Rhun ap Iorwerth: A gaf innau ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog o ran ein diolch i'r gweithlu iechyd a gofal am eu gwaith diflino nhw? Diolch am y datganiad heddiw. Mae yna egwyddorion pwysig iawn yma y gallwn ni i gyd eu cefnogi, gobeithio—pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau, a'r angen i drawsnewid gwasanaethau go iawn er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae'r gronfa yma, wrth gwrs,...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n mynd i gyfeirio yn fy eiliadau olaf un, Dirprwy Lywydd, at y datganiad olaf gan y Gweinidog. 'I gloi, i roi sicrwydd i Aelodau mai deintyddiaeth yw un o fy mhrif flaenoriaethau, dwi eisiau datblygu gwasanaeth deintyddol y GIG yng Nghymru sy'n deg i ddeintyddion'— mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; maen nhw'n gadael yn eu heidiau— 'sy'n cyflawni ar gyfer risg ac anghenion y...
Rhun ap Iorwerth: Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y newidiadau i gytundebau a’r bwriad o ehangu mynediad at wasanaethau NHS. Mae’n dweud bod 140,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld. Ar y wyneb, wrth gwrs, mae hynny’n swnio’n dda, ond mae’n gwbl blaen nad yw hyn yn gynaliadwy. Roeddwn i’n siarad ddoe efo deintydd sy’n gwbl ymrwymedig i’r NHS, a oedd wedi llwyddo i daro’r targed a...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi clywed datganiadau yn ddiweddar yn dweud bod deintyddiaeth y GIG bellach yn system ddwy neu dair haen, a'r ffaith yw bod system ddeintyddol breifat wedi bod erioed—dewis arall sefydledig. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n syfrdanol clywed Gweinidog Llafur yn cyfeirio at y rhaniad real iawn hwnnw rhwng y bobl ffodus ac anffodus mewn ffordd mor ddidaro. Mae'r...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad ac am ei rannu efo ni ymlaen llaw. Ond mae’n rhaid dweud ei fod o’n ddatganiad rhyfeddol mewn sawl ffordd, ac mae gen i ofn nad ydy i’w weld yn adlewyrchu realiti’r gwasanaeth deintyddol, na phrofiadau cleifion ar unrhyw lefel, bron. Mae’n un arall o’r datganiadau yna sy’n rhoi’r argraff un ai bod popeth yn iawn neu fod problemau mewn llaw, pan fo’r...
Rhun ap Iorwerth: 'Mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r gwasanaethau anoddach i'w hadfer yn dilyn pandemig COVID-19 ac yn esbonio, yn rhannol, pam mae pobl yn cael trafferth cael mynediad at ofal deintyddol y GIG.'
Rhun ap Iorwerth: Mae’n gwbl disingenuous, mae gen i ofn. Wrth gwrs bod COVID wedi dod â heriau anferth i ddeintyddiaeth, fel yr holl wasanaethau iechyd a gofal. Mi oedd y rhai mewn deintyddiaeth yn broblemau oedd yn rhai dwys iawn, iawn cyn i COVID daro. Ac mae pethau'n mynd yn waeth; dwi am ddyfynnu eto.
Rhun ap Iorwerth: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, yn rhoi eglurhad o'r broses a ddilynir—yn fuan, gobeithio—i gyhoeddi rhoi statws porthladd rhydd i borthladd neu borthladdoedd yng Nghymru, penderfyniad a wnaed ar y cyd, wrth gwrs, gan Lywodraethau'r DU a Chymru. A hoffwn roi ar y cofnod, unwaith eto, fy niolch i gyngor Môn a Stena am lunio cais cryf iawn, iawn sydd â buddiannau pobl...
Rhun ap Iorwerth: Yn syml iawn, be dwi'n gofyn i'r Prif Weinidog i'w wneud heddiw ydy cynnal adolygiad go iawn o'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen efo'r cynllun ar gyfer croesiad y Fenai. Dwi'n nodi bod comisiwn Burns wedi cael cais i edrych ar y gwahanol opsiynau. Dwi wedi cyflwyno dadl i'r comisiwn hwnnw dros atgyfodi'r cynllun. Wrth gwrs, yr adolygiad ffyrdd yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yn bennaf oedd...
