Darren Millar: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godiadau treth cyngor yng ngogledd Cymru? OQ59306
Darren Millar: Gweinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yr wythnos hon? Mae'r cyntaf ar safonau gofal strôc yng Nghymru. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Gymdeithas Strôc ddosbarthu gwybodaeth a oedd yn dangos bod rhaglen archwilio sentinel strôc ddiweddaraf wedi nodi bod gwasanaethau strôc yng Nghymru wedi bod yn dirywio, ac mewn gwirionedd, yn y gogledd yn waeth nag yn...
Darren Millar: A gaf i ofyn i chi, Trefnydd, am ddatganiad gennych chi'ch hun yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig ynghylch brech y gwiwerod? Mae problemau enfawr gyda brech y gwiwerod; mae'n effeithio ar lawer o wiwerod coch, ein gwiwerod brodorol, yn Yr Alban, ac rwy'n pryderu'n fawr bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal achosion yn y fan yma. Bu achosion, wrth gwrs,...
Darren Millar: Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna. Rwy'n gwybod bod yna ddatganiad ar y mater hwn yn ddiweddarach, ond 16 mlynedd yn ôl pan ddes i'n Aelod o'r Senedd am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu cael mynediad at ddau archwiliad GIG y flwyddyn, ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn gallu cofrestru gyda deintydd y GIG lleol heb unrhyw broblemau. Un mlynedd ar bymtheg yn ddiweddarach mae'n...
Darren Millar: 8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r modd o gael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG yng Ngorllewin Clwyd? OQ59250
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Ydy hynny'n iawn, Dirprwy Lywydd?
Darren Millar: Rydych chi'n siarad yn angerddol iawn am annibyniaeth, fel, wrth gwrs, mae pob aelod o Blaid Cymru yn ei wneud, ond a ydych chi'n derbyn bod y bwlch cyllidol yn golygu y byddai'n rhaid i chi naill ai godi trethi yn sylweddol neu dorri gwariant cyhoeddus yn sylweddol, a fyddai'n cael effaith niweidiol aruthrol ar Gymru a'i phobl?
Darren Millar: Wel, rwyf bob amser yn myfyrio ar fy sylwadau, ond o ystyried bod y comisiwn i fod i gwblhau ei waith yn y flwyddyn galendr bresennol, rwy'n dal i fethu deall pam ar y ddaear eich bod wedi dyrannu gwariant sy'n mynd ag ef drwodd hyd at fis Mawrth 2025. Rydych chi'n dal i fod heb ateb y cwestiwn mawr hwnnw. Pam mae comisiwn sydd ar fin gorffen yn cael £1.1 miliwn pellach yn eich llinell...
Darren Millar: A gaf fi eich croesawu yn ôl o'ch taith ddiweddar i Wcráin gydag Alun Davies, ein cyd-Aelod arall o'r Senedd, taith roeddem i gyd yn ei chefnogi, a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi? Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb rydych chi wedi ei roi, ac rydym wedi croesi cleddyfau ar fater y gyllideb ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ond rydym yn gwybod mai un o'r pethau rydych chi wedi gofyn i'r...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi datganiad ar y gyllideb ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru?
Darren Millar: Fe wnaethoch chi eu diswyddo am wneud hynny.
Darren Millar: —os caf, Dirprwy Lywydd? Mae gan lawer o'r swyddogion gweithredol hyn berthynas weithio agos â phobl, yn ddealladwy, yn eich adran o'r Llywodraeth, gan gynnwys, wrth gwrs, prif weithredwr GIG Cymru. Rydw i eisiau gwybod beth mae prif weithredwr GIG Cymru mewn gwirionedd yn ei wneud i ddwyn yr unigolion hynny i gyfrif. Oherwydd os hi yw prif weithredwr GIG Cymru, byddech chi'n disgwyl iddi...
Darren Millar: Oherwydd bydd hwnnw'n drydydd adroddiad sy'n cyfeirio at broblemau yn y tîm gweithredol hwnnw. A gaf i ofyn un cwestiwn olaf—
Darren Millar: 'Canfuwyd holltau eglur a dwfn gennym o fewn y Tîm Gweithredol', 'mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a oes modd trwsio cysylltiadau gwaith', a hynny o fewn y tîm gweithredol. Mae 'problemau sylweddol o ran cysylltiadau gwaith o fewn y Tîm Gweithredol'. 'Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni yn awgrymu camweithrediad a charfannau o fewn y tîm'. Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at y...
Darren Millar: Diolch. Dirprwy Lywydd. Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich datganiad, Gweinidog, a chlywais i ddim ymddiheuriad i bobl yn y gogledd am fethiant Llywodraeth Cymru hon i ddatrys problemau dwfn ein bwrdd iechyd yn y rhanbarth, sydd wedi bod yn parhau, nid dim ond ers 2015 pan roddodd Llywodraeth Cymru Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf, ond am gyfnod hir cyn hynny hefyd. Ni...
Darren Millar: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am roi copi ymlaen llaw o'i ddatganiad? Fel y gwyddoch chi, rydyn ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno eich strategaeth sgiliau sero net am fisoedd lawer, felly rydyn ni'n falch ei fod wedi'i gyhoeddi o'r diwedd. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: mae gennym ni waith enfawr i'w wneud os ydyn ni am gyrraedd sero net erbyn 2050, ac mae gennym ni...
Darren Millar: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn 'ma? Rwy'n falch iawn o glywed bod y strategaeth hon bellach wedi'i chyhoeddi—y ddogfen hon—ac y bydd yna gynllun cyflawni fydd yn eistedd ochr yn ochr â hi. Fe ddywedoch chi, Gweinidog, yn eich sylwadau yn y fan yna, y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi'n fuan, a byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i ni i gyd gael...
Darren Millar: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg o wariant Llywodraeth Cymru?
Darren Millar: Mae tri chynllun y cyfeirir atynt yn fy etholaeth yn yr adroddiad adolygu ffyrdd, ac mae pob un ohonyn nhw, yn anffodus, yn debygol, i'w weld o'r ddogfen, yn mynd i gael eu dileu. Nawr, mae'r rhain yn gynlluniau yr wyf i wedi gohebu â chi a'ch rhagflaenwyr amdanynt dros nifer o flynyddoedd a phob tro rwyf wedi gohebu â chi, hyd nes i'r adolygiad ffyrdd ddechrau, roedd popeth yn cael golau...