Mandy Jones: Gadewch imi ddatgan buddiant yn gyntaf, gan fy mod yn byw, ar adegau arferol, yn un o'r blociau sy'n destun yr adolygiad o ddiogelwch adeiladau yng Nghaerdydd. Gweinidog, croesawaf newyddion am y Papur Gwyn heddiw, tua thair blynedd a hanner ar ôl y golygfeydd ofnadwy hynny yn Llundain. Sylwaf fod nifer yr anheddau o'r fath yng Nghymru yn llawer llai. Fodd bynnag, dylid rhoi'r un...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y nifer sydd wedi manteisio ar y gronfa cadernid economaidd a lansiwyd ar 13 Ionawr 2021 gan fusnesau perthnasol yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Hoffwn dalu teyrnged i holl staff y Comisiwn, ac yn wir, i’r holl staff cymorth gwleidyddol sydd wedi addasu mor gyflym ac mor effeithiol i ffordd gwbl wahanol o weithio. Rwy'n gweld colli bywiogrwydd y Senedd yn fawr pan fo'n gweithredu fel yr arferai wneud. Rwy'n gweld colli'r staff cymorth yno, a'r holl staff eraill o gwmpas y lle, yn enwedig y staff...
Mandy Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Lywydd, am y wybodaeth honno, roedd yn wych.
Mandy Jones: Weinidog, rwyf wedi mynegi fy mhryderon am ein pobl ifanc yn y gorffennol, ond mae rhieni pryderus yn cysylltu â mi yn awr ynglŷn â safon a chysondeb y dysgu ar-lein y mae eu plant yn ei dderbyn. Ar wahân i'r hyn a ddywedodd Llyr a Mark yn gynharach, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol Cymru hefyd wedi dweud y gallai fod angen prif swyddog digidol ar gyfer addysg. A allwch chi ddweud...
Mandy Jones: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith parhau i gau ysgolion ar safonau addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ56079
Mandy Jones: 2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i addasu ffyrdd o weithio i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud cyn y chweched Senedd? OQ56081
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Gogledd Cymru yn elwa o gyllideb 2021-22?
Mandy Jones: Rwy'n croesawu'r cynnig hwn heddiw ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil Masnach yn gam deddfwriaethol arall tuag at ymwreiddio Brexit, sef y newid cyfansoddiadol mwyaf, wedi'r cyfan, ar unrhyw bapur pleidleisio yng Nghymru ers y bleidlais dros ddatganoli. Rwy'n sylwi mai dyma'r ail dro i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach ddod gerbron y Siambr hon, gan adlewyrchu, rwy'n credu,...
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Llynedd, awgrymodd llawer o adroddiadau bod rhestr hirfaith a chynyddol o achosion wedi cronni ar gyfer llysoedd troseddol a sifil, a chodwyd pryderon y gallai hyn fod yn peri i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol beidio â pharhau â'u hachosion, oherwydd eu bod nhw eisiau symud ymlaen gyda'u bywydau. Pa drafodaethau ydych...
Mandy Jones: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru? OQ56080
Mandy Jones: Diolch, Gweinidog. Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall gyda diddordeb. Gan fod henebion perthnasol wedi eu nodi erbyn hyn, mae gen i ddiddordeb mewn clywed eich cynlluniau ar gyfer y camau nesaf, a'ch asesiad o sut y bydd y camau hynny yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fy rhanbarth i, ac yng ngweddill Cymru yn wir. Diolch.
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cydlyniant cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ56038
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio cardiau brechu COVID-19?
Mandy Jones: Pwy fyddai wedi meddwl yr haf diwethaf y byddai dinasyddion y DU yn cael caniatâd y Llywodraeth i ymgynnull mewn grwpiau teuluol ar gyfer Nadolig 2020? Ac yma yng Nghymru, pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn cael gwybod beth y gallem ei brynu, ble, ac na allwn aros mewn tafarn neu fwyty ar ôl 6 p.m. a chael diod alcoholig gyda'n pryd bwyd cynnar? Y cyfyngiadau diweddaraf hyn yw testun y...
Mandy Jones: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi cael cannoedd—yn llythrennol, cannoedd—o negeseuon e-bost am y llwybr coch, ac ysgrifennais atoch yn yr haf am hyn; diolch i chi am eich ateb. Gwn eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn llythyr ym mis Hydref. Mae etholwyr yng ngogledd Cymru'n dal i fynegi eu pryderon hyd yn oed heddiw....
Mandy Jones: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y llwybr coch yn sir y Fflint? OQ56006
Mandy Jones: Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu atoch yn ddiweddar i ofyn am yr asesiadau effaith ar iechyd meddwl a gynhaliwyd, does bosibl, cyn gwneud penderfyniadau mor aruthrol a hirdymor i ddileu ein hawliau sifil. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro y bydd yr effaith ar ein hiechyd meddwl cyfunol yn enfawr. Rwy'n pryderu'n benodol am ein pobl ifanc, felly pa drafodaethau rydych yn eu...
Mandy Jones: Weinidog, ymddengys i mi fod angen i economi'r DU ymadfer, ac yn bwysicach, mae angen iddi dyfu. Mae’n rhaid i'r ymagwedd yn y dyfodol ymwneud i raddau mwy ag annog gwariant a thwf a hyder, a pheidio â rhwystro pob un o'r rhain drwy orfodi unrhyw feichiau treth uwch yng Nghymru. A ydych yn cytuno â'r datganiad hwnnw?
Mandy Jones: Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac...