Canlyniadau 21–40 o 2000 ar gyfer speaker:Leanne Wood

12. Dadl: Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 (26 Ion 2021)

Leanne Wood: Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda dyfyniad gan gadeirydd pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Martyn Jones: 'Y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn sydd â phrofiadau byw o wahaniaethu ac anghydraddoldeb. Mae angen i ni daflu goleuni ar y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bob grŵp mewn cymdeithas o ddydd i ddydd. Rhaid inni newid y naratif o un o faich a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Ion 2021)

Leanne Wood: Mae llawer o rieni sydd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi cysylltu â mi ond sydd heb gael cynnig eu lleoli yn yr hybiau lleol. Nawr, mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf i eu bod yn gweithredu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, ond os yw plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a chanddynt, mewn rhai achosion ddatganiadau hefyd, yn cael eu heffeithio'n andwyol gan addysg...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg (13 Ion 2021)

Leanne Wood: Pa gamau ychwanegol y gellir eu cymryd mewn ysgolion i ddiogelu staff a disgyblion rhag lledaeniad asymptomatig COVID-19?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Ion 2021)

Leanne Wood: Rwyf i eisiau pwyso'r achos o blaid canolfan frechu COVID ar gyfer y Rhondda a hefyd i frechlynnau ar gyfer y gymuned ehangach fod ar gael ar sail yr angen. Mae COVID yn parhau i fod yn uchel yn fy etholaeth i, ac mae llawer ohonom ni bellach yn adnabod teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn drasig i hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi trafod gyda'r awdurdod lleol ymhle i leoli'r canolfannau yn Rhondda...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (12 Ion 2021)

Leanne Wood: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth addysg ar gyfer y plant a'r bobl ifanc mwyaf difreintiedig?

6. Dadl ar Ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu ( 9 Rha 2020)

Leanne Wood: Mae ein cynnig yn gofyn am rywbeth syml iawn—rhywbeth rwy'n rhyfeddu ond nid yn synnu bod Gweinidogion yn rhedeg rhagddo: ein bod yn cael ymchwiliad i ddysgu'r gwersi o'r llifogydd,... i ddiogelu mwy o gartrefi a busnesau... edrych ar... yswiriant fforddiadwy... a... thaliadau amserol, ymchwiliad i ba fesurau sydd eu hangen gan y Llywodraeth i ariannu amddiffyniadau llifogydd a mesurau...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Leanne Wood: Mae COVID wedi cyflwyno heriau i bawb, ac er y byddai pob un ohonom yma yn cytuno bod rhaid gwneud popeth i gadw rhieni, babanod a staff yn ddiogel, rhaid i ni hefyd wneud beth bynnag a allwn i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bawb. Rhaid inni ddechrau drwy gydnabod mai profiadau plant ifanc, babanod a'u teuluoedd eleni oedd rhai o'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau....

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd ( 8 Rha 2020)

Leanne Wood: Diolch. Mae'r Rhondda, fy etholaeth i, fy nghartref i, yn lle sydd wedi gweld trafferthion ers degawdau. Nawr, er y byddai llawer o bobl yn hoffi dianc, ni allwn ni ddianc rhag y ffaith, ers dechrau'r gwahanol raglenni cau pyllau glo, ond yn enwedig ers ymosodiad Margaret Thatcher ar ein cymunedau yn y 1980au, heb unrhyw gynllun i gymryd lle'r swyddi coll hynny, y bu bywyd yn frwydr fawr i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Rha 2020)

Leanne Wood: Hoffwn i ofyn am nifer o ymyriadau gan y Llywodraeth, er fy mod i'n deall bod yr amser sydd ar gael i'r Senedd eleni yn gyfyngedig. Mae'r cyntaf yn ymwneud â thaliadau ar gyfer hunanynysu. Rwyf wedi cael nifer o athrawon cyflenwi, ymysg eraill, sydd wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydyn nhw'n gymwys i gael y taliad hwn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gallwch ymestyn y cymhwysedd...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ( 2 Rha 2020)

Leanne Wood: Pa fentrau sy'n cael eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc?

