Vikki Howells: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol cyllid ffyniant bro? OQ59122
Vikki Howells: Hoffwn ddechrau drwy gynnig fy niolch i'r pwyllgor, ei dîm clercio a'r tystion am yr hyn rwy'n ei ystyried yn ddarn cadarn iawn o waith. Yn fy nghyfraniad, byddaf yn canolbwyntio ar un neu ddau o'r argymhellion allweddol. Yn gyntaf, argymhelliad 1 ynghylch hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol. Rydym i gyd yn gwybod ei bod hi'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn mynychu'r ysgol, ac...
Vikki Howells: Diolch, Trefnydd. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn amserol yn bwysig i'n GIG, yn hanfodol i bobl mewn angen, ac yn gallu hyd yn oed achub bywydau. Dyna pam rwy'n falch iawn o gyflwyniad y gwasanaeth ffôn '111 pwyswch 2' i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys. Gyda'r bwriad y bydd hwn yn cael ei gyflwyno i holl ardaloedd byrddau iechyd Cymru erbyn...
Vikki Howells: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghwm Cynon? OQ59104
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae gen i ddiddordeb go iawn mewn gwybodeg y GIG a sut y gellir ei defnyddio i wella gwasanaethau. Felly, nodaf eich sylwadau ynghylch systemau digidol a Chanolfan Ganser Felindre yn symud i system gweinyddu cleifion Cymru, ac roedd yn ddiddorol gen i ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar y rhaglen gwybodeg canser. Felly, mae gen i ambell gwestiwn...
Vikki Howells: Diolch i chi am yr ateb yna, Gweinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Optegwyr Gwynn yn Aberdâr i ddysgu mwy am ragnodwyr annibynnol a'r cytundeb optometreg newydd. Roeddwn wedi rhyfeddu o glywed am y 70 o ragnodwyr annibynnol a'r gwaith y maen nhw'n gallu ei wneud eisoes o ran trin a rhoi diagnosis o gyflyrau fel glawcoma a dirywiad maciwlaidd, diolch i raglen hyfforddi a ariannir yn llawn gan...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd.
Vikki Howells: 10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau optometreg yng Nghymru? OQ59030
Vikki Howells: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r rownd ddiweddaraf o gyllid ffyniant bro ar Gymru?
Vikki Howells: Mae'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, ac mae elusen Jo's Cervical Cancer Trust wedi lansio ei hymgyrch fwyaf eto, yr ymgyrch i gael gwared ar ganser ceg y groth. Mae tua 160 diagnosis yn cael eu gwneud bob blwyddyn, a dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Ond yma yng Nghymru, mae gennym yr arfau i sicrhau bod canser ceg y groth yn rhywbeth sy'n perthyn...
Vikki Howells: Weinidog, mae gan Gwm Cynon 19 o ganolfannau croeso yn y gaeaf, sy’n cynnig amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes i bobl leol yn ystod y dydd, ac rwy’n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i bawb sy’n darparu’r adnodd amhrisiadwy hwn y gaeaf hwn. Mae darparu cyngor a chymorth i'r bobl sy'n mynychu'r mannau hyn yn un o amcanion allweddol y canolfannau. Felly, hoffwn ofyn pa waith sy'n...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n cytuno â'ch sylwadau am ddiben gwerthuso, gwella ac atebolrwydd o fewn y broses addysg. Maen nhw i gyd yn weithdrefnau pwysig er mwyn i ysgolion allu gwella yr hyn y maen nhw'n ei gynnig i ddysgwyr a'u deilliannau. Rwyf eisiau canolbwyntio ar eich sylwadau ynghylch monitro a samplu cenedlaethol. Fel cyn-athro ysgol uwchradd,...
Vikki Howells: Trefnydd, yr wythnos hon yw Wythnos Atal Canser Serfigol. Mae tua 160 diagnosis o achosion o ganser serfigol bob blwyddyn. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser i fenywod o dan 35 oed. Rwyf i wedi bod yn gweithio gydag Jo's Cervical Cancer Trust i gynyddu'r nifer sy'n dewis cael brechlyn HPV a sgrinio serfigol, gan ein bod ni'n gwybod bod sgrinio rheolaidd yn lleihau'r risg hyd at 70 y cant....
Vikki Howells: Prif Weinidog, gan droi at wasanaethau bysiau, sef, wrth gwrs, y rhan o'n system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei defnyddio fwyaf, ac, yn amlwg, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynigion ar gyfer newid deddfwriaethol a model newydd ar gyfer rhedeg gwasanaethau bysiau, mae arwyddion llafar yn un ateb i alluogi pobl sydd wedi colli eu golwg gael gafael ar wybodaeth...
Vikki Howells: Diolch i'r Cadeirydd, aelodau'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor newid hinsawdd am lunio adroddiad mor gynhwysfawr. Rwy'n falch o weld y dull ar y cyd a ddefnyddir o ystyried gwasanaethau bysiau a threnau gyda'i gilydd. Yn y Senedd ddiwethaf, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac fe fwynheais gymryd rhan yn ein hymchwiliadau i fysiau a'r rheilffyrdd ar wahân ar y...
Vikki Howells: Diolch. Fel Aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ymwelais â'r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yn Gelli Aur y llynedd i ddysgu rhagor am eu partneriaeth maethynnau fferm. Pa gasgliadau y daeth Llywodraeth Cymru iddynt o'r prosiect hwn o ran y ffyrdd y gellir defnyddio trin slyri i gefnogi'r sector amaethyddol, ond hefyd i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru?
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Hyd yn oed cyn y cynnydd diweddar yn y cap ar brisiau tanwydd, gwyddom fod bron i hanner yr holl aelwydydd yn wynebu risg o fynd i dlodi tanwydd, ac rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau, fel fi, wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n cysylltu â hwy mewn dirfawr angen cyngor a chymorth. Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi...
Vikki Howells: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu ymyriadau i ddileu tlodi tanwydd o fewn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24? OQ58945
Vikki Howells: 9. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu sector diwydiant amaethyddol bywiog? OQ58946
Vikki Howells: Gweinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn weddol ddiweddar yn yr ysgol gynradd newydd sbon yn fy etholaeth i, sef ysgol gynradd Hirwaun, a adeiladwyd o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gyda £10.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rwy'n meddwl, yn ôl pob tebyg, mai hi oedd un o'r ysgolion olaf i gael ei adeiladu o dan y fersiwn hon o'r cynllun...