Rhys ab Owen: Trefnydd, fe hoffwn i ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, am faterion ynglŷn â thai, ac rwy'n falch eich bod chi eisoes wedi nodi eich parodrwydd i roi un. Ond yn gyntaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad llafar ynglŷn ag effaith y lwfans tai lleol yng Nghymru? Yn ddiweddar fe wnaeth Sefydliad Bevan ganfod bwlch sylweddol rhwng y lwfans tai lleol a'r rhent, a bod hynny'n arwain...
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau cyhoeddus eraill ynglŷn ag amodau tai gwael yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr o Affrica?
Rhys ab Owen: Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl yn 2000, fe gafwyd dadl yn cynnig bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ŵyl banc. Fel y ddadl y llynedd, cafodd hwn gefnogaeth gan bob Aelod o'r Cynulliad ar y pryd. Serch hynny, yn 2002, gwrthod y cais wnaeth Paul Murphy, a gwrthod unwaith eto wnaeth Peter Hain yn 2005. Fydd Ysgrifennydd Gwladol Llafur yn y dyfodol yn rhoi ateb gwahanol i...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. A wnewch chi amlinellu, efallai, y broses a ddefnyddiwyd gennych yn y broses dendro gyntaf a sut y gellir newid hyn er mwyn sicrhau cynulleidfa ehangach ar gyfer ail-dendro? Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: Fis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Yvette Cooper, y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyflwyno gorchmynion parch, math newydd o orchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a boblogeiddiwyd gan Tony Blair ar ddiwedd y 1990au. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi, felly, fod y cyhoeddiad gan Yvette Cooper yn debygol o olygu y bydd ymylon garw gwahanol ddulliau...
Rhys ab Owen: 4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi gwneud ynglŷn ag effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol yng Nghaerdydd? OQ59173
Rhys ab Owen: 4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses dendro ar gyfer y rhaglen prentisiaeth gyfreithiol lefel 7? OQ59170
Rhys ab Owen: 7. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru'r pwerau dros wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus? OQ59171
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch sicrhau pwerau dros benderfynu ar y lwfans tai lleol?
Rhys ab Owen: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â gwariant y gronfa datblygu gwledig yng Nghanol De Cymru?
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Trefnydd. Bythefnos yn ôl, mi wnes i godi gyda chi yr angen am £500 miliwn i sicrhau bod Crossrail Caerdydd yn mynd o'r bae i Lantrisant. Gyda The Times yn adrodd dydd Gwener bod costau HS2 nawr wedi cyrraedd £72 biliwn, pa mor benderfynol ydy Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni yma yng Nghymru yn derbyn y Barnett consequential o'r prosiect enfawr yma? Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: 8. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb y DU ym mis Mawrth? OQ59123
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Cefais fy siomi wrth glywed eich ateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders eich bod eto i dderbyn ymateb i'ch cais i gyfarfod â Michael Gove. Gobeithio y bydd yn ymateb i chi yn fuan iawn. Weinidog, darllenais eich erthygl yn Welsh Housing Quarterly, ac yn honno rydych yn nodi camau pellach ar ddiogelwch adeiladau. Roeddwn yn falch o weld bod rhywfaint o waith...
Rhys ab Owen: 4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch adeiladau? OQ59080
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau bod gan yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sgiliau iaith Gymraeg?
Rhys ab Owen: Dau ddatganiad ysgrifenedig, os gwelwch yn dda, Trefnydd, yn gyntaf o ran Madrid, sy'n ceisio amgylchynu ei hun gyda choedwig drefol 75 km i liniaru'r argyfwng hinsawdd ac i wella bioamrywiaeth. Mae yna syniad tebyg yn cael ei gyflwyno gan ymgyrchwyr yma yng Nghaerdydd, i'r ddinas ddod yn ddinas barc newydd, gyda pharciau gwledig mawr ar gyrion y ddinas, mewn ardaloedd fel Sain Ffagan, mynydd...
Rhys ab Owen: Mae'n amlwg, Cwnsler Cyffredinol, o'r adroddiad interim fod y setliad datganoli presennol yn gamweithredol ac yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru. Yr hyn sy'n amlwg hefyd yw y bydd y comisiwn yn wynebu tasg anodd o berswadio Llywodraeth San Steffan o unrhyw liw bod angen gwneud newidiadau sylfaenol. Darllenais eich cyfweliad gyda'r Law Society Gazette yr wythnos diwethaf a chefais...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Trefnydd. Yn ddiweddar dywedodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth gyhoeddus, Mark Barry, bod y cyfraniad o £50 miliwn tuag at linell cledrau croesi Caerdydd dim ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â'r £500 miliwn sydd ei angen er mwyn i'r llinell cledrau croesi fynd o Fae Caerdydd i Lantrisant. Dyw e ddim chwaith yn helpu gydag annigonolrwydd y gwasanaeth—dim bod â phedwar...
Rhys ab Owen: 9. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi cyllid ffyniant bro ar gyfer rheilffyrdd yng Nghaerdydd? OQ59036
Rhys ab Owen: Do, fe wneuthum.