Natasha Asghar: Iawn, diolch yn fawr am hynny, Weinidog. Ond y Llywodraeth hon hefyd a anfonodd £155 miliwn yn ôl at Lywodraeth y DU am nad oeddent wedi gwneud eu gwaith cartref ar y cyllid. Felly, gadewch inni beidio â dilyn y trywydd hwnnw. Rwyf am barhau gyda fy nhrydydd cwestiwn. Mae Ofcom yn credu na all tua 15,000 o adeiladau gael gwasanaeth band eang gydag o leiaf 10 Mbps o gyflymder lawrlwytho a...
Natasha Asghar: Gwych, diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb manwl. Nawr, gan symud ymlaen at fy ail gwestiwn, mae cynllun talebau band eang gigabit Llywodraeth y DU yn fenter wych, sy'n helpu pobl i fynd i'r afael â chyflymder band eang araf mewn ardaloedd gwledig. Mae talebau gwerth miloedd o bunnoedd yn cael eu rhoi i gartrefi a busnesau i helpu i dalu am y gost o osod band eang gigabit. Y...
Natasha Asghar: Diolch o galon, Lywydd. Weinidog, amcangyfrifir nad yw tua 7 y cant o oedolion yng Nghymru ar y rhyngrwyd. Mae talp mawr o'r 7 y cant hwnnw'n bobl 75 oed neu hŷn sydd heb gysylltiad â'r rhyngrwyd. Ychydig o dan 80 y cant o bobl sydd â salwch, anabledd neu wendid cyfyngus, hirsefydlog sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, o'i gymharu â 93 y cant o bobl heb gyflyrau o'r fath. Felly, rwy'n chwilfrydig...
Natasha Asghar: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn ne-ddwyrain Cymru? OQ59198
Natasha Asghar: Prif Weinidog, does dim dwywaith bod pob un ohonom ni yma eisiau gweld Cymru yn ffynnu ag economi gref, digonedd o swyddi medrus iawn a chyfleoedd gwych i bawb. Wel, dim ond un o'r nifer o brosiectau sy'n mynd i'n helpu ni i gyflawni hynny yw cronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU. Yn y rownd ariannu ddiweddaraf, dyfarnwyd bron i £40 miliwn i fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, mae £9 miliwn...
Natasha Asghar: Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a fy holl gyd-Aelodau yma yn y Siambr a thu hwnt. Weinidog, gwn eich bod wedi clywed y llinell hon gan lawer o fy nghyd-Aelodau dros amser a thros y blynyddoedd mwy na thebyg, ond nid yw'n gyfrinach fod Llafur, yn anffodus, wedi bod yn dinistrio ein GIG, gyda bron i 600,000 o gleifion ar restrau aros. Mae gennym hefyd fwy na 45,000 o bobl yn...
Natasha Asghar: Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i elusennau sy'n helpu pobl hŷn i reoli eu harian?
Natasha Asghar: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog mwy o fyfyrwyr, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa ym maes STEM?
Natasha Asghar: Bûm yn ffodus iawn ers cael fy ethol fy mod wedi gallu gweithio'n eithaf agos gydag Andrea Gordon. Nawr, mae hi'n gweithio i Cŵn Tywys Cymru, a thrwyddi hi, gallais gyfarfod â nifer o unigolion sydd â nam ar eu golwg ac mae wedi gwneud imi ddeall llawer mwy am eu hanghenion a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei gael mewn bywyd. Mae rhai o'r pethau nad ydym hyd yn oed yn meddwl amdanynt yn gallu...
Natasha Asghar: Na, ni chredaf ichi wneud hynny.
Natasha Asghar: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, am godi hwn fel cwestiwn heddiw. Nawr, gyda phob parch, roedd diwedd mis Mawrth i fod yn bwynt terfyn ar gyfer BES 3, fel y’i gelwid yn gyffredin, a bellach, rydym yn darganfod ei fod, yn amlwg, yn cael ei barhau hyd at ddiwedd mis Mehefin, sy’n iawn. Felly, hoffwn wybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn cyrraedd mis Mehefin,...
Natasha Asghar: Diolch, Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud bod ci mawr wedi ymosod arno’n ddiweddar ar lwybr cyhoeddus yn Nhrecelyn. Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud ei fod wedi cael ei gnoi ddwywaith gan gŵn mewn mannau cyhoeddus dros y chwe blynedd diwethaf, a bod ei fab wedi cael ei gnoi hefyd. Crybwyllodd yr Aelod dros Gaerffili y pwnc hwn yr wythnos diwethaf, felly gwn eich bod yn...
Natasha Asghar: 8. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella rheolaeth cŵn? OQ59114
Natasha Asghar: Dirprwy Weinidog, roedd gennych chi gyfle gwirioneddol yma i gael Cymru yn symud unwaith eto drwy roi seilwaith i gymunedau ledled Cymru yr oedden nhw nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu. Mae trigolion ym mhob cwr o Gymru wedi bod ar bigau'r drain ers bron i ddwy flynedd tra bod y gwaharddiad er gwaeth hwn ar adeiladu ffyrdd wedi bod ar waith. Ond nawr mae'r disgwyl ar ben o'r diwedd, fe...
Natasha Asghar: Na wnaf. [Chwerthin.] Ac ers imi fod yn Aelod, rwyf wedi cael nifer di-rif o gyfarfodydd ac wedi mynychu llu o ddigwyddiadau gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru fel rhan o'u hymdrech i sicrhau bod eu cais yn cael ei gymeradwyo ac mae'n rhaid imi ddweud bod pob un ohonynt wedi creu cryn argraff arnaf. Roeddwn yn falch iawn o glywed bod tri chais porthladd rhydd ardderchog...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr iawn i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. A minnau wedi siarad ar y pwnc droeon, gallaf ddweud yn ddiffuant nad wyf o'r un farn â chi, Luke Fletcher. A dweud y gwir, credaf fod porthladdoedd rhydd yn gyfle gwych i Gymru, gan y byddant yn bywiogi’r economi, yn creu swyddi o ansawdd uchel, ac yn ysgogi buddsoddiad, rhywbeth y byddwn wedi meddwl y...
Natasha Asghar: Weinidog, rydych wedi darllen llawer o adroddiadau; rwyf bellach wedi darllen nifer o adroddiadau ar addysg, ar ôl gofyn llawer o gwestiynau i chi dros y blynyddoedd diwethaf. Nawr, yn ystadegol, rydym i gyd yn gwybod bod plant sy'n cael eu magu mewn tlodi ac mewn ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol. Mae ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith...
Natasha Asghar: Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar a chefais gyflwyniad gan ddatblygwyr fferm ynni solar arfaethedig yng Nghraig y Perthi ger gorsaf ynni Aber-wysg. Mae ynni solar, fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un rwy’n siŵr, yn un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ar hyn o bryd, a chyda chynlluniau fel fferm solar Craig y Perthi ar y gweill, mae gwir botensial gan ynni solar nid yn unig i...
Natasha Asghar: 3. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei tharged o gyflenwi 70 y cant o alw trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030? OQ59073
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch gwaredu gwastraff gwenwynig hanesyddol yn chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn berchennog ar y safle, ar ôl prynu'r chwarel yn orfodol, ond mae wedi gwrthod cofrestru Tŷ Llwyd fel tir halogedig er gwaethaf pryder lleol ynghylch trwytholch yn gollwng ac yn llygru eiddo yn...