Vaughan Gething: Mae gennym nifer o raglenni a mentrau ar gyfer cefnogi ein strydoedd mawr, gan gynnwys cymorth busnes, rhyddhad ardrethi busnesau bach ac ardrethi annomestig. Nod ein rhaglen Trawsnewid Trefi, sy'n darparu £100 miliwn dros dair blynedd, yw mynd i'r afael â rhywfaint o'r dirywiad yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd.
Vaughan Gething: Wel, edrychwch, rwy'n croesawu arian sy'n cael ei wario yn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau dyfodol economaidd gwell, ond rwy'n credu bod angen i'r Aelod edrych eto ar gynllun y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro. Roedd hanner awdurdodau lleol Cymru ar eu colled yn eu ceisiadau—proses geisiadau gystadleuol a fu'n draul ar amser, egni ac ymdrech. Ac efallai y carai siarad ag...
Vaughan Gething: Gwnaf. Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer De Clwyd yn y 12 mis hyd at fis Medi 2022 oedd 3.7 y cant. Mae hynny i lawr 2.7 pwynt canran ar yr un cyfnod yn 2013.
Vaughan Gething: Rwy'n bryderus iawn o hyd am y dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, nid yn unig am eu bod wedi torri addewidion maniffestos olynol, ond am eu bod yn gadael Cymru'n brin o ymhell dros £1 biliwn dros dair blynedd. Mewn gwirionedd, cynhaliodd Newsnight ymchwiliad yn ddiweddar lle'r oeddent yn credu y gallai'r bwlch fod cymaint â £1.4 biliwn. Nid pwysau cyllidebol yn unig yw'r bwlch y mae...
Vaughan Gething: Wel, diben terfynol defnyddio'r tir hwnnw yw datblygu economaidd. Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y byddwn yn sicrhau cynnydd mewn gweithgarwch economaidd yn y rhan hon o Gymru. Mae'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau sydd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer digwyddiadau, a'r budd economaidd y byddant yn ei ddarparu i bobl leol hefyd. Pan fyddaf yn gwneud penderfyniad, rwy'n disgwyl diwydrwydd dyladwy,...
Vaughan Gething: Rwy'n edmygu gwiriondeb cyson ymateb yr Aelod i gwningod, ond edrychwch, o ran y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y darn hwn o dir, rydym wedi bod yn glir pam ein bod wedi bwrw iddi gyda'r pryniant. Rydym hefyd wedi bod yn glir iawn ynghylch y ffaith, fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, y byddaf yn disgwyl cyngor terfynol cyn diwedd mis Mawrth, a gallaf wneud penderfyniad wedyn. Mae'r Aelod yn...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae diwydrwydd dyladwy ar y cynnig a ddaeth i law gan gynrychiolwyr Green Man yng nghamau olaf yr asesiad. Rwy'n disgwyl cyngor gan swyddogion ar y camau nesaf cyn diwedd mis Mawrth.
Vaughan Gething: Ie, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf—ac mewn gwirionedd, pan gawsom ddigwyddiad ymgynghori, a fynychais gyda'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, â Chonsortiwm Manwerthu Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ac yn wir, gydag ochr yr undebau llafur, dan arweiniad USDAW, roedd yn ymgysylltiad pellach bwriadol â'n ffordd o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol....
Vaughan Gething: Wel, mewn gwirionedd, mae'r pandemig wedi gorfodi nifer o bobl i feddwl am y ffordd y maent yn gweithio, ac mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod bod nifer o fusnesau wedi gorfod mynd i mewn i'r byd ar-lein pan nad oeddent yno o reidrwydd. Wedyn roedd yn rhaid iddynt feddwl am y cwsmeriaid a fydd eisiau defnyddio hynny, oherwydd roedd rhaid i fwy o gwsmeriaid ddefnyddio pethau ar-lein. Ac...
Vaughan Gething: Wel, rwy'n dod yn ôl at hyn: mae hwn yn gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny. Rydym yn gweithredu am nad ydym yn credu ei bod hi'n dderbyniol i gefnu ar y bobl hyn. Uchelgais datganedig Llywodraeth y DU yw darparu mynediad i 85 y cant o'r boblogaeth. Byddai amryw o bobl yn cael eu heithrio pe na baem yn gwneud unrhyw beth yn y maes cyfrifoldeb hwn a gadwyd yn...
