Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwyf i yn derbyn ei sicrwydd mai mesur wrth gefn yw hwn, fodd bynnag, nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn gweld yr angen i ddeddfu i ohirio'r etholiad ac rydym ni'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar sicrhau bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn unol â'r bwriad ddydd Iau 6 Mai. Rwy'n nodi eto bod gan y Llywydd yr awdurdod i ohirio...
Gareth Bennett: Diolch am eich ymateb. Weinidog, byddwch wedi clywed y dadleuon yn y Siambr ddoe ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd, sydd, wrth gwrs, wedi cael ei effeithio’n wael gan y pandemig. Nawr, ymddengys mai'r honiad gan ochr Llywodraeth Cymru yw bod Maes Awyr Bryste yn cael grantiau gan Lywodraeth y DU, sy'n anwybyddu neu'n esgeuluso Maes Awyr Caerdydd. Efallai fod Llywodraeth y DU wedi gweld y...
Gareth Bennett: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar yr economi yng Nghanol De Cymru? OQ56184
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon gan Lywodraeth Cymru oherwydd, yn syml iawn, nid ydym yn credu ei bod hi'n angenrheidiol. Mae etholiadau rhydd a theg yn nodwedd ddiffiniol o ddemocratiaeth sy'n gweithio, felly wrth gwrs mae'n rhaid inni gymryd y broses o ddifrif. Ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn...
Gareth Bennett: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghanol De Cymru?
Gareth Bennett: Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am yr angen i fynd yn araf o ran brechu pobl, ond nid yw'n ymddangos bod neb arall yn gallu deall hyn, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain. Ac mae tri Gweinidog arall, yn hytrach nag esbonio'r meddylfryd sy'n sail i'r penderfyniad i wneud pethau yn araf, wedi dod allan a phenderfynu mai dyma sy'n digwydd. Mae Vaughan Gething, Kirsty Williams a Jeremy...
Gareth Bennett: Diolch am eich ateb. Rydym wedi ymdrin â chryn dipyn o faterion heddiw sy'n ymwneud â dysgu o bell. Gwn fod cefnogaeth i rieni sy'n addysgu gartref ar yr Hwb, y sonioch chi amdano'n gynharach, sy'n dda, ac rwyf hefyd yn derbyn bod mater yn codi o ran faint o ganllawiau y dylai Llywodraeth Cymru eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau cydbwysedd, fel yr awgrymoch chi mewn ateb cynharach....
Gareth Bennett: 6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg yng Nghanol De Cymru drwy gydol pandemig COVID-19? OQ56087
Gareth Bennett: Diolch am yr ymateb yna. Mae ein cyfradd frechu wedi bod yn is na rhannau eraill o'r DU hyd yma. Mae'r gyfradd yn Lloegr tua 3.5 y cant o'r boblogaeth, ac yng Nghymru mae wedi bod yn 2.7 y cant. Er eich bod chi wedi ceisio bychanu'r gwahaniaeth hwn, mae'n gyfystyr â 25,000 o bobl ychwanegol y gellid bod wedi eu brechu yng Nghymru pe byddech chi a'ch Gweinidog iechyd wedi bod yn effro. O...
Gareth Bennett: 1. Pa werthusiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19? OQ56088
Gareth Bennett: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am gyflwyno dadl heddiw. Rwyf mewn gwirionedd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r teimladau y mae newydd eu mynegi. Credaf fod pawb yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi ein bod yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus ac nad oes neb eisiau bychanu'r sefyllfa honno. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi bod Llywodraethau gwledydd ledled y byd, yn...
Gareth Bennett: Diolch am yr ymateb yna. Mae amrywiaeth o etholwyr sy'n fferyllwyr cymunedol wedi cysylltu â mi ac rwy'n gofyn pa bwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyrraedd yn ei thrafodaethau â Fferylliaeth Gymunedol Cymru—trafodaethau sydd wedi bod yn cael eu cynnal am rai misoedd bellach—ynghylch digolledu'r sector hwn am y costau ariannol yr aeth iddyn nhw pan fu'n rhaid i fferyllwyr dalu am eu...
Gareth Bennett: 5. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56071
Gareth Bennett: Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cael y ddadl hon o'r diwedd. Un o broblemau'r pandemig yw ein bod yn cael mesurau wedi'u pasio'n gyson gan Lywodraeth Cymru nad ydynt erioed wedi cael eu cymeradwyo gan y Siambr hon. Gwnaeth Caroline Jones y pwynt ein bod ni yma yng Nghymru, yn ein sefydliad datganoledig, ymhell o fod yn ddemocratiaeth, a'n bod yn dod yn unbennaeth etholedig mewn...
Gareth Bennett: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo twf economaidd yng Nghanol De Cymru?
Gareth Bennett: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon?
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog eto am ei hadroddiad.
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r adroddiad hyn.
Gareth Bennett: Pan fydd Llywodraeth yn ceisio gweithredu polisi, mae gwahanol ddulliau y mae modd eu defnyddio yn yr achos hwnnw. Weithiau mae'n bosibl rhannu'r rhain yn ddwy elfen sylfaenol, sef y foronen a'r ffon. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn eithaf cyson yn argymell y foronen yn hytrach na'r ffon wrth hyrwyddo'r ymgyrch o hybu defnydd y Gymraeg, ac rwyf wedi fy nghalonogi, ar ôl darllen...
Gareth Bennett: Fe ddatblygaf y pwynt hwn eto. I gloi, dyma'r nonsens sydd gennym yn awr gyda datganoli. A gawn ni gael gwared ar yr anhrefn gyfansoddiadol hon os gwelwch yn dda—