Mabon ap Gwynfor: ac ymhellach,
Mabon ap Gwynfor: 'Gosod eiddo fel arall a gweithredu ein heiddo tirol ein hunain neu eiddo ar brydles.'
Mabon ap Gwynfor: Ydy'r Gweinidog felly'n credu mai cyd-ddigwyddiad anffodus ydy o efo amserlennu y prynu yma, ynteu ydy'r Gweinidog, neu ei adran, yn gwybod am unrhyw gynlluniau pellach ar gyfer defnydd Gilestone sydd yn ymwneud â real estate a chwmni Cwningar?
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i James am roi'r cwestiwn yma ymlaen. Rŵan, rydyn ni'n gwybod, wrth roi pres cyhoeddus i unrhyw sefydliad, mai'r bwriad ydy sicrhau budd cyhoeddus. Rydyn ni'n gwybod bod Gilestone ei hun yn gasgliad o anheddau gwyliau, efo'r potensial o ddatblygu llawer iawn mwy o unedau gwyliau. Dwi ddim yn gwbl hyderus bod yr ateb ddaru i chi ei roi yn ateb cwestiwn James, felly os cawn...
Mabon ap Gwynfor: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y meddygon teulu yng Nghymru? OQ59223
Mabon ap Gwynfor: Diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y drafodaeth bwysig yma y prynhawn yma. Dwi yn cydnabod ar y cychwyn fod llunio cyllideb yn dasg anodd ac yn cydymdeimlo â'r Gweinidog. Mae cyllideb yn adlewyrchu blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'r gyllideb yma, felly, yn gorfod cael ei gwneud yn wyneb llymder 2.0. Unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn edrych i dorri yn ôl ar gefnogaeth y wladwriaeth a gorfodi...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb. Mae effaith y polisi a rheoliadau ffosffad yma yn cael dylanwad sylweddol ar bobl ar draws Cymru. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o effaith y rheoliadau ar ddatblygwyr tai, yn enwedig i'n tai cymdeithasol, efo tua 700 o dai cymdeithasol wedi cael eu dal i fyny oherwydd y rheoliadau yma. Ond dwi eisiau edrych yn benodol ar ddatblygiad rheilffordd...
Mabon ap Gwynfor: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am effaith rheoliadau ffosffad ar Ddwyfor Meirionnydd? OQ59235
Mabon ap Gwynfor: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Mabon ap Gwynfor: Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n dweud eich bod yn gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, a geiriau cryf iawn yn cael eu dweud, ond a ydych chi'n rhannu fy siom nad yw eich cyd-Aelodau Llafur yma heddiw? A allwch chi ddweud wrthym ble maent? Oherwydd os ydym o ddifrif yn teimlo mor ddig am hyn a'n bod eisiau i'n lleisiau gael eu clywed, mae angen eich cyd-Aelodau yma...
Mabon ap Gwynfor: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Mabon ap Gwynfor: Rydych yn dweud eich bod am inni ddilyn modelau Ffrainc a’r Eidal, ac mae’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch cyfreithiau cyflogaeth yn wahanol yno. Nid yn unig fod ganddynt gyfreithiau gwahanol ynghylch streiciau, ond mae ganddynt well cynrychiolaeth i weithwyr ar eu byrddau. Felly, os ydych am inni gael yr un rheolau ynghylch cyflogaeth ag sydd ganddynt yn Ffrainc, pam nad oes gennym...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb cryno yna. Mae'r Llywodraeth yma wedi gwrthod derbyn yr angen i gynyddu trethi yng Nghymru, sydd yn sicr o arwain at weld ein gwasanaethu cyhoeddus yn crebachu ac yn gwegian, a rhai gwasanaethau am ddiflannu. Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn golygu gwneud penderfyniadau anodd. Mae honno’n benderfyniad, felly, rydych chi fel Llywodraeth wedi'i gymryd, ac mi fydd yn rhaid i...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Mi fyddwch chi yn cofio'r hyn a oedd yn ymddangos i mi, o leiaf, cyn y Nadolig, fel y ffars a welwyd yn y Siambr hon wrth inni gael ein gorfodi i bleidleisio ar ddeddfwriaeth a oedd yn gwbl fethedig. Fe ddywedwyd bryd hynny y buasai fo'n cael ei gywiro ar y cyfle cyntaf posibl. Rydyn ni newydd glywed rŵan ei fod o ddim wedi cael ei gywiro ac mi rydyn ni...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Dwi'n siŵr roedd yn bryder i chi, fel fi, i ddarllen fod yna 24 aelod o staff, nid jest gweision heddlu, yn cael eu harchwilio oherwydd achosion o drais domestig, camymddwyn rhywiol neu drais yn erbyn menywod yn lluoedd Heddlu Gogledd Cymru. Rydym ni'n disgwyl adroddiadau lluoedd heddlu eraill yn gymharol fuan hefyd yng Nghymru. Wrth gwrs, cafodd yr...
Mabon ap Gwynfor: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adroddiad am gasineb at fenywod a chamymddygiad rhywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru? OQ59183
Mabon ap Gwynfor: 2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd ynghylch Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022? OQ59181
Mabon ap Gwynfor: 8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros fandiau treth incwm i Gymru? OQ59182
Mabon ap Gwynfor: Wel, yn dilyn cyfraniad John Griffiths, bydd o ddim yn dod fel syndod i’r un ohonoch chi fy mod i, a ni ar y meinciau yma, yn gwrthwynebu’r cynnig yma heddiw, gan, yn y broses, ypsetio fy nghyfaill newydd, Janet Finch-Saunders. Mae'r Bil yma, fel cynifer o’r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym wedi eu gweld dros y 18 mis diwethaf, yn tanseilio ein deddfwrfa cenedlaethol yma, ac,...
Mabon ap Gwynfor: Wrth gwrs, mae’n fater dyrys, ac mae angen dod at hyn o sawl cyfeiriad. Rhaid hyrwyddo arferion glendid da er mwyn atal heintiau rhag lledaenu, a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotig. Y gorddefnydd a’r camddefnydd o gwrthfiotig sydd yn gyrru ymwrthedd gwrthficrobaidd. Rhaid, felly, sicrhau bod y defnydd o gwrthfiotig yn cael ei gyfyngu i'r adegau angenrheidiol yn unig, gan ei ddefnyddio...