Vaughan Gething: Edrychwch, nid wyf yn meddwl ei bod yn arbennig o ddefnyddiol nac yn synhwyrol i geisio cymharu mater cwbl wahanol gyda'r ffordd y defnyddiwn gyllidebau Llywodraeth Cymru. Os ydych chi am gael sgwrs am faint a gallu'r lle hwn, gallem wneud hynny. O ran realiti ein cyllideb, ni ellir gwadu—y realiti yw bod ein cyllideb yn werth llai mewn termau real, yn nhermau arian parod. Mae hefyd yn alw...
Vaughan Gething: Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn un o brif nodau ein strategaeth, a cheir nifer o elfennau gwahanol. Ceir ein gwaith gyda Llywodraeth y DU ar y cyfrifoldeb a gadwyd yn ôl dros seilwaith. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda fy swyddogion, a chyda Gweinidog presennol y DU yn wir—rwy'n credu mai'r Gweinidog Lopez ydyw, yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a...
Vaughan Gething: Byddwn i'n hapus iawn pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda manylion y cynllun y mae wedi'i nodi. Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael. Busnes Cymru yw'r drws blaen o hyd, felly os oes unrhyw un yn poeni neu ddim yn deall y cynllun unigol, gallant droi at Busnes Cymru a gallant hwy helpu i arwain pobl drwy'r broses, a'r bobl sy'n cymryd...
Vaughan Gething: Diolch. Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae'n cefnogi uchelgais entrepreneuraidd, ac yn rhoi cyngor ymarferol er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â'u syniadau. Ers 2016, mae 5,000 o bobl ifanc wedi cael cymorth gan gyngor ar ddechrau busnes, ac mae bron i 700 wedi dechrau busnes. Mae'r cyngor hwn bellach yn cael...
Vaughan Gething: Byddwn yn manteisio ar bob ffordd bosibl o ysgogi cefnogaeth ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yng Ngorllewin De Cymru. Mae’r ffaith ein bod wedi colli arian yr UE yn heriol, ond mae’n Strategaeth Arloesi newydd yn ymrwymo i sbarduno buddsoddiad oddi wrth lywodraeth y DU ac i gydweithredu a bod yn gystadleuol er mwyn cael gafael ar ffynonellau cyllid.
Vaughan Gething: We are working with public bodies to embed Foundational Economy approaches in their activity to help retain wealth within our communities and improve their wellbeing; shorten supply chains to reduce carbon emissions; build a strong Welsh supply base; and improve employment conditions and pay for workers.
Vaughan Gething: Mae honno'n amcan allweddol i'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r cyfleoedd y mae'r Aelod yn eu tanlinellu. Rwyf i wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon nad wyf i'n dymuno gweld dim ond datgarboneiddio'r ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu yn unig; rwy'n dymuno gweld y cyfleoedd economaidd mor lleol â phosibl. Nid wyf i'n dymuno gweld y cyfleoedd hynny yn cael eu cymryd yn Ffrainc...
Vaughan Gething: Mae'n rhan o'r pwynt ynglŷn â'r wyth sector allyriadau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonyn nhw, gan sicrhau eu bod nhw'n ymuno â nid yn unig cynllun Cymru Sero Net, ond bod gennym ni rywfaint o gysondeb a dealltwriaeth mewn gwirionedd o fewn y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ym meysydd y bargenion twf hefyd, lle gall pobl gydweithio yn fwy effeithiol, ac felly ledled y...
Vaughan Gething: Ar y pwynt cyntaf, cafodd strategaeth ei chyhoeddi, mae hi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac nid y camau yn unig sy'n bwysig; rwy'n credu y byddai'r Aelod yn ymddiddori rhywfaint yn yr wyth sector allyriadau, oherwydd adeiladau preswyl yw un ohonyn nhw. Rydyn ni'n ystyried yr hyn sy'n digwydd eisoes yn y sector allyriadau, yn ogystal â chyfleoedd i sicrhau y bydd llai o allyriadau...
Vaughan Gething: Mae'r pwynt ynglŷn â phontio teg yn rhywbeth sydd, fel rwy'n dweud, ar feddyliau Gweinidogion i raddau helaeth iawn yn y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud ynglŷn â'r cyfle, ond yr amharu hefyd, wrth i bobl symud i ffordd wahanol o weithio mewn ystod gyfan o gynigion mewn sectorau. Rwy'n credu, ar y pwynt am beth yw sgiliau gwyrdd, mi wnes i sôn am hynny yn fy natganiad. Bydd y Swyddfa...