Janet Finch-Saunders: Ie, ie. Mae gennych raglen dreigl o arolygon. Mae ganddo 15 munud, onid oes? Mae wedi cael 10. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. O'r gorau. Mae rhai lesddeiliaid wedi cael yr argraff gan eu datblygwyr na fyddant yn derbyn canlyniad yr arolygon. Mae gennyf un ddynes rwyf wedi sôn amdani o'r blaen—£75,000 18 mis yn ôl, a heb gael ceiniog yn ôl. Mae'r bobl yma'n haeddu gwell, Weinidog....
Janet Finch-Saunders: Diolch, Rhys, am gyflwyno'r ddadl hon ar sefyllfa wirioneddol ofnadwy, ac am siarad mor angerddol a huawdl am ychydig bobl yn unig o'r miloedd y mae hyn yn effeithio arnynt. Nawr, rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad defnyddiol ddoe, fel y gwnaethoch sôn, ond mae ein trigolion yng Nghymru yn haeddu llinell amser gliriach. Rydym yn gwybod bod £375 miliwn wedi'i ddyrannu i ariannu gwaith...
Janet Finch-Saunders: Fe ddywedoch chi y byddech chi'n derbyn ymyriadau. Alun, ni allwch wadu ein bod wedi cael 25 mlynedd o ddatganoli. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i datganoli. Ni allwch daflu hyn yn ôl at Lywodraeth y DU, ni waeth faint y ceisiwch chi wneud hynny.
Janet Finch-Saunders: Gwnaf, wrth gwrs.
Janet Finch-Saunders: Iawn. Fel cyd-Aelod yma, cawn ein hethol yn Aelodau o Senedd Cymru yma, felly fy mhryder i yw—. Byddwn yn dychmygu y bydd ASau draw yn Lloegr yn dal Llywodraeth y DU yn atebol, os oes angen iddynt, ond fy ngwaith i yw craffu ar y Llywodraeth hon a Lee Waters yn benodol. Nawr, rwy'n siomedig, Ddirprwy Weinidog, eich bod chi, gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd—Plaid Cymru—Cyngor...
Janet Finch-Saunders: Diolch i Blaid Cymru am y ddadl hon heddiw. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio sy'n nodi'n briodol y pryder difrifol a wynebwn yng Nghymru, gyda chanslo gwasanaethau trafnidiaeth ar raddfa fawr gan adael cymunedau ledled Cymru yn teimlo'n ynysig iawn. Mae'r argyfwng trafnidiaeth gyhoeddus eisoes wedi ein taro yn Aberconwy, ac rydym ni, fy etholwyr, wedi cael ein gadael heb fodd o...
Janet Finch-Saunders: A wnewch chi dderbyn ymyriad cyflym? Yn gyflym iawn.
Janet Finch-Saunders: Iawn, o'r gorau. Cefais wybod yr wythnos hon am wraig 82 oed a gafodd ddiagnosis o ganser y stumog, cam hwyr iawn, ym mis Rhagfyr—nid yw wedi clywed unrhyw beth, ac mae hi bellach bron yn ddiwedd mis Mawrth. A ydych o'r farn fod hynny’n gynnyrch bwrdd iechyd sy’n gweithredu’n dda? Rwyf wedi codi'r pryderon hyn dro ar ôl tro gyda chi, gyda'r Gweinidog, yma yn y lle hwn. Onid ydych yn...
Janet Finch-Saunders: Diolch. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno fod bargen twf y gogledd, a wnaed yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth y DU, yn gyfle gwych ar gyfer buddsoddi a swyddi yng ngogledd Cymru. Gobeithio hefyd y byddwch yn cytuno y dylid annog busnesau lleol i wneud popeth yn eu gallu i wneud cais am gyllid yn rhan o'r fargen hon. Mae hyn yn cynnwys ein sector gwledig ac amaethyddol, sydd hefyd yn chwarae...
