Canlyniadau 21–40 o 2000 ar gyfer speaker:Jayne Bryant OR speaker:Jayne Bryant OR speaker:Jayne Bryant OR speaker:Jayne Bryant

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Diwedd Oes (13 Rha 2022)

Jayne Bryant: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ofal diwedd oes yng Nghymru? OQ58890

5. Datganiadau 90 Eiliad ( 7 Rha 2022)

Jayne Bryant: Neithiwr, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, cefais y fraint o ymuno ag Aelodau, Diabetes Cymru a theulu Peter Baldwin yn y Senedd i ddathlu bywyd a gwaddol Peter Baldwin wrth inni nesáu at yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddo yn ugain oed. Roedd Peter yn 13 ar 10 Rhagfyr 2014. Roedd yn caru bywyd, yr ysgol a'i ffrindiau. Roedd yn blentyn ffit ac  iach yn ei arddegau a...

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Jayne Bryant: Hoffwn ddweud 'diolch yn fawr' wrth Natasha am godi hyn heddiw. Mae'n ddadl hynod o bwysig, ac ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yma yn y Senedd, rydym eisoes wedi clywed am bwysigrwydd diogelwch ar-lein yn ein gwaith. Dywedodd ein hymchwiliad i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wrthym fod ymddygiad pobl ifanc mewn ysgolion yn adlewyrchiad o dueddiadau sydd eisoes wedi hen ennill eu...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi (29 Tach 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae hi'n gwbl dorcalonnus clywed am farwolaeth Logan, ac rwy'n llwyr adleisio'r cyfan a fynegodd pob Aelod arall heddiw, ac yn dweud ein bod ni'n meddwl am dad Logan a ffrindiau ac athrawon Logan i gyd, a phawb a oedd yn ei garu. Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi sôn ynglŷn â'r argymhellion cenedlaethol, a'ch bod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cost Gynyddol Byw (29 Tach 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn, mae'n hanfodol bod gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi â phosibl. Mae costau byw o ddydd i ddydd ynghyd â threuliau annisgwyl yn golygu y gall chwistrelliadau o arian parod fod yn achubiaeth enfawr. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cynnig grantiau, ond yn anffodus, mewn llawer o achosion, nid yw pobl yn ymwybodol o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cost Gynyddol Byw (29 Tach 2022)

Jayne Bryant: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Gorllewin Casnewydd? OQ58804

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Newport Wafer Fab (22 Tach 2022)

Jayne Bryant: Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y pryniant gan Nexperia oherwydd materion diogelwch cenedlaethol, yn ddealladwy, wedi cipio'r penawdau. Fodd bynnag, yr hyn sy'n cael ei golli yw'r effaith y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei gael ar y gweithlu hynod fedrus ac ymroddedig o dros 500. Fe fyddwch yn gwybod, dros y blynyddoedd, mewn gwahanol ymgnawdoliadau, fod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Newport Wafer Fab (22 Tach 2022)

Jayne Bryant: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i rwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fab? OQ58769

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr' (26 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Ar y pwyntiau a wnaeth Jack Sargeant, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r deisebydd am y pwyntiau pwysig a godwyd yn y ddeiseb, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n helpu i egluro pam nad oedd y pwyllgor yn teimlo y gallem ymestyn ein hargymhellion i ysgolion cynradd. Fe wyddom, ac fe glywsom yn ein hymchwiliad dro ar ôl tro, fod aflonyddu rhywiol yn debygol o ddechrau yn yr ysgolion...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr' (26 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n meddwl iddi fod yn un bwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl gyfraniadau'n fawr. Hoffwn gofnodi yn gyntaf oll fy niolch a diolch y pwyllgor i'r tîm clercio ac ymchwil, sydd wedi bod yn wych drwy gydol yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â'n tîm allgymorth, a hoffwn ddiolch i holl...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr' (26 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Mae achosion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn hynod gymhleth. Am y rheswm hwnnw, ychydig iawn o werth a welwn mewn beio unrhyw un am ei achosion sylfaenol. Ond rydym yn glir fel pwyllgor fod angen i lawer o bethau newid. Clywsom dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol a chan bobl ifanc, er gwaethaf pocedi o arferion da, fod addysg rhyw a pherthnasoedd yn wael yn gyffredinol. Clywsom nad...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg — 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr' (26 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ddechrau fy sylwadau agoriadol, dylwn rybuddio unrhyw un sy’n gwrando ar y ddadl heddiw y byddaf yn siarad mewn ffordd gyffredinol am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant a phobl ifanc. Efallai y bydd rhywfaint o'r hyn rwyf fi ac eraill yn sôn amdano'n peri gofid i rai pobl. Fe ddechreuaf drwy ddweud yn glir beth yn union rwy'n ei olygu wrth sôn...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Treftadaeth Hanesyddol Casnewydd (19 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedoch chi, o'r Siartwyr i Dŷ Tredegar, o'r bont gludo i'n llong ganoloesol, mae Casnewydd yn drysorfa o arwyddocâd hanesyddol. Un o'r tlysau yn ein coron yw pentref Caerllion a'r bensaernïaeth Rufeinig sy'n parhau i fod yno heddiw. Bydd llawer yma wedi ymweld â'r lle, ac os na, Weinidog, mae croeso mawr i chi ymuno â mi a'r Dirprwy Weinidog ar...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Treftadaeth Hanesyddol Casnewydd (19 Hyd 2022)

Jayne Bryant: 3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd? OQ58579

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22 (18 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Mae adroddiadau blynyddol bob amser yn ôl-weithredol, ond mae'r adroddiad blynyddol hwn hyd yn oed yn fwy ôl-weithredol nag arfer, oherwydd, wrth gwrs, eleni, mae'r comisiynydd presennol yn adrodd ar waith ei rhagflaenydd. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i Sally Holland, unwaith eto, am bopeth a wnaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gydol ei chyfnod, a llongyfarchiadau,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Thérèse Coffey, ei bod wedi rhoi gwrthfiotigau presgripsiwn i ffrind? Mewn wythnos lle mae anallu'r Llywodraeth Dorïaidd gyda'r economi, yn gwbl briodol, yn cipio'r penawdau, roedd hefyd yn hynod bryderus clywed sylwadau di-hid Gweinidog Iechyd y DU...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Colli Babanod (11 Hyd 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Gwn fod hwn yn bwnc sy'n agos at eich calon, a bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud llawer iawn i gefnogi rhieni drwy gyfnod anhygoel o anodd. Roeddwn i eisiau crybwyll profiadau fy etholwyr, a gafodd fabi yn farwanedig yn drist iawn ar ôl 40 wythnos. Fe wnaethon nhw ofyn am bost-mortem, sy'n ddealladwy, ond oherwydd y bylchau mewn patholeg bediatrig, fe gawson nhw...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Colli Babanod (11 Hyd 2022)

Jayne Bryant: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sydd wedi dioddef colli babanod? OQ58551

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (28 Med 2022)

Jayne Bryant: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar les anifeiliaid?

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jayne Bryant: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, a'ch ymrwymiad personol i gefnogi'r gweithlu addysg yn llawn. Rydym yn disgwyl cymaint gan athrawon a staff ysgolion; mae eu swyddi'n ymestyn i fod yn gymaint mwy nag addysgwyr ac rydym yn gwybod eu bod yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw. Mae hyn yn aml yn ymestyn y tu allan i'w...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.