Canlyniadau 21–40 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ( 8 Maw 2023)

Samuel Kurtz: Lywydd, yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfûm â Chynghrair Wlân Cymru a'r gwneuthurwr dillad gwau lleol o sir Benfro, Monkstone, i drafod y potensial enfawr sydd i ddiwydiant gwlân Cymru. Fel mae'n sefyll, diwydiant gwlân y DU yw'r pedwerydd mwyaf yn y byd, gyda Chymru'n cyfrannu dros draean o wlân i'r ffigur hwnnw. Drwy gefnogaeth 6,000 o ffermwyr Cymru, rydym yn cynhyrchu tair gwaith...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ( 8 Maw 2023)

Samuel Kurtz: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi leol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59222

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Porthladdoedd ( 7 Maw 2023)

Samuel Kurtz: Prif Weinidog, mae gennyf i lawer o atgofion hapus o weithio ar fwrdd y Stena Europe a'r Lynx a oedd yn hwylio o Abergwaun i Rosslare ar ddechrau'r 2010au pan oeddwn i'n dal yn fyfyriwr. Roedd llawer o'r sïon a'r sgwrsio islaw'r deciau ac yn y gali bryd hynny yn dweud y byddai'r ddau borthladd yn sir Benfro yn cael eu cyfuno ar yr adeg honno. Ers hynny, yn y mis diwethaf, rydym ni wedi...

8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd — Cynnydd Cynllun Pum mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd (28 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am weld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Mae'n hanfodol ein bod yn eithriadol o glir am y risgiau y mae AMR, ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn ei achosi i gymdeithas fodern, boed hynny ar fferm neu mewn lleoliad gofal iechyd. Mae'r risg hon yn fygythiad dirfodol i bobl ac anifeiliaid, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net (28 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar y strategaeth sgiliau sero net. Cyn y datganiad, fe dreuliais i amser yn darllen drwy'r cynllun gweithredu 'Cymru Gryfach, wyrddach a thecach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' a'r atodiad, 'Trosolwg o'r sector sgiliau allyriadau a themâu trawsbynciol'. Fe gefais i fy siomi nad oedd unrhyw sôn am sir Benfro na Choleg Sir...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plaladdwyr Niweidiol (28 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol, yn enwedig pan fo bygythiad i iechyd pobl, ond gall gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi gynnig yr ateb yma, a dyna pam cefais fy ngadael yn rhwystredig gan na roddwyd caniatâd i'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Gall y ddeddfwriaeth hon gynorthwyo ein cydnerthedd yn erbyn rhai o'r heriau...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Mae'n drueni na chafodd y rheolau caffael llawn hynny eu dilyn pan brynwyd Fferm Gilestone. Mae'n ymddangos fel pe bai'n un rheol i un a rheol arall i'r llall. Enghraifft arall sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn yr un cae â ffermwyr yw nad oedd un fferm o Gymru wedi cymryd rhan yn nhreial brechlyn CattleBCG yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pe bai Llywodraeth Cymru o...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Diolch. Nid wyf yn credu mai'r hyn a ddisgrifiais fyddai'r ffordd orau ymlaen, felly rwy'n eich annog yn gryf i gael golwg ar hyn eto. Rwy'n gwybod bod prif swyddog milfeddygol newydd yn dechrau ym mis Mawrth, ac rwy'n eich annog i weithio gydag ef i wneud yn siŵr fod yr arfer annynol hwn yn cael ei ddwyn i ben ac y gall y gwartheg hyn loia gydag ychydig o urddas. Yn Sioe Sir Benfro y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Bob blwyddyn ers pum mlynedd, mae dros 10,000 o wartheg wedi cael eu difa, a dros 50,000 wedi marw oherwydd TB Gwartheg yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys gwartheg cyflo a laddwyd oherwydd prawf TB positif. Fe wnaeth ffermwr sôn wrthyf am yr adeg y gwyliodd eu buwch a oedd bron â dod â llo yn cael ei lladd ar y fferm gan ddefnyddio dryll 12 bôr i saethu rhwng llygaid yr...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (15 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella mynediad at fannau gwyrdd cymunedol trefol ledled Cymru?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod am ei hymyriad, ac mae'n debyg i ymyriadau'r Aelod dros Ogwr o fy mlaen—'Pam fod angen y rhain arnom? Gellir gwneud y pethau hyn beth bynnag.' Ond credaf fod hynny'n camddeall y pwynt o ran yr hyn y mae'n ei wneud. Mae'n gatalydd. Ydy, mae'n bosibl y gall y diwydiannau hyn ffynnu a goroesi heb gais porthladd rhydd a heb y buddion a ddaw yn sgil porthladd rhydd. Ond yr hyn y...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Porthladdoedd rhydd ( 8 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Rwyf bob amser yn ddiolchgar iawn am gael siarad o blaid rhywbeth rwy’n angerddol yn ei gylch yn y Siambr hon, ac rwyf wedi ailysgrifennu’r araith hon bedair neu bum gwaith yn fy mhen, ar ôl gwrando ar y cyfraniadau y prynhawn yma, a chan gofio'r edrychiad a gefais gan y Dirprwy Lywydd ychydig wythnosau yn ôl, byddaf yn ofalus i gadw fy nghyfraniad yn gadarnhaol ac yn galonogol y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwricwlwm i Gymru ( 8 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai pwrpas asesu disgyblion yw llywio'r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion. Ond mae diffyg fframwaith asesu amlwg a chlir wedi achosi i un pennaeth lleol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro deimlo'n bryderus am gyfnod pontio disgyblion o addysg gynradd i...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ( 8 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda’r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai’r unig gymorth ariannol y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwricwlwm i Gymru ( 8 Chw 2023)

