Cefin Campbell: Yng nghanol popeth sy'n digwydd, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl difrifol ar hyn o bryd o golli ffydd a chefnogaeth ein gweithwyr iechyd, a’r cyhoedd yn ehangach, yn ei gallu i reoli’r gwasanaeth iechyd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod gweithwyr ambiwlans bellach wedi penderfynu mynd ar streic—rhywbeth rwy'n siŵr sydd wedi pwyso yn drwm iawn arnyn nhw. Mae’n gwbl...
Cefin Campbell: Wrth gwrs, dim ond rhan gyntaf y stori yw aros am ambiwlans. Mae oedi critigol mewn amseroedd ymateb yn cael ei achosi gan orlenwi a phrinder gwelyau ysbyty ar y pen arall, sy’n golygu bod cleifion yn aml yn gorfod aros am oriau mewn ambiwlansys oer y tu allan i adrannau brys cyn y gellir eu derbyn. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar i ddweud wrthyf am yr hyn a oedd wedi digwydd i’w...
Cefin Campbell: Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw, achos mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd rhag ofn iddyn nhw gael eu normaleiddio. A dyna'r perygl mawr yw bod y diffygion presennol yn dod yn rhan normal o'r gwasanaeth yn symud ymlaen i'r dyfodol. Dwi hefyd yn croesawu'r cyfle hwn i alw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Fel ŷn ni i gyd yn gwybod, mae'r clafr, sef sheep scab, yn bryder mawr i ffermwyr defaid yng Nghymru, ac mae'r clefyd yn cael effaith sylweddol iawn ar iechyd a lles anifeiliaid. Ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae'n cyfrannu at golledion o ryw £8 miliwn yn y sector bob blwyddyn. Fel ŷch chi eisoes wedi esbonio, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gael gwared ar y clafr yng...
Cefin Campbell: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw—hynny yw, livestock—yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Cefin Campbell: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58965
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Yn ôl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae tlodi gwledig yn aml yn cael ei guddio o dan yr wyneb gan gyfoeth cymharol ein hardaloedd gwledig ni, a gan ddiwylliant o hunan-ddibyniaeth. Fel y dywedais i yn nadl Plaid Cymru ar dlodi plant cyn gwyliau'r Nadolig, mae aelwydydd ar draws y canolbarth a'r gorllewin yn fwy agored i dlodi oherwydd nifer o ffactorau fel incwm is...
Cefin Campbell: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58975
Cefin Campbell: Rwy'n bryderus, felly, y bydd canoli’r cerbydau hyn yng ngogledd Cymru'n amharu’n sylweddol ar effeithiolrwydd cerbydau ymateb cyflym. Ac ar adeg pan fo straen mor ddifrifol ar y gwasanaeth ambiwlans, mae’r pryder hwn yn arbennig o ddifrifol. Mae’r ddadl hon wedi tynnu sylw at lawer o bethau, o gryfder y teimladau lleol, i gwestiynau ynghylch y data a ddefnyddir gan y gwasanaeth...
Cefin Campbell: Rwy'n cydnabod bod yr ambiwlans awyr wedi addo y bydd yr ymateb sydyn hwn yn parhau mewn unrhyw achos o ganoli, ac yn sicr rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw. Fodd bynnag, fel eraill, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y gallai unrhyw ganoli ei chael ar effeithiolrwydd, fel yr oedd Mabon yn sôn amdano yn gynharach, y gwasanaeth cerbyd ymateb cyflym—y rapid response...
Cefin Campbell: Fel yr amlygwyd eisoes yn ystod y ddadl hon, mae llawer o gymunedau yn y canolbarth yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl i raddau mwy a mwy o ran eu mynediad at ddarpariaeth iechyd ehangach. Nid oes ysbyty cyffredinol ym Mhowys, ac mae'r gwasanaethau a oedd ar gael yn flaenorol—yn Llanidloes a'r Drenewydd, er enghraifft—wedi cael eu hisraddio, ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn...
Cefin Campbell: Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i a phawb, dwi'n siŵr, yma i'r gwirfoddolwyr hynny sy'n rhan o grwpiau fel Achub Ambiwlans Awyr Cymru—y Trallwng am eu gwaith diflino yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n cael eu trafod yma y prynhawn yma. Mae’r ffaith bod dros 20,000 o lofnodion, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, sy’n gwrthwynebu cau canolfan y Trallwng yn dangos cryfder...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng ynni—sydd wedi cael ei waethygu, wrth gwrs, gan y rhyfel yn Wcráin—wedi pwysleisio’r angen yng Nghymru i fod yn llawer mwy gwydn o ran cynhyrchu ein hynni ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu 70 y cant o drydan Cymru drwy ddulliau adnewyddol erbyn 2030, ac dwi'n croesawu hynny’n fawr iawn, a'r pwyslais a roddir ar berchnogaeth leol...
Cefin Campbell: 7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi prosiectau egni adnewyddadwy lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58915
Cefin Campbell: Rwy’n eich annog chi, Weinidog, i ailddyblu eich ymdrechion gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i chi a'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi plant. Diolch yn fawr.
Cefin Campbell: Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd ffigurau diweddar yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yn ein cymunedau gwledig ac arfordirol. Fe welodd nifer o'r ardaloedd hynny yng Nghymru gwymp yng nghyfraddau tlodi plant rhwng 2014 a 2019. Mewn rhai rhanbarthau gwledig, arfordirol, parhaodd tlodi plant i godi'n frawychus. O'r chwe awdurdod lleol yng Nghymru a welodd gynnydd yn y cyfraddau tlodi...
Cefin Campbell: Rŷn ni i gyd yn llawer rhy ymwybodol o ba mor gyffredin yw tlodi plant yng Nghymru. Nid yw e'n ffenomen newydd o gwbl—mae'n fater sydd wedi ei wreiddio yma yng Nghymru am amser llawer rhy hir ac mae'n parhau i gael effeithiau pellgyrhaeddol a niweidiol. Mae Cymru wedi bod ar frig tablau cynghrair ar gyfer tlodi plant ar draws y Deyrnas Gyfunol flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd yn destun...
Cefin Campbell: Weinidog, fe ddywedoch chi y byddai'r cam cyntaf—ac rŷn ni wedi eich clywed chi'n cadarnhau hyn—ar gyfer diweddariad y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, a dyma ni ar ein hwythnos olaf cyn y Nadolig. Felly, dwi'n erfyn arnoch chi i ddweud pryd yn union fydd y cynllun yma'n cael ei gyhoeddi, a bod hynny'n cael ei gyhoeddi ar frys er mwyn osgoi'r fath o brofiadau mae...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Weinidog, efallai y byddwch yn cofio imi rannu stori fy etholwr Emily rai misoedd yn ôl yn ystod dadl wrthblaid gan Blaid Cymru ar iechyd menywod. Yn drasig, bu'n rhaid iddi ddioddef am bron i 10 mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis, cyflwr sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw ledled Cymru. Bellach yn 24 oed, mae Emily yn byw gydag endometriosis cam 4, adenomyosis a...
Cefin Campbell: Diolch yn fawr iawn. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi wledig. Fodd bynnag, mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn ergyd sylweddol iddyn nhw, gydag adroddiad diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yn nodi bod 63 y cant o fusnesau bach wedi gweld costau ynni yn cynyddu dros y flwyddyn diwethaf—dau allan o bob pump wedi gweld eu costau yn mwy na dyblu....