Lynne Neagle: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw yn gwneud gwelliannau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol i Gymru ar ddiogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid. Mae'r diwygiadau hyn yn ofynnol er mwyn gwella eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd domestig a bwyd anifeiliaid Cymru yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE, ac i gywiro...
Lynne Neagle: Diolch, Mark. Yn amlwg, mae grymuso cymunedau yn rhan allweddol o'r hyn a wnawn ac rwy'n gefnogol iawn i'n gweld yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar gryfder ar gyfer y gwaith hwnnw. Fel y dywedais, fe wnaethom lansio'r system gwyliadwriaeth hunanladdiad amser real, a fydd yn darparu mynediad cynharach at wybodaeth i helpu i lywio gwaith atal yn y dyfodol, ond yn allweddol, er mwyn sicrhau...
Lynne Neagle: Wel, mae'n ddiddorol eich bod yn dweud hynny, oherwydd roeddwn i'n dod at asedau cymunedol. Rwyf innau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedol hirsefydlog a'n cronfa benthyciadau asedau cymunedol newydd ac arloesol yn rhai o'r ffyrdd rydym yn cydnabod ac yn cefnogi datblygiad parhaus seilwaith ar gyfer canolfannau cymunedol, gan weithio gyda...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rydym yn gwybod nad yw ein hiechyd a'n llesiant yn cael eu pennu gan fynediad at wasanaethau gofal iechyd yn unig, ond gan lu o ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddofn. Mae effeithiau uniongyrchol COVID a COVID hir, y newidiadau i'r ffordd...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Mae mynd i'r afael â'r heriau iechyd y cyhoedd rydych wedi'u hamlinellu yn sicr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fel y nodwyd gennych, mae gordewdra ac ysmygu yn sbarduno anghydraddoldebau, o ystyried eu heffaith ar ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach pobl, ac mae pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn ordew neu'n...
Lynne Neagle: Mae gwella iechyd y cyhoedd wedi ei nodi'n flaenoriaeth yn 'Cymru Iachach', ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Cefnogir hyn gan gynlluniau fel ein strategaeth rheoli tybaco a strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.
Lynne Neagle: Erbyn hyn, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gael yn ardal pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda chefnogaeth dros dair miliwn o bunnoedd o gyllid bob blwyddyn i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Un o amodau'r cyllid yma yw bod gofyn i fyrddau iechyd weithio tuag at gyrraedd safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Lynne Neagle: Diolch i Laura Anne Jones. Mae ysmygu, wrth gwrs, yn hynod niweidiol i iechyd, a rhoi'r gorau i ysmygu yw'r un cam pwysicaf y gall rhywun ei gymryd i wella eu hiechyd. Rydym yn cydnabod, i rai pobl, fod e-sigaréts a chynhyrchion nicotin eraill yn cael eu defnyddio i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu, ac mae tystiolaeth gyfredol yn awgrymu eu bod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco....
Lynne Neagle: Er ein bod yn cydnabod bod e-sigaréts yn cael eu defnyddio gan rai pobl sydd am roi’r gorau i ysmygu, mae’r dystiolaeth ynghylch eu heffaith hirdymor yn dal i ddatblygu. Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar ein polisi ar e-sigaréts yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, fel rhan o’n cynllun cyflawni newydd ar reoli tybaco.
Lynne Neagle: Wel, rwy'n credu y gwelwch chi, James, nad oes adran 151 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith o dan y gyfraith i gadw pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl dan gadwad. Rydym am weld nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan gadwad yn lleihau. Dyna pam ein bod yn buddsoddi'r holl arian hwn mewn ymyrraeth gynnar, atal, mewn gwasanaethau noddfa ac mewn gofal argyfwng....
Lynne Neagle: Pe bai'r Aelod wedi bod yma ddoe ac wedi ymuno â ni ar gyfer fy natganiad ar ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', byddai wedi fy nghlywed yn siarad yn fanwl am y rhain. Mae hawl gan Keir Starmer i amlinellu ei bolisïau ar gyfer y Llywodraeth Lafur sydd i ddod yn Lloegr, ond fe allai fod yn syndod i chi glywed bod iechyd wedi ei ddatganoli yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn o gwbl ein...