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau ( 1 Rha 2020)

Leanne Wood: Diolch yn fawr iawn am y datganiad.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau ( 1 Rha 2020)

Leanne Wood: Mae grŵp Plaid Cymru yn croesawu'r datganiad hwn, Dirprwy Weinidog. Rydym ni'n cefnogi'r nod o nodi a dileu'r rhwystrau ar gyfraniadau pobl anabl i fywyd cyhoeddus, ac fe fyddwn ni'n hapus i hyrwyddo'r gronfa newydd hon i alluogi a chefnogi pobl i ennill swydd etholedig. Nawr, ynglŷn â'r gronfa honno, fe hoffwn i wybod beth sy'n cael ei wneud, mewn ffordd gyfredol, i sicrhau y caiff y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Rha 2020)

Leanne Wood: Yn ystod y mis diwethaf, rwyf i wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r angen i wneud ysgolion yn lleoedd mwy diogel i athrawon a disgyblion. Bydd y rhan fwyaf o rieni yng Nghymru erbyn hyn wedi cael profiad uniongyrchol o o'u plentyn yn gorfod aros gartref o'r ysgol oherwydd achos positif yn y dosbarth, neu byddan nhw'n adnabod rhywun arall y mae ei blentyn wedi bod i ffwrdd o'r ysgol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi yn y Rhondda ( 1 Rha 2020)

Leanne Wood: Prif Weinidog, roedd tlodi yn broblem ddifrifol yn y Rhondda cyn i bandemig COVID daro, ac mae pethau wedi gwaethygu yn sylweddol i lawer o bobl ers hynny. Rwy'n gwybod hynny gan fy mod i'n rhedeg cynllun rhannu bwyd lle mae'r galw yn cynyddu ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr gwych i wneud gwaith gwrthdlodi eithaf hanfodol. Ac rydym ni hefyd yn gwybod y bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn fuan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi yn y Rhondda ( 1 Rha 2020)

Leanne Wood: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yn y Rhondda? OQ55974

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig (25 Tach 2020)

Leanne Wood: Rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylai pob disgybl ysgol, myfyriwr coleg, athro ac aelod o staff gael prawf coronafeirws o ystyried y niferoedd uchel o bobl sy'n asymptomatig, yn enwedig yn y grwpiau oedran iau. Dylai hyn fod wedi bod yn flaenoriaeth allweddol pan ailagorodd yr ysgolion cyn yr haf. Nawr, nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Fel y dywedodd un athro wrthyf, yr wythnos...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig (25 Tach 2020)

Leanne Wood: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion yn asymptomatig er mwyn amddiffyn athrawon a disgyblion? OQ55940

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Tach 2020)

Leanne Wood: Hoffwn dynnu sylw at rwystredigaethau busnesau'r Rhondda sydd wedi'u gadael heb unrhyw gymorth ariannol ers dechrau'r pandemig. Gwyddom am fusnesau ledled Cymru a esgeuluswyd ar ôl gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnes newydd yn y Rhondda yn dweud wrthyf nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gefnogaeth, er iddyn nhw golli'r mwyafrif o'u derbyniadau gwerthiant. Fe wnaethon nhw gais...

8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19 (18 Tach 2020)

Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru am gael cymorth ychwanegol i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n anghymesur gan COVID. Yr ardaloedd sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion COVID yw Merthyr, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent. Mae'r ffigurau ar gyfer Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf a Merthyr wedi bod yn uwch na ffigurau Lerpwl, sydd wedi elwa ar gymorth a blaenoriaeth...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun (18 Tach 2020)

Leanne Wood: Hoffwn ofyn i'r Aelodau ddychmygu hyn: mae bom yn mynd i ffwrdd ac mewn eiliad mae eich bywyd wedi'i droi ben-i-waered. Mae rhyfel wedi torri allan ac mae ymladd yn eich stryd. Nid yw'r cymunedau yr arferech eu galw'n gartref yn ddiogel mwyach, ac mae eich bywyd chi, a bywydau eich teulu, mewn perygl. Mae gennych ddau ddewis: aros yn eich gwlad, peryglu eich bywyd a bywydau aelodau o'ch...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.