Siân Gwenllian: Mae'n dda clywed bod yna gynlluniau ar y gweill, ac, wrth gwrs, mae angen eu hymestyn nhw a dod â chynlluniau newydd ymlaen hefyd. Ond yn rhannau gwledig fy etholaeth i, nid cost teithio ar fysus ydy'r unig broblem. Mae yna brinder bysus yn y lle cyntaf, gyda rhai cymunedau heb ffordd o deithio o gwbl ar adegau, gan nad oes yna ddim trenau, metro, llwybrau seiclo addas, nac ychwaith...
Siân Gwenllian: 1. Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc Arfon gyda chostau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ59096
Siân Gwenllian: Unwaith eto, dwi'n cefnogi etholwr o Arfon sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil camgymeriadau sylfaenol a difrifol iawn gan yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi wedi dadlau'n gyson fod y bwrdd iechyd wedi datgymalu uned o safon uchel ym Mangor am y rhesymau anghywir. Dyma ond un o benderfyniadau gwael a wnaed efo sêl bendith eich Gweinidogion chi dros y blynyddoedd, diwethaf sydd wedi...
Siân Gwenllian: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau fasgiwlar i gleifion yn Arfon? OQ58981
Siân Gwenllian: Yn ddiweddar, mi ges i gyfle i ymweld â chanolfan newydd sbon ar safle hen ffatri yn nyffryn Nantlle yn fy etholaeth i. Canolfan neu hwb datgarboneiddio ydy Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sy'n dod â nifer o bartneriaid ynghyd efo'r nod ganolog o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl nid yn unig yn Arfon, ond ar draws y gogledd a thu hwnt. Un agwedd bwysig o'r gwaith yma fydd arloesi efo...
Siân Gwenllian: 11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am sut y gall amaethwyr gyfrannu at y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni yn Arfon? OQ58969
Siân Gwenllian: Mae llawer iawn o etholwyr wedi cysylltu â mi ar y mater yma, a'r teimlad cryf ydy fod y gogledd-orllewin mewn perygl o gael ei amddifadu o wasanaeth pwysig unwaith eto. Dwi'n gwybod cymaint y mae'r gwasanaeth yn ei olygu i bobl leol, y bywydau sydd wedi eu hachub a'r manteision o gael y gwasanaeth brys yma ar ein carreg drws ni. Felly, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru i brofi—i brofi—na...
Siân Gwenllian: Fel y gwyddoch chi, dydy'r problemau a brofwyd gan rai o fy etholwyr i efo mesurau arbed ynni o dan gynllun Arbed 2 dal heb gael eu datrys. Dwi yn ddiolchgar bod eich swyddogion chi'n delio efo achosion yn ymwneud â dau gontractwr penodol, ac mi fyddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallaf ddisgwyl diweddariad am hyn. Wrth inni edrych at gynlluniau i'r dyfodol, mae'n ofnadwy o bwysig, onid ydy,...
Siân Gwenllian: 5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai yn Arfon? OQ58899
Siân Gwenllian: Da iawn, ac mae'n dda gweld y cynllun yma'n datblygu. Ond, hoffwn i wybod a oes yna unrhyw waith pellach ar y gweill er mwyn sicrhau bod y ganran angenrheidiol o ddarpar feddygon, sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg, yn mynychu'r ysgol feddygol? Fe gyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer 'Mwy na Geiriau', a hoffwn wybod sut mae'r themâu sydd yn y cynllun hwnnw yn cael eu rhoi ar waith ym Mangor,...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor? OQ58869
Siân Gwenllian: Â ninnau ar fin trafod cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'n dda cofio bod sefydlu ysgol feddygol ym Mangor wedi deillio o gytundeb cyllidebol a arwyddwyd rhwng Plaid Cymru a'ch Llywodraeth chi rai blynyddoedd yn ôl bellach, ymhell cyn y cytundeb cydweithio, a dweud y gwir. Ac felly, mae'n dda gweld yr ymrwymiad yma'n parhau i gael ei gefnogi a'r cynllun yn mynd o nerth i nerth....
Siân Gwenllian: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor? OQ58870
Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Cynnig yn ffurfiol.
Siân Gwenllian: Pa gefnogaeth sydd ar gael i ferched yn Arfon sy'n profi problemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â mamolaeth?
Siân Gwenllian: Diolch am y datganiad a chyfle i drafod y mater pwysig yma. Fel rydych chi'n gwybod, dwi'n cynrychioli'r etholaeth ar y tir mawr sydd agosaf at bont Menai a phont Britannia. Mae hi'n ardal ddinesig brysur iawn, yn cynnwys busnesau a siopau, meysydd chwarae, parc busnes, gwesty, ysgolion a channoedd o dai, a hefyd, dyma lle mae Ysbyty Gwynedd. Fe gafwyd ciwiau o bron i dair awr jest i adael...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn Arfon yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda chynllun Arbed 2?
Siân Gwenllian: Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r camwybodaeth sy'n cael ei ledaenu gan rai yn fy etholaeth i a thu hwnt i hynny am y cod. Mae'r ffug newyddion mewn perig o danseilio'r polisi a'r gwaith o gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb, polisi rydym ni ar y meinciau yma yn gyfan gwbl gefnogol ohono fo. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae yna bryder nad ydy'r adnoddau a'r deunyddiau dysgu newydd wedi bod...
Siân Gwenllian: 5. Pa gymorth y mae’r Llywodraeth yn ei roi i ysgolion Arfon a'r awdurdod lleol wrth iddynt gyflwyno’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd? OQ58513