Addysg wedi gallu eu rhoi ar waith eleni, a byddwn yn parhau i ystyried beth arall y gallwn ei...
Kirsty Williams: Diolch, Jayne, am gydnabod ymdrech aruthrol y gweithlu addysg drwy gydol y pandemig. Maent wedi dangos arloesedd a chadernid gwirioneddol mewn cyfnod anodd, ac mae'n bwysig inni gydnabod bod angen inni eu cefnogi yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu â Cymorth Addysg, sefydliad elusennol sydd ag arbenigedd mewn cefnogi llesiant athrawon i gyflwyno rhaglen...
Kirsty Williams: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ar gael i athrawon ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn. Mae hyn yn cynnwys ariannu pecyn wedi'i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff cymorth, a darparu cyllid ychwanegol i gynyddu capasiti mewn ysgolion ledled Cymru.
Kirsty Williams: The twenty-first century schools programme has seen an investment of nearly £33 millon in Bridgend schools within the Senedd term, of which over £19 million was funded by Welsh Government. Of this, over £11 million will have been spent in the Ogmore constituency, primarily in Pencoed Primary School and Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.