Llyr Gruffydd: Yng Nghymru, dechreuodd y daith tuag at gydnabod hil-laddiad yn 2001, wrth gwrs, pan osododd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, flodau er cof am y 1915 o ddioddefwyr hil-laddiad. Yn ddiweddarach, yn 2010, cafwyd cydnabyddiaeth benodol i hil-laddiad yr Armeniaid gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, pan dalodd wrogaeth i ddioddefwyr Armenaidd yn ystod digwyddiadau coffáu'r Holocost....
Llyr Gruffydd: Nawr, yn fwy diweddar, wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, sy'n ymwneud â chroesawu'r rhai o bob cwr o'r byd sydd wedi'u dadleoli gan ryfel a gwrthdaro a'r rhai sydd eisiau lle diogel i fyw ynddo. A mawredd, yng ngoleuni peth o'r naratif a ddaw o Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae gwir angen inni ystyried ein cyfrifoldeb i ddarparu'r noddfa honno. Gan...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno fy mhwnc i yn y ddadl fer yma y prynhawn yma. Mi allwn ni fod yn ddigon balch o’r ymagwedd ryngwladol sydd wedi bod yn rhan amlwg o'n hanes ni fel Cymry dros y blynyddoedd. Yn ôl yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, roedd gennym ni ein Cynghrair Cymreig y Cenhedloedd Unedig a ymgyrchodd dros heddwch a chydweithrediad rhyngwladol ar ôl...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Wel, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, oherwydd mae angen ichi gofio hefyd fod Aelodau o'ch meinciau chi wedi gwrthwynebu'r llwybr coch.
Llyr Gruffydd: Ar eu ffurf bresennol.
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Diolch. Rwy'n cael ychydig bach o drafferth gyda'ch awgrym na fydd unrhyw ffyrdd eraill yn cael eu hadeiladu byth. Mae'n ddigon posibl y bydd y prosiectau sydd wedi'u diddymu'n digwydd mewn ffordd arall. Mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu datblygu mewn cynnig amgen. Felly, mae ceisio cyfleu mai dyma ddiwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru braidd yn anonest. Ac fe gyfeirioch chi at...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Diolch. Un o'r rhesymau a glywais pam mae Conwy yn wynebu cynnydd mor serth yw oherwydd bod arweinwyr blaenorol y cyngor yn rhy amharod i'w gynyddu mewn gwirionedd fel y dylai fod wedi digwydd. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, fe adawon nhw'r cyngor heb y cydnerthedd sydd gan awdurdodau lleol eraill, a does ganddyn nhw ddim dewis ond ei wneud nawr oherwydd bod ganddyn nhw...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Mae dweud ei bod hi'n gyfnod eithriadol o heriol i awdurdodau lleol yn dan-ddweud difrifol, byddwn i'n meddwl, ac mi gyfeiriodd y Gweinidog yn gynharach at y setliad 12 mis presennol yma—9.4 y cant. Ddeuddeg mis yn ôl, fe'i cyhoeddwyd gan y Gweinidog, yn llawer gwell ar y pryd nag oedd unrhyw un wedi'i ddychmygu, a bod yn deg, ond, wrth...
Llyr Gruffydd: Rwy'n siŵr nad ydych chi'n awgrymu mai dyna yw nod ein polisi.
Llyr Gruffydd: Go brin fod hynny'n newyddion sydd newydd dorri, Dirprwy Lywydd, ond dyna ni. [Chwerthin.] Diolch am eich cyfraniad gwerthfawr—fe'i gwerthfawrogwyd fel arfer. Mae'n rhaid i mi ddweud bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn adlewyrchiad, gadewch i ni fod yn onest, o bosib y set fwyaf heriol o amgylchiadau ariannol rydyn ni wedi eu profi erioed yn oes datganoli. Mae pwysau'r...
Llyr Gruffydd: Nawr, yn ystod y ddadl ddiweddar ynglŷn â datganoli mwy o bwerau treth incwm i Gymru, fe soniodd y Gweinidog cyllid yn ei hymateb fod deall y newidiadau ymddygiadol yn allweddol ar gyfer datblygu agenda polisi treth Cymru sy'n aeddfedu, ac rwy'n cytuno â hynny, wrth gwrs; mae Plaid Cymru yn cytuno â hynny. Mae edrych ar y pethau hyn yng nghyd-destun arbennig Gymru yn ffactor pwysig. Ond...
Llyr Gruffydd: Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am agor y ddadl? Mae'n teimlo ein bod ni wedi cael y ddadl yma dair, bedair o weithiau'n barod yn y mis neu ddau ddiwethaf, a dwi'n gwneud dim ymddiheuriad am y ffaith bod y diolch am hynny i Blaid Cymru. Rŷn ni wedi bod yn barod i fynd i'r afael â'r pwnc yma yn hytrach na jest nodio'r peth drwyddo, efallai, fel byddai wedi digwydd fel arfer. Ni fel plaid sydd...
Llyr Gruffydd: Mae nifer ohonom ni, a dwi'n siŵr eich bod chi yn ein plith ni, yn cofio dysgu dywediad yn yr ysgol gynradd a oedd yn ein hatgoffa ni, bob tro rydyn ni'n pwyntio bys at rywun, mae yna dri bys yn pwyntio yn ôl atom ni ein hunain. Dwi ddim yn meddwl bod hwnna wedi bod yn fwy gwir nag y mae e y prynhawn yma, oherwydd mae'r 24 awr diwethaf wedi dangos i ni eich bod chi, fel Gweinidog, a bod y...
Llyr Gruffydd: Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r mater o godi tâl am ddelifro presgripsiynau gan fferyllfeydd? Mae'n gwbl resymol i godi tâl mewn sefyllfa lle dyw unigolyn ddim yn barod i drafferthu i fynd i gasglu presgripsiwn, ond dwi wedi cael cyswllt gan rai pobl sy'n byw yn fy rhanbarth i sydd oherwydd eu cyflwr meddygol yn methu mynd i nôl presgripsiwn ac wedi ffeindio...
Llyr Gruffydd: Byddai'n dda iawn cael y diweddariad hwnnw pan fydd ar gael, er bod eich ateb yn teimlo ychydig fel ateb blaenorol a roesoch i mi beth amser yn ôl. Mae rhan gyntaf eich ymateb yn fy arwain at fy nghwestiwn nesaf, a dweud y gwir, gan fy mod yn mynd i gyfeirio at y ffaith i chi, yn eich ymateb i’n dadl yr wythnos diwethaf, ddweud bod angen ichi ddeall y newidiadau ymddygiadol yn well, ac y...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwy’n siŵr y gallwch gofio Plaid Cymru yn dadlau ein hachos dros ddatganoli pwerau trethu ymhellach, gan roi’r gallu, yn yr achos hwnnw, i Gymru osod ein bandiau treth incwm ein hunain yn unol â’r pwerau sydd eisoes yn cael eu harfer yn yr Alban, wrth gwrs. Yn anffodus, fe wnaethoch chi a’ch cyd-Aelodau bleidleisio yn erbyn...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Gwnes i dim ond eich clywed chi ar yr ail gynnig, dwi'n amau. Dwi eisiau gofyn i'r Trefnydd os cawn ni ddatganiad ar lefel y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r cynllun Cychwyn Iach, the Healthy Start scheme. Fe godwyd y lefel o gefnogaeth ddiwethaf yn ôl yn Ebrill 2021 i £4.25 yr wythnos, ond, wrth gwrs, mae yna flwy flynedd bron iawn ers hynny, ac yn y cyfamser mae costau byw...