Mark Drakeford: Well, Llywydd, I don't accept at all that those things went unnoticed, because the Minister and officials were in very regular dialogue with the Betsi Cadwaladr University Health Board, including the board. The board has responsibilities. You don't discharge your responsibilities simply by telling somebody else that you've got a problem. You have an obligation, as a board, to address the...
Mark Drakeford: Well, Llywydd, I certainly agree about the importance of digital investment in the health service, and, here in Wales, we have a national digital service, there for many years. I don't accept what the Member said in one of his throwaway remarks about Wales 'lagging behind'. In fact, we have shown the way in Wales as to how a genuinely national service can tackle some of the very real issues...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, the Member's allegation is both offensive and absurd. Of course the efforts that are being made are not some conspiratorial effort to change the number of people who died from COVID here in Wales. What an utterly, utterly absurd allegation to make here on the floor of the Senedd. The efforts that are being made are led by clinicians—are they part of your conspiracy as well?...
Mark Drakeford: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru statws cyfranogwr craidd ym modiwlau 1, 2, 2B a modiwl 3 o’r ymchwiliad cyhoeddus i COVID-19. Drwy ein statws cyfreithiol fel darparwyr deunyddiau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi llawer iawn o dystiolaeth fel y gall yr ymchwiliad graffu’n briodol ar y camau a gafodd eu cymryd yng Nghymru.
Mark Drakeford: Well, I thank Natasha Asghar, Llywydd, because she makes an important point, and it's one that's been made a number of times on the floor of the Senedd, that the future of health services has to be based on increased use of those contemporary opportunities that developments in technology and artificial intelligence bring us. We learnt a great deal of this during the COVID pandemic, and, as...
Mark Drakeford: Well, Llywydd, I thank Jayne Bryant for that. And I've been fortunate enough to have a number of opportunities to visit Newport and to see the sorts of projects to which Jayne Bryant referred. In fact, I was with John Griffiths only on Saturday at the Maindee Triangle, where the Ffrind i Mi project operates, and not only was I lucky enough to be at Tredegar House for the Growing Space...
Mark Drakeford: Llywydd, I thank Jayne Bryant for the question. There are many examples of social prescribing services in south-east Wales, including the Ffrind i Mi project, which supports those who are lonely or isolated. Recent research demonstrates a clear year-on-year increase in referrals and use of social prescribing in all parts of Wales.
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y gwaith sy'n dal i ddigwydd wrth ymgynghori â'r cyhoedd ynglŷn â dyfodol ysbyty newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd yna gyfarfod ymgynghori, rwy'n deall, yn Hwlffordd yr wythnos diwethaf, ac mae un wedi'i gynllunio yn Saundersfoot ddydd Gwener yr wythnos hon. Mae'n bwysig iawn bod y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus hynny—....
Mark Drakeford: Llywydd, mae natur wledig etholaeth yr Aelod yn ei gwneud yn bwysicach fyth i'r bwrdd iechyd wneud y mwyaf o'r cyfleoedd clinigol a ddarperir gan dechnoleg heddiw i osgoi teithiau diangen, gwella effeithlonrwydd a darparu mynediad hyblyg at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Mark Drakeford: Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn. Dwi wedi clywed am y problemau maen nhw'n wynebu yn Harlech, ac, wrth gwrs, rŷm ni'n agored i unrhyw drafodaethau fydd pobl leol eisiau eu cael trwy'r cyngor lleol, ac hefyd trwy Sport Wales. I ddechrau, rhywbeth lleol yw e, a'r trafodaethau cyntaf, mae'n bwysig iddyn nhw eu cael gyda'r awdurdod lleol. Os oes rhywbeth allwn ni ei wneud, wrth gwrs,...
Mark Drakeford: Wel, diolch i'r Aelod am y pwynt olaf yna. Yn aml mae'n anodd datgysylltu ble mae arian sy'n dod i Gymru drwy gyllideb yn deillio, oherwydd bod arian yn cyrraedd trwy un llinell ariannu ac yn diflannu trwy doriadau mewn llinell arall. Yn y pen draw, Llywydd, fel y gwyddom, caiff y penderfyniadau ynghylch arian a ddaw i Gymru eu gwneud, nid yn Whitehall, cânt eu gwneud yma, lle y dylid eu...