Samuel Kurtz: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru? OQ59074

5. & 6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ( 7 Chw 2023)

Samuel Kurtz: Fel bob amser, rwy'n ddiolchgar iawn am gael y cyfle i gyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma. Byddwn yn pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fel y soniwyd eisoes, mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth nodedig i gymuned amaethyddol Cymru. Am y tro cyntaf erioed, mae Cymru ar fin manteisio ar gael ei deddfwriaeth amaethyddol gyntaf, a luniwyd yma yng Nghymru, wedi'i theilwra i natur y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid ( 7 Chw 2023)

Samuel Kurtz: I symud y pwyslais at les anifeiliaid nad ydyn nhw'n anifeiliaid anwes, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol yn eich swyddogaeth fel y Gweinidog materion gwledig bod dyfrgwn a llwynogod wedi'u dynodi'n gludwyr y ffliw adar pathogenig iawn H5N1. Yn ôl data'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, mae 66 o famaliaid wedi eu profi hyd yma ar gyfer y clefyd, a chanfuwyd bod naw o ddyfrgwn...

8. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoli BVD mewn gwartheg a’r clafr mewn defaid yng Nghymru (31 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch. Mae eich...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (31 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Weinidog, mae'n ymddangos fy mod yn ailadrodd hyn ymhob datganiad ynghylch y Gymraeg. Rwy'n rhannu eich uchelgais ar gyfer ein hiaith. Rwyf am ei gweld yn ffynnu ymhob lleoliad ledled Cymru, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar hyd y stryd fawr, neu wrth ddesg y swyddfa. Ond, i wneud hyn, mae'n rhaid inni ddod â phawb ar y daith gyffredin hon, a gallwn wneud hynny drwy ddatblygu polisïau...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg (31 Ion 2023)

Samuel Kurtz: Fel sydd wedi ei sefydlu, mae Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ddull gan Lywodraeth Cymru o sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau er budd amcanion a thargedau Llywodraeth Cymru ei hun, yn yr achos hwn, 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, sy'n penderfynu os ydyn nhw'n...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.