Heledd Fychan: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, yn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'u hadolygiad o gleifion yn cael eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Amlygwyd risgiau sylweddol, ac maen nhw'n parhau, a hoffwn ofyn am...
Heledd Fychan: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gostyngiad mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghanol De Cymru? OQ59255
Heledd Fychan: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru gyda chost y diwrnod ysgol? OQ59256
Heledd Fychan: Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd afon yng Nghanol De Cymru?
Heledd Fychan: Iawn. Rwyf wedi stopio siarad.
Heledd Fychan: Yr effaith mwyaf niweidiol yw'r ffaith nad yw'r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU yn sefyll dros Gymru, ac rwy'n credu yng Nghymru ac rwy'n credu yn nyfodol Cymru, ac nid wyf yn derbyn hynny. Rydyn ni wedi gweld tystiolaeth gan wahanol ymchwilwyr sy'n dangos nad yw hynny'n wir, a hefyd cawsom wybod y byddai'r holl arian yma yn dod mewn i Gymru ar ôl Brexit ond ni ddigwyddodd hynny o gwbl....
Heledd Fychan: Mae'n rhaid i mi ddweud, dydw i ddim eisiau sefyll i fyny a rhyddhau Llywodraeth Cymru o gyfrifoldeb yma, ond mae'n dân ar fy nghroen clywed y Ceidwadwyr yn gofyn, 'Beth am blant Cymru?' pan fo, mewn gwirionedd, yn ymwneud a chyni'r Torïaid yn gorfodi polisïau ar bobl yma yng Nghymru, nid yn rhoi'r gyfran deg y mae Cymru'n ei haeddu, dweud celwydd am ddifidend Brexit a fyddai'n dod i Gymru...
Heledd Fychan: Diolch, Prif Weinidog, ond, yn anffodus, fel rydyn ni i gyd yn gwybod, gwaethygu mae lefelau tlodi plant yng Nghymru, ac mae'n glir o ymwelliadau ledled fy rhanbarth, ynghyd â gwaith achos, fod y sefyllfa'n argyfyngus i nifer o deuluoedd. Mae athrawon yn gyson yn dweud wrthyf i eu bod yn gynyddol yn gorfod treulio amser yn cefnogi disgyblion a'u teuluoedd o ran yr ymateb i'r argyfwng costau...
Heledd Fychan: 8. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yng Nghanol De Cymru? OQ59231
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A chithau wedi fy enwi, roeddwn i'n meddwl byddwn i jest eisiau gwneud y sicrwydd dwi ddim yn diystyru gweddill y data, ond, yn amlwg, cyfrifiad 2011 oedd y sail o ran strategaeth 'Cymraeg 2050' ac ati. Dwi jest yn poeni mai sampl llai ydy'r samplau eraill—er enghraifft, yr arolwg cenedlaethol; dwi'n meddwl 1,000 o bobl, ond cewch chi fy nghywiro i—o'i...
Heledd Fychan: Gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Tom, am rannu dy siwrnai di efo'r iaith. Mae'n hyfryd dy glywed di a dy hyder wedi cynyddu yn yr amser rwyt ti wedi bod yma. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fod ar Hawl i Holi, rhywbeth wnest ti ddweud y buaset ti byth yn ei wneud cwpwl o fisoedd yn ôl, ond rwyt ti'n ei wneud o nos yfory. Dwi'n meddwl bod hynna'n wych ac yn...
Heledd Fychan: Gallwn ni ddim gwadu'r hyn mae Llywodraeth Prydain yn ceisio ei gyflawni efo hyn. Mae'n cymunedau ni wedi dioddef digon. Rydyn ni wedi clywed yn glir gan Delyth, gan Luke, gan Peredur ac eraill. Rydyn ni'n gwybod hynny o fod yn siarad â gweithwyr ar lawr gwlad. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ddim yn hapus yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n gweithio'n galed, ond eto yn methu fforddio prynu bwyd na...
Heledd Fychan: Rydym eisoes wedi clywed am y gydberthynas rhwng lefelau uchel o aelodaeth undebol a chanlyniadau cadarnhaol ar ffurf cyflogau a chynhyrchiant uchel, a chaiff hyn ei ategu gan enghreifftiau rhyngwladol niferus—mae Mabon a Delyth eisoes wedi achub y blaen arnaf ar hyn. Ond ystyriwch Sweden, lle mae 88 y cant o weithwyr yn elwa o hawliau cydfargeinio, ac mae ganddi incwm cenedlaethol net...
Heledd Fychan: Dwi'n gwneud fy nghyfraniad heddiw hefyd efo fy rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS. Diolch yn fawr iawn, Delyth, yn arbennig efo'r araith yna. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni gyd gofio ein bod ni i gyd wedi elwa o'r hyn sydd wedi dod drwy'r rhai sydd wedi brwydro o'n blaenau ni—pob un ohonom ni wedi elwa o hynny o gymharu efo'n cyndeidiau ni. A dyna sydd dan fygythiad yn y fan yma. Yn sicr,...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio eisoes yn eich ymateb i Peredur Owen Griffiths ac eraill o ran y mater hwn, ac rydych wedi amlinellu yn eich ymateb i fi nifer o bethau sydd yn cael eu gwneud. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod hyn ddim yn mynd yn ddigon pell, a bod yna unigolion a theuluoedd yn fy rhanbarth, a ledled Cymru, sy'n methu fforddio cynhesu eu tai. Fel mae...
Heledd Fychan: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi trigolion Canol De Cymru sy'n wynebu tlodi tanwydd? OQ59172
Heledd Fychan: 'weledigaeth ehangol a chynhwysol ar gyfer y Gymraeg'
Heledd Fychan: gael ei gyflawni yn wirioneddol heb newid radical o ran y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae angen i’r Llywodraeth gydnabod bod y seiliau er mwyn ehangu mynediad cydradd i bobl o bob cefndir i’r Gymraeg yn fregus ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae yna ddiffyg o ran nifer yr athrawon sy’n medru siarad Cymraeg sy'n cael eu...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, a Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb, pan ddaw yfory, hefyd. Yn anffodus, dyw e ddim yn ŵyl banc genedlaethol, fel y dylai fe fod, ond rydyn ni’n dal i obeithio’n fawr. Yn amlwg, mae Sam Kurtz yn cytuno—plîs, perswadiwch eich Llywodraeth chi yn y Deyrnas Unedig i ganiatáu inni gael un. Gobeithio, os bydd yna Lywodraeth arall yn sgil yr etholiad cyffredinol nesaf, byddan...
Heledd Fychan: Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin am ddangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb ymosodiadau creulon parhaus Rwsia. Ac mae'n fy nigalonni, flwyddyn ers goresgyniad anghyfreithlon a barbaraidd Putin—fel y dywedodd Sioned Williams ddoe—yn Wcráin fod y rhyfel yn parhau. Mae troseddau rhyfel erchyll yn cael eu cyflawni a dylai swyddogion Rwsia sy'n arwain y rhyfel, gan...