Canlyniadau 21–40 o 3000 ar gyfer speaker:Carl Sargeant OR speaker:Carl Sargeant OR speaker:Carl Sargeant

5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol (24 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro bwriad y Llywodraeth hon i wella ffyniant a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae tai yn un o'r pum maes blaenoriaeth sy’n drawsbynciol a nodwyd yn y strategaeth ac mae’n sail i gyflawni nifer o amcanion strategol eraill. Mae angen cartrefi o ansawdd da ar bobl ar hyd eu hoes. Maen nhw’n rhoi mangre i blentyn dyfu a ffynnu...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Llwybr Tai Cenedlaethol ar Gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Ogwr am ei gwestiynau. Lansiais y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog ym mis Tachwedd 2016. Rydym yn parhau i hyrwyddo’r dull drwy gyhoeddi taflenni, posteri a chardiau cyngor yn ddiweddar, fel y gall unrhyw un sydd angen llety gael mynediad at y cymorth y maent ei angen.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Llwybr Tai Cenedlaethol ar Gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n credu mai’r hyn a welwn yw ein bod yn dysgu o brofiad. Dywedais wrth Vikki Howells yn gynnar ynglŷn ag ymdrin â chyn-aelodau’r lluoedd arfog—mae’n broses amrywiol am fod anghenion pawb yn wahanol. Mae’n rhaid inni ddeall hynny’n well. Yr hyn yr ydym yn falch iawn ohono gyda’r llwybr tai yw bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai’n wynebu’r her yn hyn o beth ac yn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Caethwasiaeth Fodern (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ddwyn y mater i fy sylw. Byddaf yn gofyn i fy nghydgysylltydd atal masnachu pobl gyfarfod â’r Aelod er mwyn iddi egluro hynny iddo, a byddaf yn gweithredu’n unol â’i gyngor.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Caethwasiaeth Fodern (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: O, credwch fi, mae masnachu pobl yn fyw yn y DU, a ni yw’r unig ran o’r wlad sydd â chydgysylltydd atal masnachu pobl. Mae fy nhîm yn gweithio’n hynod o galed gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i sicrhau ein bod yn ceisio cadw golwg ar y mater hwn, ond rydym yn rhan o ynys fwy o faint. Buaswn yn annog yr Aelod ac Aelodau eraill i siarad â rhannau eraill o weinyddiaethau’r DU i...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Caethwasiaeth Fodern (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Wel, mae’r Aelod yn iawn: mae’r cod yn torri tir newydd i Gymru, ynghyd â llawer o bethau eraill, ac yn torri tir newydd i’r DU. Gyda’r canllawiau atodol, mae’n darparu modd ymarferol i fynd i’r afael ag arferion annheg, anfoesol ac anghyfreithlon, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, yr Aelod arweiniol ar hyn yw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Caethwasiaeth Fodern (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Heddiw yw Diwrnod Gwrth-Gaethwasiaeth, ac mae digwyddiadau a gweithgareddau gwrth-gaethwasiaeth yn digwydd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o hyn. Drwy godi ymwybyddiaeth a gwella lefelau adrodd gellir dwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ac yn hollbwysig, gellir cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Credyd Cynhwysol (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Rwy’n wirioneddol—. Pan fyddaf yn cael cwestiynau, mae’r Aelod yn codi’r mater hwn yn rheolaidd, ac mae hynny’n galonogol o ran ei ymrwymiad hefyd. Y ffaith amdani yw ein bod yn gwneud llawer o bethau sy’n lliniaru’r problemau a’r effeithiau sy’n digwydd o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan, ond fel y dywedais yn gynharach, mae...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Credyd Cynhwysol (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n bryderus iawn am effaith ddinistriol y credyd cynhwysol ar y rhai sy’n aros am chwe wythnos neu fwy am eu taliadau cyntaf. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn galw arno i oedi cyn cyflwyno gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Tlodi Ymysg Plant (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Wel, mae hwnnw, unwaith eto, yn destun trafodaeth hirsefydlog arall yn y Cynulliad hwn. Buaswn yn eithaf awyddus i drafod y mater ymhellach gyda’r Aelod ac eraill i wneud yn siŵr mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Yr hyn sy’n fy mhryderu am hyrwyddwyr mewn sefydliadau yw mai bathodyn neu deitl ydyw yn aml. A dweud y gwir, yr hyn rwy’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau bod yr...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Tlodi Ymysg Plant (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Nid wyf yn anghytuno’n llwyr â’r Aelod o ran dod â’r weinyddiaeth i Gymru. Fodd bynnag, yr hyn sy’n peri pryder i mi yw anallu Llywodraeth y DU i gynnal hynny gyda’r cyllid priodol y tu ôl iddo. Rwy’n credu y buaswn yn awyddus iawn i gael trafodaethau pellach. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwerau’n dod i’r Cynulliad heb gyllid i’w cefnogi....

