Canlyniadau 21–40 o 2000 ar gyfer speaker:Lee Waters

3. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (15 Chw 2023)

Lee Waters: Mae gennym system fysiau sydd wedi’i phreifateiddio, fel rwyf wedi'i esbonio droeon, sy’n etifeddiaeth o breifateiddio'r Ceidwadwyr yn y 1980au, ac rydym yn byw gyda realiti hynny nawr, ac mae wedi methu; mae’r model busnes wedi methu, mae methiant yn y farchnad yma, ac rydym yn mynd i weld toriadau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn diflannu. Nid oes yr un ohonom yn dymuno gweld...

3. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (15 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, diolch am godi’r cwestiwn, gan ei fod yn fater sy’n peri cryn bryder i ni. Yn amlwg, nid yw hon yn sefyllfa hapus. Mae gennym rwydwaith bysiau sydd wedi’i breifateiddio, sy’n dibynnu ar allu gweithredwyr masnachol i wneud elw. Yn amlwg, mae’r pandemig wedi troi’r model busnes hwnnw ar ei ben, a’n hymyrraeth ni, gyda £150 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus, a gadwodd y sector...

3. Cwestiynau Amserol: Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (15 Chw 2023)

Lee Waters: Mae estyniad cychwynnol o dri mis yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y diwydiant yn y tymor byr tra byddwn yn parhau i weithio gyda hwy a chyda llywodraeth leol ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy’n gweddu’n well i’r patrymau teithio newydd rydym wedi’u gweld ers diwedd y pandemig.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Un o fy rhwystredigaethau mawr yw pa mor hir y mae popeth yn cymryd mewn trafnidiaeth. Un o'r tensiynau sydd gennym ni yw bod gennym ni wyddoniaeth hinsawdd sy'n dweud wrthym ni fod angen i ni weithredu ar frys, ac mae gennym ni systemau sy'n cymryd am byth. Pe baem ond yn gallu croesawu rhywfaint o'r arloesedd a welon ni yn ystod y pandemig, pan wnaethon ni weld lonydd beiciau dros dro yn...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, rwy'n gwybod bod Adam Price wedi ymrwymo i wireddu'r cynllun hwn. Mae'r geiriau yn y cynllun trafnidiaeth yn glir. Yr un geiriau ag y gwnaethom ni gytuno arnynt ar y cyd rhwng ein pleidiau yng nghytundeb y gyllideb. Fel y dywedais i yn gynharach, byddwn ni'n symud ymlaen i gam nesaf y broses honno. O ran statws polisi, mae gennym ni nawr ddatganiad polisi ffyrdd sy'n bolisi Cymru, felly...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Diolch. Eto, rwy'n gwerthfawrogi nad ydych chi wedi cael llawer o amser i edrych arno, ond rwy'n credu y byddwch chi'n gweld yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth bod sôn am y cynllun, y bydd yn destun y prawf, fel y mae unrhyw gynllun arall. Ac fel rydych chi'n ei ddweud, yn Lloegr y mae yn bennaf, ond mae disgwyl i ni dalu cyfran anghymesur o'r costau ein hunain, gan...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: O ran gwasgariad daearyddol, o'r 17 cynllun sy'n mynd ymlaen yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar drafnidiaeth, mae pump yn y gogledd, mae pump yn y canolbarth, felly nid wyf yn credu bod yr achos bod gogwydd daearyddol yn gwrthsefyll craffu. Ac nid wyf i'n derbyn y syniad na ddylen ni gael dull cenedlaethol o gludo ac adeiladu ffyrdd. Felly, dydw i ddim yn cytuno gyda'r Aelod ar hynny....

