Hannah Blythyn: Gwnaf.
Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a diolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad ar weithwyr, hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil yn bendant iawn, fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth. Yn benodol, mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig...
Hannah Blythyn: Yn ffurfiol.
Hannah Blythyn: Diolch, Lywydd. Credaf mai un o beryglon y drafodaeth hon—y pwnc—yw ein bod yn ymostwng i faterion a sgorio pwyntiau pleidiol wleidyddol. Pe bai Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol yn mynd i ddeddfu ar hyn a diwygio cydnabod rhywedd, credaf y byddwn yn fwy na pharod i weithio ar y cyd â hynny i sicrhau ein bod yn cefnogi’r gymuned draws yma yng Nghymru a ledled y DU. A chredaf fod...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Peredur Griffiths a Phlaid Cymru am y gwaith rydym wedi’i wneud ar y cyd ar y cynllun gweithredu LHDTC+ a’r undod a’r cydweithio hwnnw, sydd mor bwysig ar faterion hollbwysig cydraddoldeb a hawliau dynol ac urddas? Mae safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch cefnogi’r gymuned draws a datganoli pwerau cydnabod rhywedd yn parhau fel y bu; mae'r un fath....
Hannah Blythyn: Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y maes, ac rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd am—er bod taliadau untro i’w croesawu, mae'n ymwneud â thalu'r cyflog byw gwirioneddol, ond mewn gwirionedd, dim ond un rhan yw'r cyflog byw gwirioneddol o elfen o becyn gwaith teg a’r hyn rydym yn ceisio'i wneud drwy’r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i gynnal y sector ymhell i’r dyfodol,...
Hannah Blythyn: Cynigwyd.
Hannah Blythyn: Diolchaf i Joyce Watson am ei chyfraniad heddiw, ac rwy'n ategu'n fawr y cyfraniad a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud ynghylch gwerth partneriaeth gymdeithasol ac nad yw er budd gweithwyr ac undebau llafur yn unig; mae er budd cyflogwyr, boed yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu eraill. Rydym ni wedi gweld cydnabyddiaeth o hynny drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru,...
Hannah Blythyn: Diolchaf i Vikki Howells am ei chyfraniad hithau ac am ei sylwadau gwresog am rywfaint o'r gwaith a wnaed gennym ni. Gwn fod hwn yn faes yr ydych chi, nid yn unig fel cyn-athrawes, yn angerddol iawn amdano, ond fel rhywun sy'n eirioli dros waith tecach a gwell mewn cymunedau ar draws y wlad gyfan. Dim ond i sôn am y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n symud ymlaen, a'r...
Hannah Blythyn: Diolch. A gaf i ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gwestiynau a hefyd ei ymrwymiad yn y maes hwn? Gwn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth yn gydweithredol iawn ar nifer o'r materion hyn. Rwy'n credu y gwnaf i roi sylw i'r pwynt olaf yn gyntaf ynghylch diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o ran gwaith teg. Dim ond i egluro, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni wedi...
Hannah Blythyn: Dechreuaf drwy ymateb i'r cyfraniadau mwyaf sylweddol gan Joel James, ac yn arbennig ynghylch y pwyntiau pwysig iawn y mae'n eu gwneud o ran cefnogaeth i weithwyr anabl, pobl ag anableddau, ynghylch gwaith teg. Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gynnwys hynny mewn diweddariad yn y dyfodol, ond rwyf hefyd yn hapus i fynd i ffwrdd a gweld a allwn ni ddiweddaru'r Aelodau yn ysgrifenedig, cyn hynny...
Hannah Blythyn: Diolch. Yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Comisiwn Gwaith Teg ar y pryd, a wnaeth nifer o argymhellion yn dilyn hynny yn ôl yn 2019. Ers hynny, mae'r byd a'r gwaith fel rydyn ni'n ei adnabod wedi newid, ond er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar argymhellion y comisiwn. Mae'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma a dyna pam, i...