Mark Drakeford: Llywydd, darperir cyllid ar gyfer pyllau nofio a chanolfannau hamdden i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol, rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd hynny'n galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar eu cymunedau.
Mark Drakeford: Wel, diolch i'r Aelod, wrth gwrs, am ei chwestiwn atodol. Rwy'n credu y bydd hi'n canfod, mewn gwirionedd, fod tai a gwblhawyd yng Nghymru yn y chwarter diwethaf yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig—[Torri ar draws.] Wel, mewn gwirionedd, mi oedden nhw. Na, mi oedden nhw. Gofynnodd yr Aelod i mi am ateb proffesiynol, a gadewch i mi ei sicrhau y byddaf wedi gwneud fy ngwaith cartref; mae'r...
Mark Drakeford: Gadewch i mi ailadrodd rhywbeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gwestiynau atodol—bod dadansoddiad annibynnol o'r gyllideb yn dweud y bydd yn arwain at y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Ai dyna y mae'r Aelod yn ei olygu wrth ddweud uchelgais? Ai dyna'r uchelgais sydd gan y Blaid Geidwadol ar gyfer y wlad hon—ei bod wedi bod yn gyfrifol am y cwymp mwyaf i...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad cyfalaf ar gael i gynorthwyo gwaith adeiladu tai. Mae'r diwydiant yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran chwyddiant costau adeiladu, prinder llafur a bylchau yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Cafodd y Gweinidog gyfarfod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru yr wythnos diwethaf i drafod...
Mark Drakeford: Un ffordd neu'r llall, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â 23 mlynedd o gyllidebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies—nid wyf i erioed wedi gweld cytundeb gwaeth i Gymru na'r hyn a welsom yr wythnos diwethaf. Mae'n gwbl annealladwy i mi y gallai Llywodraeth y DU, o edrych ar y pwysau a'r straen sydd ar y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gredu bod hon yn...
Mark Drakeford: Ni ddarparodd y gyllideb unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na chyflogau sector cyhoeddus, a chynigiodd y cymorth ychwanegol lleiaf posibl i bobl a busnesau. Roedd yn blaenoriaethu petrol a thyllau yn y ffordd dros bobl a chyflog. Mae'r degawd truenus o Lywodraeth Dorïaidd yn dod i ben fel y dechreuodd, gydag esgeulustod cynhwysfawr o ran anghenion Cymru.
Mark Drakeford: Yn gyntaf oll, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â Gareth Davies am hanes cyfoethog safle Ysbyty Gogledd Cymru. Cyhoeddodd cyn-gydweithiwr i mi, a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor, Pamela Michael, lyfr gwirioneddol ardderchog yn edrych ar ofal a thriniaeth pobl â salwch meddwl yn y gogledd dros ddwy ganrif, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ysbyty sir Ddinbych, oherwydd, Llywydd, yn...
Mark Drakeford: Cyngor Sir Ddinbych a'u datblygwr penodedig sy'n gyfrifol am ddyfodol hirdymor y safle hwn. Mae'r cyngor, fel perchennog y safle, ynghyd â'u contractwyr, yn gwneud cynnydd gyda chymorth sylweddol o gronfeydd bargen twf y gogledd.
Mark Drakeford: Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gweld mai ar 7 Mawrth y cyhoeddwyd yr adroddiad mewn gwirionedd, yn hytrach na'r wythnos diwethaf. Mae gan y bwrdd iechyd, o dan y rheolau sydd wedi'u cytuno gydag AGIC, bedair wythnos i roi sicrwydd i AGIC bod y materion sy'n peri pryder, ac rwy'n cytuno â'r Aelod bod y materion a nodwyd yn destun pryder—. Bydd pedair wythnos i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd i...