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Dydw i ddim yn gyfarwydd â manylion yr enghraifft y mae hi'n ei dyfynnu, ond byddwn i'n dweud yn gyffredinol y canfyddiad allweddol—. Un o'r profion rydyn ni wedi'u gosod ar gyfer cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol yw lleihau faint o garbon wedi'i wreiddio a'i ymgorffori sy'n gysylltiedig â hynny. Mae hynny'n awgrymu y byddem ni'n defnyddio deunyddiau llai carbon-ddwys, felly byddai angen...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar—efallai ddim yn llawn eto—y rhesymau a nodir ar gyfer y tri chynllun yn yr adolygiad ffyrdd. Er enghraifft, ar welliant cyffordd ffordd Maes Gamedd ar yr A494, dywed y panel adolygu: 'Ni ddylai’r cynllun fynd rhagddo ar ei ffurf bresennol. Dylid parhau i fonitro diogelwch y gyffordd. Dylid datblygu opsiynau eraill i arafu a...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Diolch. Rwy'n deall safbwynt Vikki Howells ar y ffordd hon, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu drosti'n gyson. Fe wnaeth yr adolygiad ffyrdd ei archwilio, ac maen nhw'n nodi'n fanwl yn eu hadroddiad y rhesymau pam nad ydyn nhw'n credu ei fod yn cydymffurfio â'r profion y mae wedi'u gosod, ac rydym ni wedi cytuno â nhw, i ddatblygu fel cynllun ffordd. Wedi dweud hynny, rydym ni wedi dweud yn ein...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, fel y gŵyr yr Aelod, rwyf i eisoes wedi cytuno i'w gyfarfod ef a dirprwyaeth o Lanbedr i drafod y mater. Rwyf i wedi fy rhyfeddu gan ei honiadau o ddiffyg gweithredu, pan ydyn ni wedi bod yn ceisio dro ar ôl tro i wneud cynnydd gyda'r awdurdod lleol, nad yw wedi cymryd rhan mewn ffordd sydd wedi dod â chynnydd gyda ni. Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd—maen nhw'n sicr wedi troi i fyny...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, mae'n ddrwg iawn gen i fyrstio eich swigen, Janet. Mae'n anodd dal i fyny, rhaid i mi ddweud, oherwydd pan wnaethon ni'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r newidiadau cylchfan, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i eich bod chi o blaid y penderfyniad. Rydych chi nawr yn erbyn y penderfyniad. Felly, mae'n eithaf dryslyd. Y pwynt am y cylchfannau hynny, fel y penderfyniadau eraill a wnaed...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hynny, a dywedais i yn gynharach bod angen i ni wneud y peth iawn i wneud y peth hawsaf i'w wneud. Rydyn ni angen trafnidiaeth gyhoeddus ar garreg y drws i bobl gyrraedd a mynd. Ac un o ddibenion ailgyfeirio ein llif prosiectau ffyrdd yw rhyddhau cyllid yn y blynyddoedd i ddod er mwyn caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Rydyn ni'n dioddef ar hyn o bryd o...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Diolch am hynny, ac mae'n safbwynt cyson mae Jane Dodds wedi ei chymryd ar y materion hyn, ac rwy'n ei werthfawrogi. Ar bwynt ardaloedd gwledig, yr wyf yn gwybod sy'n rhywbeth mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei godi hefyd, rwy'n derbyn yn llwyr, mewn ardaloedd gwledig, bod angen agwedd wahanol i ardaloedd trefol. Mae'n hollol bosib gwneud hynny. Os edrychwch chi ar gefn gwlad y Swistir neu gefn...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: —byddai gennym ddadl gyfoethocach. Mae'r mater bod gwariant ar deithio llesol yn is na lle byddem wedi hoffi ei weld yn fater o gapasiti mewn awdurdodau lleol. Mae hynny'n fater yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef gydag awdurdodau lleol, nad ydynt, yn syml, yn gallu gwario'r gyllideb rydyn ni'n ei darparu ar eu cyfer. Dyna pam mae'r arian lle mae e. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, o ystyried y cwynion sydd wedi eu gwneud yn y Siambr hon am y defnydd o iaith ynghylch iechyd meddwl yn ddiweddar, byddwn yn cwestiynu a yw defnyddio'r term 'gwallgof' yn briodol. Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Aelodau eraill, ac rwy'n meddwl y dylen nhw gymhwyso hynny iddyn nhw eu hunain. Efallai y byddwn i'n gofyn i chi ystyried hynny wrth archwilio'r cofnod....

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Diolch i chi. Rwy'n parchu safbwynt Jack Sargeant, ac roeddwn i'n falch o gwrdd ag ef a Mark Tami i drafod y materion. Rwy'n deall cryfder y teimladau sydd yn yr ardal leol ynglŷn â mynd i'r afael â'r pryderon o ran ansawdd aer, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu edrych ar Aston Hill fel achos ar wahân. Fe fyddwn ni'n ystyried datblygu datrysiadau gyda'r awdurdod lleol a fydd yn dod â...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Efallai y gallaf i egluro. Rwy'n sylweddoli bod llawer o ddogfennau i'r Aelodau bori drwyddyn nhw mewn byr o amser. Fe wnes i roi sesiwn friffio i Blaid Cymru fore heddiw i geisio caniatáu i chi ddeall cefndir y penderfyniadau hyn. Nid adroddiad gan Lywodraeth Cymru yw'r adolygiad ffyrdd; adroddiad annibynnol yw hwn. Rydych chi'n dyfynnu yn y fan yna, gan ein cyhuddo ni o fynd yn groes i'n...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (14 Chw 2023)

Lee Waters: Wel, diolch i chi am y cwestiwn, ac a gaf i'n gyntaf oll ymddiheuro na chafodd y datganiad ei roi i chi mewn da bryd? Yn sicr, dyna oedd y bwriad. Rwy'n credu i ni ddechrau ychydig yn gynt, o ganlyniad i hynny, roedd yna oedi wrth iddo gael ei roi i chi cyn i mi godi, ond pechod trwy esgeulustod yn hytrach nag un bwriadus oedd hwnnw, ac fe wnes i gyfarfod â Natasha Asghar fore heddiw mewn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.