Rhun ap Iorwerth: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad ffyrdd? OQ59264
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n meddwl ei bod hi'n drawiadol fod adroddiad yr adolygiad ffyrdd ar y drydedd groesfan yn darllen fel achos dros y groesfan honno. Fe ddyfynnaf yma. Y prif achosion dros newid yw tagfeydd—nid yw hynny ar frig fy rhestr i, mewn gwirionedd, ond— 'tagfeydd a diffyg cadernid' pont Britannia a phont Menai. Byddai'r 'cynllun yn gwella dibynadwyedd cludo nwyddau.' 'Byddai mynediad drwy...
Rhun ap Iorwerth: Rwy'n derbyn bod Canol Caerdydd ar ben arall y wlad. Un gymhariaeth fyddai fel gofyn i rywun feicio o Grangetown i Lan yr Afon drwy Lanrhymni: gallwch ei wneud, ond nid yw'n ymarferol. Mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau teithio llesol hynny'n ymarferol ac yn ddeniadol i bobl. Ni wnewch chi gerdded na beicio o Lanfairpwll i Barc Menai, ddau gan llath i ffwrdd, drwy fynd ychydig...
Rhun ap Iorwerth: Mae'r adolygiad ffyrdd, fel rôn i'n dweud, yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio'r dec isaf ar gyfer ehangu rheilffordd ar gyfer y dyfodol, er mwyn ehangu trafnidiaeth gyhoeddus, a dyna ichi enghraifft yn fanna o'r dryswch yn yr adroddiad ac yn ymateb y Llywodraeth. 'Does dim angen pont,' rydyn ni'n ei glywed, 'Mae angen annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.' A dwi'n...
Rhun ap Iorwerth: Ydw.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Fel y gallwch chi ddyfalu, dwi eisiau canolbwyntio ar un prosiect yn benodol, sef croesiad y Fenai. Rwy'n dweud 'croesiad y Fenai' achos cofiwch nad gofyn am drydedd bont dros y Fenai ydw i yn angenrheidiol, ond gofyn am groesiad gwydn ydw i. Gwnewch o mewn ffordd arall, heb bont arall, os liciwch chi. Ac mae yna sawl ymchwiliad wedi edrych ar opsiynau eraill—cael...
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn hollol iawn fod hyn—ei wneud yn destun mesurau arbennig—yn gam roedd angen ei gymryd nawr. Wrth gwrs, fe ddylai fod wedi bod mewn mesurau arbennig. Ond y cwestiwn yw pam fod gennym fwrdd sydd, ers wyth mlynedd, wedi bod angen bod mewn mesurau arbennig. Os na fydd y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i edrych ymlaen at ddechrau newydd, gyda byrddau iechyd...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Os oedd yr hyn wnaeth y Gweinidog efo bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf i fod i roi gobaith newydd i bobl, mae gen i ofn nad dyna ddigwyddodd. Beth sydd gennym ni ydy poblogaeth a gweithlu efo'u pennau yn eu dwylo. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen. Yn 2015, mi ddywedodd Mark Drakeford ei fod o'n rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig oherwydd pryderon am...
Rhun ap Iorwerth: Pam y mae'r Gweinidog mor benderfynol mai'r bwrdd iechyd diffygiol, camweithredol hwn yw'r model gorau sydd ar gael i'r cleifion yng ngogledd Cymru? Pam ar y ddaear na fyddai'n rhannu fy nymuniad i ddechrau eto, gyda dau neu dri bwrdd iechyd llai? A chyn iddi ddweud wrthyf y byddai hyn yn tynnu sylw oddi wrth y ffocws ar wella'r bwrdd, a wnaiff hi sylweddoli nad oes gennyf i na phobl gogledd...
Rhun ap Iorwerth: Mi fuaswn i'n licio cael datganiad, os cawn ni, ynglŷn â'r gwaith ymarferol a fydd yn cael ei wneud gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac yntau, rŵan, dan fesurau arbennig. Yn benodol, dwi eisiau gweld symud ymlaen ar y gwaith o ddarparu gwell gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi a'r ardal. Mae yna greisis mewn gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi, byth ers i ddwy feddygfa ddod o dan...
Rhun ap Iorwerth: Does yna ddim amheuaeth o gwbl bod Brexit, wrth gwrs, wedi bod yn niweidiol iawn i borthladd Caergybi. Un ddadl gref dros roi dynodiad porthladd rhydd i Gaergybi, wrth gwrs, ydy bod dynodiad eisoes wedi cael ei roi i Lerpwl, lle mae'n bosibl hwylio'n uniongyrchol i Ogledd Iwerddon, a'r ofn ydy bod y dynodiad hwnnw yn rhoi mantais annheg i Lerpwl dros Gaergybi. Ond yn edrych i'r hirdymor, un...