Angela Burns: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56390
Angela Burns: Pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau na fydd pandemig y coronafeirws yn cael efffaith andwyol ar awdurdodau lleol o safbwynt ariannol?
Angela Burns: Diolch.
Angela Burns: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac unwaith eto, dyma newyddion da ein bod ni'n brechu cynifer o bobl ar hyn o bryd yng Nghymru. Er hynny, mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn i chi, am y rhaglen frechu, yn gyffredinol. Y cyntaf yw nad yw 15 y cant o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu eto, o'i gymharu â llai na 5 y cant o breswylwyr, ac mae hwnnw'n rhif llawer is...
Angela Burns: Hyd yn oed cyn y pandemig, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod ffurf yr economi fyd-eang yn newid, a dyna pam, gan gydnabod hyn, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â ReAct, yn cyflwyno cronfa ail gyfle i helpu unrhyw un o unrhyw oedran i astudio ar gyfer cymwysterau lefel 3 yn y coleg i'w helpu i symud o'r fagl cyflog isel, sgiliau isel i fyny'r ysgol yrfaol waeth ble...
Angela Burns: Diolch yn fawr iawn wir, Llywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf. Roedd gennych chi newyddion calonogol tu hwnt. Rwyf i o'r farn mai camp enfawr yw gweinyddu miliwn o ddosau ac rwy'n diolch o galon i chi ac yn cydnabod yn llwyr y byrddau iechyd, y gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi bod â rhan yn y rhaglen hon. Rwy'n canmol Llywodraeth y DU i'r cymylau hefyd am eu...
Angela Burns: Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno hyn, oherwydd mae adroddiad Cumberlege yn ddarn mor hanfodol o dystiolaeth wrth geisio symud meddygaeth i fenywod yn ei blaen. Mae gennyf ddau bwynt rwy'n awyddus iawn i'w gwneud. Un o'r pethau a ddywedodd Cumberlege yn glir iawn oedd nad yw'r system, y system fawr, yn dda am sylwi ar dueddiadau mewn ymarfer a chanlyniadau sy'n arwain at bryderon...
Angela Burns: Weinidog, rwyf am fod yn glir ar y mater hwn, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru, ond ni chredaf mai dyma ydyw. Gan gydnabod yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd, ar ddechrau hyn oll, cefnogais y galwadau am gyfres gymysg o ddulliau i ffermwyr allu eu defnyddio i leihau lefelau nitradau ar ffermydd. Roeddwn yn...
Angela Burns: Mae iechyd da yn rhywbeth rydym i gyd yn dymuno'i gael, ac yn aml rydym yn ei gymryd yn ganiataol. Pan fydd ein plentyn yn cael ei eni, rydym yn gobeithio am fabi iach gyda'r nifer gywir o fysedd ar eu dwylo a'u traed. Wrth inni fynd yn hŷn, disgwyliwn y bydd datblygiadau meddygol yn parhau'n gyfochrog â'n hanghenion, a phe bai'r gwaethaf yn digwydd, byddem yn disgwyl i'n system gofal...
Angela Burns: Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar eich sylwadau wrth ateb Jayne Bryant a David Melding, rwy'n credu. Mae'n ymwneud ag iechyd meddwl a sut y gallwn gadw ein llygaid ar agor am bobl sy'n dioddef. Fe wyddoch gystal â mi fod sefydliadau fel Mind wedi cynnal arolygon diddiwedd sy'n dangos bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn dioddef yn anghymesur, yn cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith, a bod...
Angela Burns: I ddychwelyd at yr ystadegau hynny, fe ddaethant o wybodaeth y Llywodraeth, ond rwy'n fodlon mynd yn ôl i adolygu hynny, oherwydd roedd yn eithaf clir mai un o bob pump ydoedd. Un o'r meysydd a welodd gynnydd astronomegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw maes gwasanaethau gynaecolegol. Roedd gennym lai na 1,000 o fenywod yn aros dros 36 wythnos; nawr mae gennym dros 13,000 o fenywod yn aros...
Angela Burns: Rydych yn sôn am adferiad mewn ffordd gyffredinol, ac rwy'n derbyn hynny. Deallaf fod yn rhaid ichi edrych ar y GIG yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n pryderu'n benodol am yr amseroedd aros am driniaeth. Bellach mae gennym dros 538,000 o bobl—dyna un o bob pump o'n poblogaeth—yn aros am ryw fath o driniaeth. Mae'n ddigon posibl nad oes cymaint o frys am bob un o'r triniaethau hyn—er y...
Angela Burns: Prynhawn da, Weinidog. Pryd rydych yn gobeithio cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer ymdrin â phroblem y rhestrau aros sydd gennym yma yng Nghymru?
Angela Burns: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl a lles gweithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56327
Angela Burns: Gweinidog, diolch yn fawr i chi am eich datganiad heddiw. Newydd da yw hwn yn amlwg. Nid wyf i'n defnyddio'r gair 'gwyrthiol' yn aml iawn, ond rwy'n credu bod cyflwyniad y brechlyn drwy'r holl DU, ym mhob un o'r pedair gwlad sydd ynddi, ac yng Nghymru, wedi bod yn gwbl wyrthiol. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud y credwch y gallwch fynd ar yr un cyflymder â'r rhaglen frechu yn Lloegr,...
Angela Burns: Prif Weinidog, mae hynny'n newyddion da iawn am y mater anabledd dysgu. A allwch chi gynnig newyddion yr un mor dda i ofalwyr di-dâl? Oherwydd mae fy mewnflwch i, ac rwy'n siŵr bod mewnflwch pob Aelod arall o'r Senedd, yn llawn i'r ymylon o bobl sy'n ofalwyr di-dâl, yn awyddus iawn i gael brechlyn, oherwydd os byddan nhw'n mynd yn sâl, nid oes gan y bobl sydd angen eu cymorth—y...
Angela Burns: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r amgylchedd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Angela Burns: Diolch, Gweinidog, am y datganiad yma, ac am eich cydnabyddiaeth o ba mor anodd fu'r sefyllfa hon mewn difrif. Fel chithau, hoffwn ddweud wrth yr holl deuluoedd hynny pa mor flin yr wyf i—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd—fod hyn wedi digwydd. Fe'm syfrdanwyd o ddarllen bod y tîm clinigol annibynnol wedi dweud mewn gwirionedd eu bod nhw, yn y rhan fwyaf o'r achosion hyn, wedi dod i'r...
Angela Burns: Prynhawn da, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid rhoi clod lle mae'n ddyledus, mae'r sefyllfa wedi symud ymlaen yn aruthrol ers yr wythnos diwethaf, ac fe hoffwn i ddweud da iawn wrth bawb a fu'n rhan o'r ymdrech hon, o'r Llywodraeth hyd at y rhai ar y rheng flaen, am fwrw ymlaen gyda'r brechiadau, yn arbennig felly am inni fod ar ei hôl hi. Braf iawn yw gweld bod y gwaith...
Angela Burns: Prynhawn da, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar a gofynnaf i'r Senedd groesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlyn ac i sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth o ystyried y 'dileu popeth' a'r rhyfyg a welwyd...