Janet Finch-Saunders: 1. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â bargen twf y gogledd? OQ59294
Janet Finch-Saunders: Gweinidog, a gaf i ddiolch eto am gyflwyno'r datganiad hwn, yn arbennig y ffaith ei fod wedi cael ei gyflwyno yn gynt o lawer nag y cafodd ei nodi? Roedden ni'n disgwyl datganiad—nid o'r fath hon, byddwn i'n ei ddweud—ond roedden ni'n disgwyl clywed rhywbeth gennych chi rhwng y Pasg a'r haf, felly bydd y ffaith eich bod chi wedi gallu ei gyflwyno heddiw, rwy'n credu, yn rhoi llawer o...
Janet Finch-Saunders: Diolch yn fawr i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn ar y Bil hwn heddiw. Yn ein plaid ni, rydyn ni'n llwyr gefnogi hyn, ac rydyn ni, dros y blynyddoedd, wedi galw yn selog lawer gwaith ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil hwn a hynny ar fyrder. Roedd honno, wrth gwrs, yn addewid allweddol yn ymgyrch ac ym maniffesto'r Prif Weinidog. Felly, mae hi'n ychydig yn siomedig iddi gymryd...
Janet Finch-Saunders: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Cefais wybod yr wythnos diwethaf bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn talu ei gartref gofal ei hun 57 y cant yn fwy na chartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg yn breifat sy'n darparu yr union yr un lefel o ofal. Mae Conwy yn dyfarnu £1,136 fesul preswyliwr yr wythnos i'w hun, tra bo'n talu dim ond ychydig dros hanner y swm hwnnw—£721—tuag at gostau gofal y...
Janet Finch-Saunders: Diolch. Prif Weinidog, mae prisiau tai cynyddol wedi gadael pobl ifanc yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu prisio allan o'r farchnad i bob pwrpas, gyda llawer yn poeni na fyddan nhw byth yn gallu cael eu traed ar yr ysgol dai. Mae'n amlwg i bawb bod y targed o adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn yma yng Nghymru wedi ei fethu dro ar ôl tro ers blynyddoedd. Dim ond 5,273 o dai wnaeth eich...
Janet Finch-Saunders: 6. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu'r nifer o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru? OQ59291
Janet Finch-Saunders: Diolch i chi. Ac yna, un mater arall a gododd oedd yr arian y gwnaethoch chi ei wario ar dai cymdeithasol cofrestredig, felly £8.7 miliwn, a £1.9 miliwn a roddwyd i Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd. Rwy'n deall bod dau floc yn y bae fan yma lle mae'r rhai sy'n cael y gwaith cyweirio yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a bod yn rhaid i'r perchnogion eiddo preifat sefyll a...
Janet Finch-Saunders: Ie, felly dywedwch wrthym ni sut rydych chi'n ei wario, faint o'r £375 miliwn hwnnw sydd ar ôl, ac a fyddwch chi'n anrhydeddu'r arolygon hynny fel bydd y dioddefwyr hyn mewn gwirionedd—? Maen nhw'n ceisio datrys y mater hwn eu hunain. Diolch i chi.
Janet Finch-Saunders: Diolch i chi. Rwy'n credu mai dyna'r swm mwyaf o wybodaeth a glywsom ni hyd yma o ran yr hyn sydd wedi cael ei wneud a'r hyn y mae angen ei wneud eto. Un o'r materion a gododd yn y cyfarfod a gynhaliais i oedd cost yr arolygon hyn. Roedd un wraig—ac nid oedd ganddi hi unrhyw reswm o gwbl i'n camarwain ni—yn egluro bod ganddi hi ddau eiddo fel hyn, ac roedd hi'n aros am ad-daliad o...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd. Bu pum mlynedd a naw mis ers Grenfell erbyn hyn. Am 2,099 o ddiwrnodau, mae cannoedd o drigolion Cymru wedi bod yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu heiddo eu hunain, a pherygl o dân. Rhwng 2017-18 a 2021-22, cafwyd 1,323 o danau mewn blociau o fflatiau a adeiladwyd yn wreiddiol i'r diben hwnnw, a 514 o danau mewn adeiladau a gafodd eu haddasu i fod yn fflatiau. Nawr, mae'n...
Janet Finch-Saunders: Yr ail un—