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Tlodi Ymysg Plant (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Diolch. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi ein hamcanion ar gyfer trechu tlodi plant. Rydym wedi ymrwymo i ddull Llywodraeth gyfan o drechu tlodi plant ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd, gyda’r ymgynghoriad ar y person cymwys a phriodol a’r ymgynghoriad llety cymwys a phriodol sydd ar y gweill gennym.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Roedd hyn yn destun trafodaeth hir wrth i ni arwain Deddf Tai (Cymru) 2014 drwy’r Cynulliad yn y tymor blaenorol. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wrth gadw’r gallu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis, yn cynnig mwy o amddiffyniad i ddeiliaid contractau drwy broses y Ddeddf ar gyfer troi allan er mwyn dial? Felly, mae yna ran o’r Ddeddf sy’n...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Hysbysiadau o dan Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Nid ydym yn casglu data penodol ar hysbysiadau adran 21. Fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno gofynion newydd o ran eu defnydd, ac mae’n rhaid i landlordiaid fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Yn ogystal, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn darparu amddiffyniad ychwanegol i ddeiliaid contractau ar ddefnydd o hysbysiadau landlordiaid.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Technegau Rhianta Cadarnhaol (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda David Melding, sy’n cadeirio grŵp cynghori i edrych ar ba mor eithriadol o agored i niwed yw pobl ifanc sydd wedi cael eu rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu, ac rydym yn chwilio am gyngor ar beth arall y gallwn ei wneud i helpu gyda hyn. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud ag arian, gyda llaw. Mae hyn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Technegau Rhianta Cadarnhaol (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Gwnaf. Yn wir, cyfarfûm â’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a chefais sesiwn friffio ar yr ymgyrch y maent wedi’i lansio. Ac rydych yn llygad eich lle, mae’n ategu ymgyrch TrafodMaguPlant a lansiwyd gennym fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd yn rhagweithiol i gefnogi rhieni ar draws ein cymunedau, ac rwy’n ddiolchgar fod yr...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Technegau Rhianta Cadarnhaol (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod dros Dorfaen. Mae rhianta cadarnhaol yn hanfodol i’n blaenoriaeth drawsbynciol i’r blynyddoedd cynnar yn ‘Ffyniant i Bawb’. Rydym yn cynorthwyo pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu ystod o gymorth rhianta sy’n cwmpasu gwybodaeth a chyngor sydd ar gael i bawb. Mae grwpiau rhianta ac ymyrraeth gynnar ddwys wedi’i dargedu drwy Dechrau’n...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cyn-filwyr (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod, cwestiwn pwysig ynglŷn â sut y symudwn o swydd yn y lluoedd arfog i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n gallu bod yn drawsnewidiad anodd iawn i rai. Rydym yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfa pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau. Yn wir, rwyf hefyd wedi cyfarfod ag un o gyn-ddefnyddwyr y gwasanaeth yn etholaeth Dawn Bowden, a...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cyn-filwyr (18 Hyd 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod ac yn diolch iddo am y gwaith y mae’n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog hefyd. Ni allaf ymrwymo i gyfraniad ariannol ar gyfer y grŵp hwn. Rwy’n cydnabod y gwaith y maent yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwy’n credu mai’r hyn yr ydym yn edrych arno fel corff Llywodraeth yw’r ymyriadau lefel uchel y gallwn eu cefnogi—mae’r ymyriad...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.