Sioned Williams: Hoffwn i ddatgan budd, sef bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe.
Sioned Williams: Hoffwn siarad ychydig yn fwy manwl am sut y bydd y strategaeth yn lliniaru effaith tynnu'n ôl cronfeydd strwythurol y DU ar brifysgolion Cymru yn benodol. Fe wnaethoch chi sôn am y rhybudd rydyn ni wedi'i gael gan Brifysgol Abertawe bod hyd at 240 o ymchwilwyr yn wynebu colli eu swyddi yn y sefydliad hwnnw yn unig. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno y byddai diswyddiadau ar y raddfa hon—a...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu’r ddadl hon heddiw, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, a hynny oherwydd ei bod yn amlwg fod llawer o’n pobl ifanc a’n plant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn cael cam yn yr ystyr nad ydynt yn cael eu cefnogi i fyw mor annibynnol a rhydd ag y mae ganddynt hawl i fyw, fel y nodir yn erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar...
Sioned Williams: Mae'r argyfwng costau byw yn mynd i wneud yr union beth a wnaeth argyfwng COVID. Clywais gymaint o dystion i ymchwiliadau a gynhelir gan y ddau bwyllgor rwy'n aelod ohonynt—cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a phlant, pobl ifanc ac addysg—yn ailadrodd hyn, neu eiriau i'r perwyl hwnnw, wrth gyfeirio at y dystiolaeth ddiymwad y bydd effaith yr argyfwng hwn eto'n ddyfnach yn ardaloedd...
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am adael imi wneud sylwadau ar hyn. Ysgrifennodd prif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot ataf ynglŷn ag effaith ddinistriol bosibl penderfyniad y Llywodraeth ynghylch hyn ar nifer o wasanaethau bysiau lleol, a hoffwn wneud y pwynt fod hyn yn ymwneud â mwy na gwasanaethau bysiau gwledig yn unig, ond â gwasanaethau mewn siroedd fel Castell-nedd Port...
Sioned Williams: Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod y termau sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sydd mewn grym wrth drafod ffoaduriaid yn arbennig a phawb sydd ar y cyrion yn ein cymdeithas yn cyfrif, oherwydd bod canlyniadau i iaith? Ac fe welsom ni hyn yn Knowsley y penwythnos hwn—canlyniadau ffiaidd ac o bosibl ofnadwy. Mae cant o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored i alw ar bob arweinydd...
Sioned Williams: Wrth i ni nesáu blwyddyn—y garreg filltir ofnadwy, fel y gwnaethoch chi ei galw—ers yr ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd ar Wcráin, hoffwn adleisio eich diolch i bobl ledled Cymru sydd wedi darparu noddfa i bobl o Wcráin. Pan fyddwn ni yng Nghymru yn dweud, 'Mae croeso i ffoaduriaid', pan fyddwn ni'n datgan ein hunain yn genedl noddfa, pan fydd ein Llywodraeth yn datgan ei hun yn...
Sioned Williams: Rydym yn genedl noddfa.
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog, a dŷn ni'n croesawu'r buddsoddiad hwn mewn sgiliau digidol, yn enwedig yn sgil y ffaith bod yna alw cynyddol ar gyfer sgiliau digidol o fewn y farchnad swyddi—galw nad yw'n cael ei gwrdd ar hyn o bryd—a diffyg sgiliau digidol uwch hefyd yn bryder gan gyflogwyr. Lansiwyd 'Digidol 2030' yn 2019, felly rŷn ni bellach ryw bedair blynedd i mewn i'r...
Sioned Williams: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r cynnydd sylweddol presennol ym miliau aelwydydd?
Sioned Williams: Ddoe yn y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, fe siaradais am y ffordd y mae pobl Cymru yn wynebu sawl argyfwng, argyfyngau digynsail ers dyfodiad datganoli, ac fe gytunais gyda Llywodraeth Cymru fod hon yn gyllideb anodd mewn cyfnod anodd, ac amlinellais y cymorth sydd ei angen ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf, pam mae'n rhaid rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y gwasanaethau sy'n...
Sioned Williams: Yn y grŵp trawsbleidiol rwy'n ei gadeirio ar hawliau defnyddwyr, clywsom ddydd Llun gan Which?. Dangosodd eu hadroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, fod 92 y cant o ddefnyddwyr Cymru yn poeni am brisiau ynni uwch nag yn Lloegr a’r Alban, a bod defnyddwyr yn cymryd camau i arbed costau a allai fod yn niweidiol i’w hiechyd. Gwyddom eu bod yn niweidiol i'w hiechyd: mae 78 y cant...
Sioned Williams: Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru o'r adnoddau a'r grymoedd sydd eu hangen arnom, oes, mae angen gwneud penderfyniadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hynny yn anos drwy beidio â sicrhau yr adnoddau sydd angen arni drwy drethiant teg, cymesur a chyfiawn i oresgyn y caledi cywilyddus sy'n creithio ein cymunedau. Rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Sioned Williams: Wrth gyflwyno'r gyllideb ddrafft i'r Senedd, fe soniodd y Gweinidog mai hon oedd un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli. Mae hynny am ei bod yn gyfnod o gyni, yn gyfnod o dlodi, ac yn gyfnod o argyfwng nas gwelwyd ei debyg ers degawdau. Yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, mae nyrsys ac athrawon ymhlith y miloedd sy'n gorfod troi at fanciau bwyd. Mae mwy a mwy o bobl yn syrthio i ddyled,...
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Dirprwy Weinidog.
Sioned Williams: Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn addo gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a chefnogi cyhoeddiad cynllun gweithredu LHDTC+. Mae heddiw felly yn ddiwrnod o falchder i Blaid Cymru, fel y mae i Adam Price gan mai ef yw'r arweinydd plaid LHDTC+ cyntaf yn y Senedd, gyda rhan o'r ymrwymiad hwnnw wedi ei wireddu wrth gyhoeddi'r cynllun...
Sioned Williams: Diolch i Jack Sargeant am ddod â'r pwnc yma gerbron y prynhawn yma. Mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi gwaharddiad ar orfodi cwsmeriaid i dalu am eu hynni drwy fesuryddion talu o flaen llaw, ac fel y codais i gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr y prynhawn yma, mae angen i Lywodraeth Geidwadol San Steffan wneud mwy nag annog cyflenwyr trydan a nwy i atal yr arfer gwbl anniogel...
Sioned Williams: Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud yn ei adroddiad diweddar 'Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus' nad gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw'r argyfwng costau byw, mae'n fater iechyd cyhoeddus hirdymor sy'n effeithio ar yr holl boblogaeth. Ni fyddwn byth yn cyflawni'r Gymru decach y mae pob un ohonom yn awyddus i'w gweld os yw ein gwasanaeth iechyd yn parhau i fod...
Sioned Williams: Wrth agor y ddadl, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yn rhaid inni fabwysiadu ymagwedd ataliol tuag at iechyd, ac rwyf am siarad â'r rhan o'n cynnig sy'n galw am roi mesurau ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth. Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio dro ar ôl tro wrth drafod iechyd yn ei holl agweddau yr angen i roi gwell...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Rôn i'n gofyn yn benodol am y gronfa cymorth dewisol, ond efallai gallwn ni fynd nôl at hynny ar adeg arall. Mae gen i gwestiwn am fesuryddion talu o flaen llaw, a'r pryder yma bod pobl yn cael eu gorfodi arnyn nhw yn groes i'w hewyllys, hyd yn oed pan nad yw'n ddiogel iddynt fod ar un, yn groes i ddyletswydd y cyflenwyr i wirio ac ystyried hynny. Dwi'n falch bod cymaint...