Hannah Blythyn: Rwy'n diolch i Sarah Murphy am ei chyfraniad hi, ac a gaf i ddiolch i YPOP am eu gwaith a'r cyfraniadau a wnaethon nhw? Rwy'n edrych ymlaen at y cyfarfod sydd gennyf i gyda Sarah a fy nghydweithiwr Jeremy Miles yn ddiweddarach yn yr wythnos gyda'r Aelod o'r Senedd Ieuenctid, ond os oes gennych chi grwpiau pobl ifanc fel hynny ac y byddech chi'n hoffi dod â nhw i'r fan hon i ymgysylltu...
Hannah Blythyn: Nid oes gennyf i ddim yn rhagor i'w ddweud wrth Laura Anne Jones, Dirprwy Lywydd.
Hannah Blythyn: Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd dod o hyd i'r geiriau priodol i ymateb i gyfraniad Laura Anne Jones. [Torri ar draws.] Ie, 'cywilyddus', ac nid wyf i'n credu bod gennyf i lawer i'w ddweud mewn ymateb i hynna. Rydyn ni newydd fod yn siarad yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, ac mae gennym ni aelodau o'r gymuned sydd yma'n gwylio—mae gan eich geiriau chi ddylanwad peryglus, Laura Anne Jones....
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad ac am ei ymrwymiad hefyd fel cynghreiriad ymroddedig i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Roeddwn i'n falch o orymdeithio ysgwydd wrth ysgwydd â Mike yn y Pride diweddaraf yn Abertawe—yr orymdaith gyntaf wedi'r pandemig—ac roedd hi'n hyfryd gweld llawer o bobl ifanc yno hefyd, a'r gymuned iau yn dod allan. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n pasio'r...
Hannah Blythyn: Diolch, Sioned. Yn wir, rwy'n rhannu eich teimladau fod hwn yn ddiwrnod o falchder i ni, nid yn unig yn y Siambr hon, ond mewn cymunedau ledled Cymru, ac rwyf wedi cael llawer o adborth cadarnhaol eisoes, mewn gwirionedd, yn mynegi pa mor bwysig yw'r cynllun ei hun. Ond, fel rydych chi'n dweud, fe ddaw'r dystiolaeth wrth gymhwyso'r camau hynny ac mewn gwirionedd wrth i ni wneud i bobl deimlo...
Hannah Blythyn: Diolch i chi. Gan mai datganiad 30 munud yw hwn, dydw i ddim yn credu bod digon o amser i mi ymateb i bob gwrthddywediad gan Altaf Hussain yn ei gyfraniad yn y fan yna. Rwy'n croesawu'r sylwadau agoriadol a'r geiriau treiddgar y gwnaethoch chi eu dweud—ein bod ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw. Ydw, rwy'n gallu dathlu fy mywyd yn yr eglwys drwy gael angladd yno, ond nid wyf i'n gallu...
Hannah Blythyn: Mae Mis Hanes LHDT yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod yn yr ymdrech dros hawliau LHDTC+, a dathlu bywydau pobl LHDTC+ sydd, am amser rhy hir ac yn rhy aml, wedi cael eu cuddio oddi wrth hanes. Ond, mae angen gwneud mwy na myfyrio ar ein gorffennol ni; mae angen i ni ddysgu gwersi ohono. Ni fyddwn ni'n anghofio am y niwed y mae gwahaniaethu, casineb ac allgáu wedi'i...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i Jane Dodds am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn y maes hwn? Oherwydd, fel chi, rwy'n cydnabod mai gwasanaethau tân wrth gefn, i nifer o gymunedau ledled Cymru, sy'n darparu'r diogelwch sydd ei angen ac sy'n cael ei werthfawrogi, ac mae'r un peth yn wir i mi fy hun yn ardal gogledd Cymru hefyd. Er hynny, rwyf eisiau nodi ar y cychwyn nad ydym yn ariannu awdurdodau tân ac...