Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â cynrychiolwyr grŵp Trigolion Peterstone yn erbyn Datblygu Amhriodol i drafod eu pryderon am yr effaith y mae safleoedd Teithwyr anghyfreithlon yn ei chael ar wastadeddau Gwynllŵg rhwng Casnewydd a Chaerdydd ger yr ardal arfordirol. Dywedir wrthyf fod tua 21 o safleoedd heb awdurdod ac anghyfreithlon ar y gwastadeddau. O ganlyniad, mae...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae ffigurau'n dangos bod oddeutu 10 y cant o bobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bobl astudio neu hyfforddi tan eu bod yn 18 oed, gan naill ai fynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth, gwneud prentisiaeth neu astudio'n rhan-amser tra eu bod yn gweithio neu'n gwirfoddoli....
Mohammad Asghar: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth y rhai sy'n gadael yr ysgol yng Nghymru? OAQ55168
Mohammad Asghar: 4. Pa gamau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ55143
Mohammad Asghar: Mae'n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dwyrain De Cymru yw'r porth i Gymru. Diben y porth yw caniatáu i nwyddau a gwasanaethau fynd i mewn ac allan. Mae'n gwneud synnwyr, felly, fod cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol wrth ehangu economi sy'n tyfu ac yn ffynnu. Yr M4 yw porth strategol Cymru i weddill y Deyrnas Unedig ac i Ewrop. Dyma'r brif rydweli sy'n pwmpio...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae'r newyddion y bydd oddeutu 180 o swyddi'n cael eu colli am fod ffatri Kasai ym Merthyr Tudful yn mynd i gau yn ergyd drom i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Rwy'n cydymdeimlo â hwy ar yr adeg anodd hon. Mae Kasai yn darparu swyddi crefftus iawn yn cynhyrchu cydrannau mewnol i Honda, Jaguar, Land Rover a Nissan. Mae'n golled wirioneddol i Ferthyr Tudful, a ddaeth ar waelod tabl yn...
Mohammad Asghar: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y datganiad hwn. A gaf i ofyn cwestiwn i'r Gweinidog am gynllunio wrth gefn ar gyfer llifogydd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru? Yr wythnos diwethaf, cysylltwyd â mi gan grŵp ym Mwrdeistref Brent yn Llundain sy'n darparu cymorth mewn sefyllfaoedd brys, megis y rhai a gollodd gartrefi yn y tân yn Nhŵr Grenfell. Fe wnaethon nhw gynnig darparu...
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch y tarfu ar ddysgu disgyblion a ddigwyddodd yn sgil y streic gan athrawon yn Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Caerllion yng Nghasnewydd? Mae undebau'r athrawon yn dweud mai'r hyn sydd wedi ysgogi gweithredu diwydiannol yw adolygu'r cwricwlwm yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cymdeithas Genedlaethol yr...
Mohammad Asghar: Diolch, Madam Lywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog.
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae teledu cylch cyfyng wedi bod yn orfodol ym mhob lladd-dy ym mhob ardal yn Lloegr lle cedwir anifeiliaid byw i'w lladd ers 2018. Cyhoeddodd yr Alban gynlluniau ar gyfer deddfau newydd tebyg y llynedd. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oes gan 14 o 24 o ladd-dai gamerâu, er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ar gyfer eu gosod. Mae RSPCA...
Mohammad Asghar: 1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid fferm yng Nghymru? OAQ55109
Mohammad Asghar: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ffigurau a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn dangos bod y lefelau sy'n manteisio ar brawf sgrinio ceg y groth yng Nghymru ychydig dros 73 y cant. Mae hyn ymhell o dan y targed o 80 y cant a osodwyd gan eich Llywodraeth. Fodd bynnag, mae eu hymchwil yn dangos bod 63 y cant o fenywod sydd ag anableddau corfforol wedi methu...
Mohammad Asghar: Ddirprwy Weinidog, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn grymuso pobl sy'n byw gyda dementia ac yn cyfoethogi bywyd iddynt hwy a'r rhai sydd o'u cwmpas. Mae'r elusen, Arts 4 Dementia, yn helpu i ddatblygu gweithgareddau mewn lleoliadau celf i fywiogi ac ysbrydoli pobl yng nghamau cynnar dementia a'u gofalwyr fel bod y rhai sydd ei angen yn gallu dod o hyd i ysgogiad artistig ar...
Mohammad Asghar: Mae'n ofynnol i ysgolion amddiffyn disgyblion rhag radicaleiddio ac eithafiaeth fel rhan o'u dyletswyddau diogelu. Dywedodd adroddiad Estyn yn ddiweddar fod gan y mwyafrif o ysgolion ddealltwriaeth o’u rôl a’u cyfrifoldebau yn hyn o beth; fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr o'r farn fod radicaleiddio ac eithafiaeth yn berthnasol i'w hysgolion neu'r ardaloedd cyfagos....
Mohammad Asghar: Diolch am eich ateb. [Chwerthin.] Roedd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn eich beio chi, nid ni. Weinidog, yn ddiweddar, fe gyhoeddoch chi adroddiad cynnydd ar y grant o £36 miliwn a ddarparwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod yng Nghymru. O dan y cynllun, darperir cyllid ar gyfer staff ysgol newydd neu ystafelloedd ysgol ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng pedair a saith oed....
Mohammad Asghar: Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, bu penaethiaid yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei chynigion cyllidebol drafft ar gyfer addysg. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru nad yw'r gwariant arfaethedig ar addysg a nodwyd hyd yma yn dod yn agos at unioni'r niwed a wnaed gan flynyddoedd o danariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae ysgolion mewn diffyg ariannol, yn ei chael...
Mohammad Asghar: Unwaith eto, gyda Dawn Bowden, hoffwn ddweud yr un peth—mae Coleg Merthyr Tudful yn un o'r colegau addysg bellach sy'n perfformio orau yng Nghymru. Ac a wnewch chi ymuno â mi, Weinidog, i groesawu’r newyddion fod Coleg Merthyr Tudful ar restr fer gwobr coleg addysg bellach y flwyddyn y Times Educational Supplement 2020, sy’n ceisio cydnabod a gwobrwyo cyflawniad y colegau addysg...
Mohammad Asghar: 5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio ceg y groth yng Nghymru? OAQ55070
Mohammad Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am oruchwylio a gweithredu'r Ddeddf Cynllunio yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon ynghylch y cynnydd mewn caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn fy rhanbarth i. Er bod y datblygiadau hyn o fewn y cynllun Llywodraeth Leol, mae fy etholwyr yn pryderu bod y seilwaith lleol...
Mohammad Asghar: Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella lles anifeiliaid yn ystod y 12 mis nesaf?