Lynne Neagle: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ein nod yng Nghymru yw cael gwasanaeth 'dim drws anghywir'. Mae gennym dargedau ar waith yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a mynediad at wasanaethau eraill. Mae gwasanaethau dan bwysau ar hyn o bryd ac rydym yn cymryd camau i adfer perfformiad gyda'r byrddau iechyd.
Lynne Neagle: Diolch, Delyth, am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n cydnabod yn llwyr beth sydd, mewn rhai ffyrdd, yn ffurf unigryw o alar gyda chamesgoriad, oherwydd, yn aml, nid yw pobl yn ei gydnabod fel colled ddinistriol, ac mae hynny'n dwysáu'r galar mae pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n colli babi. Mae gennym ni grŵp llywio profedigaeth yng Nghymru ac rydym ni wedi cyhoeddi fframwaith profedigaeth...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Jane, a diolch i chi am y geiriau caredig hefyd, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Rwyf eisiau bod yn glir na ddywedais i nad oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar bob person ifanc. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod, er hynny, yw na fydd rhai o'r bobl ifanc hynny sy'n cael eu cyfeirio at CAMHS arbenigol yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol CAMHS...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei sylwadau, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth o'r gwaith cadarnhaol sydd wedi'i wneud drwy'r strategaeth? Rwy'n cytuno'n llwyr bod yn rhaid i ni gael hyn yn iawn, ac, fel rydych chi wedi'i gydnabod, rydym wedi cynyddu buddsoddiad yn aruthrol. Gwnaethoch chi gyfeirio at y problemau parhaus gydag iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond rwy'n credu bod yn...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny? Yn amlwg, roedd llawer o faterion yno i ymateb iddyn nhw. Os gallaf godi, yn gyntaf oll, eich sylwadau am yr adrodd ar strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', mae adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud i'r fforwm partneriaeth iechyd meddwl cenedlaethol, yn ogystal â chyrff eraill. Hefyd, rwyf wedi sefydlu—wel, sefydlodd fy...
Lynne Neagle: Gyda'r buddsoddiad hwn, rydym wedi trawsnewid gwasanaethau a weithredir ar ddechrau'r strategaeth. Mae hyn yn cynnwys creu timau iechyd meddwl sylfaenol lleol ledled Cymru, timau datrys argyfwng a thrin yn y cartref, gwasanaethau cyd-gysylltu seiciatrig a thimau amenedigol cymunedol. Rydym hefyd wedi sefydlu un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc er mwyn...
Lynne Neagle: Diolch. Ddoe fe wnaethom nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'r Llywodraeth hon yn gadarn yn ei hymrwymiad i wella'r amddiffyniad a'r gefnogaeth i iechyd meddwl a lles. Dangosir hyn drwy fy mhenodi yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant dynodedig a gosod iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ein rhaglen lywodraethu. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae effaith y coronafeirws ar iechyd...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr iawn, Mike. Fe fyddwch yn falch o wybod bod gennym strategaeth gwrth-ordewdra gynhwysfawr iawn yng Nghymru o'r enw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae'n strategaeth 10 mlynedd yr ydym yn ei rhannu'n gynlluniau cyflawni dwy flynedd fel y gallwn ganolbwyntio'n iawn ar sicrhau ein bod yn cyflawni mewn maes sy'n wirioneddol gymhleth. Mae'n faes hynod heriol, oherwydd gwyddom i gyd am...
Lynne Neagle: Gall unigolion roi amrywiaeth o gamau ar waith i leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, drwy beidio ag ysmygu, cynnal pwysau iach ac ymarfer corff yn rheolaidd, er enghraifft. Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' a'n strategaeth rheoli tybaco yn datblygu ystod o fesurau i gefnogi pobl i wneud y dewisiadau iachach hynny.