Ken Skates: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn o gael datganiad am statws prosiect Porth Wrecsam o ystyried methiant Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun drwy broses cyflwyno ceisiadau ffyniant bro. Mae hwn yn gynllun hynod bwysig i'r gogledd. Cafodd ei lunio gan Lywodraeth Cymru; a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, gan yr awdurdod lleol, gan y brifysgol a chan y clwb...
Ken Skates: Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod hynny. Fe gyfarfûm â busnesau bach yn y diwydiant adeiladu tai yn ddiweddar, ac roeddent yn bryderus ynglŷn â'r mater hwn. A fydd y diwydiant tai yn bresennol yn y cyfarfod ar 9 Chwefror, ac a fyddwch chi'n gallu rhoi sicrwydd fod eu pryderon wedi cael sylw?
Ken Skates: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffosffad yn afonydd Cymru? OQ58928
Ken Skates: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad cyffrous. Rwy'n credu bod gan raglen ARTHUR yr holl botensial i ddod yn rhan anhygoel o bwysig, strategol o economi y gogledd ac, yn wir, y bwa niwclear ehangach ar draws y gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Wrth gwrs, fel y dywedoch chi, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa unigryw o fod yr unig ran o'r DU sydd wir yn paratoi i...
Ken Skates: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Ac fel gwnaethoch chi gyfeirio ato eisoes, mae gan bob dinesydd ran i'w chwarae wrth ysgafnu'r pwysau sydd ar y GIG, boed hynny o ran ein rheolaeth ar ein hiechyd ni ein hunain neu wrth geisio'r gwasanaethau sy'n briodol. Ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dinasyddion yn hynny o beth, a beth allem ni Aelodau'r Senedd ei wneud yn ein...
Ken Skates: Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y dylid cynnal sgyrsiau ar faterion sensitif fel cydnabod rhywedd gyda pharch a thosturi? Nid yw'n helpu o gwbl pan fydd grwpiau dienw a rhyfelwyr bysellfwrdd anoddefgar yn ymfflamychu trafodaeth gydag anwireddau ac iaith anoddefgar. Prif Weinidog, byddwn â diddordeb mawr yn eich barn am ymateb uniongyrchol Llywodraeth y DU gan fygwth rhwystro'r gyfraith...
Ken Skates: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc?
Ken Skates: Gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyflwyno metro'r gogledd, ac awgrymu y byddai datganiad blynyddol o gymorth mawr i'r Aelodau? Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau bysiau, o ystyried bod gwasanaethau bysiau yn mynd i fod mor amlwg o ran darparu metro'r gogledd. Diolch.
Ken Skates: Prif Weinidog, tybed a oeddech chi wedi gwneud asesiad o ganlyniadau hanner blwyddyn Banc Datblygu Cymru, ac, yn benodol, ei fuddsoddiad mewn prosiectau tai, gan gynnwys y cynllun cymorth prydlesi, a fydd yn sicrhau eiddo hirdymor newydd i'w rhentu gan awdurdodau lleol, gan helpu wedyn i atal digartrefedd.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am godi’r cwestiwn pwysig hwn, ac am ei ddiddordeb brwd yn y pwnc? Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, er bod ceir trydan yn llawer gwell i'r amgylchedd o ran defnydd dydd i ddydd, maent yn dal i beri problemau gyda deunydd gronynnol o freciau a theiars, felly nid dyma'r ateb terfynol i'r broblem, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies. Serch hynny, byddant yn...
Ken Skates: Rwy'n falch o ddweud bod cynnydd rhagorol wedi'i wneud ar weithredu cynllun aberthu cyflog er mwyn cael cerbydau trydan i'r Aelodau, i staff yr Aelodau ac i staff y Comisiwn. Mae’r bwrdd gweithredol wedi cymeradwyo’r cynllun mewn egwyddor, yn dilyn gwaith cefndir manwl, ac mae trefniadau terfynol bellach ar waith i sefydlu’r systemau a’r prosesau angenrheidiol yn y Senedd a chyda...
Ken Skates: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r sefyllfa ynghylch streptococcus grŵp A, yn enwedig mewn ysgolion? Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn yn wir ac mae adroddiadau yn y cyfryngau nawr y byddai modd defnyddio gwrthfiotigau fel mesur ataliol i amddiffyn plant rhag cyflyrau mwy difrifol, gan gynnwys y dwymyn goch a streptococcus ymledol grŵp A. Mae Iechyd...
Ken Skates: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc?
Ken Skates: Weinidog, mae hynny'n wych i'w glywed oherwydd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol wrth gwrs—y mater pwysicaf mae'n debyg—i'w ystyried ar sail drawsffiniol yn ardal Mersi a'r Ddyfrdwy. Y penwythnos diwethaf, fe aeth Carolyn Thomas a minnau i Gaer. Fe gyfarfuom â ffigyrau allweddol o dros y ffin yn Lloegr, gan gynnwys y meiri metro Steve Rotherham ac Andy Burnham, yn ogystal â...
Ken Skates: Diolch, Weinidog. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd y bydd y penderfyniadau hynny, oherwydd, fel y dywedwch, nid yw’r arian sydd wedi dod o San Steffan, er ei fod yn gynnydd, yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau chwyddiant ofnadwy y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu ledled Cymru. Weinidog, a wnewch chi roi syniad i ni o’r egwyddorion arweiniol a fydd yn cael eu dilyn wrth...
Ken Skates: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OQ58770
Ken Skates: 3. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor sefydlog y Cabinet ar ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy? OQ58772
Ken Skates: Wel, rhaid imi ddweud, mae’r Aelod yn dymuno inni leihau ein cyllideb, a bydd gwneud yr hyn a argymhellais yn gwneud yn union hynny. Ni allwch ei chael hi bob ffordd.
Ken Skates: Ac o ran ymgynghori, mae gennych aelod o'r Comisiwn yn eich grŵp sy'n gallu rhoi gwybod i chi am benderfyniadau—
Ken Skates: —a chytunwyd yng nghyfarfod y Comisiwn y byddem yn cymryd y cam hwn i arbed costau. Cafodd ei dderbyn gan y Comisiwn. Edrychwch, mae'n rhaid imi ddweud hefyd, o ran y bwrdd taliadau, fy mod yn meddwl efallai y dylai’r Pwyllgor Cyllid deimlo’n hyderus i wahodd y bwrdd taliadau ger ei fron i graffu arno, ac i ofyn y cwestiynau anodd a godwyd gan Mike Hedges, rwy'n credu, ac eraill. I...