Canlyniadau 21–40 o 400 ar gyfer speaker:Peter Fox

3. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24 ( 7 Maw 2023)

Peter Fox: Diolch i chi, Gweinidog, am y datganiad yna. Fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi, Gweinidog, gweithwyr Cymru sy'n mynd adref â'r pecynnau cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig—swm rhyfeddol o £3,000 yn llai na'r rhai cyffelyb yn yr Alban. Y ffaith seml yw y byddai unrhyw gynnydd yn y dreth incwm yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio'n galed. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi...

11. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 (28 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch, Gweinidog. Mae pob un ohonom ni'n gwybod mai BBaChau yw curiad calon ein heconomi yma yng Nghymru. Maen nhw'n darparu cyflogaeth hanfodol ac yn cyfrannu at synnwyr o gymuned a pherthyn. Ac er fy mod i'n falch nad yw'r lluosydd wedi codi, ni allwn ni gefnogi'r rhewi, oherwydd mae'n amlwg y gellid fod wedi gwneud llawer mwy i gynorthwyo'r gymuned fusnes. Er enghraifft, fel y nododd y...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Chw 2023)

Peter Fox: Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fudiadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gwasanaethau brys?

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Diwydiant Wyau (15 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch i'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru am godi hyn, ac rwy'n rhannu ei bryderon a phryderon y diwydiant, ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr. Mae cynhyrchwyr dofednod yng Nghymru wedi bod yn wynebu'r pwysau dwbl rydych yn ei gydnabod gyda ffliw adar a chostau cynhyrchu cynyddol ers cryn dipyn o amser. Yn dilyn cyfarfod gyda ffermwyr dofednod pryderus ar...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Parhad Cydwasanaethau (15 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch. Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn cydnabod y rôl bwysig y mae cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol yn ei chwarae er mwyn gallu fforddio gwasanaethau gwerthfawr i filoedd lawer o blant, gan wella eu profiadau dysgu. Mae faint o gymorth a roddir yn aml yn allweddol i hyfywedd a bodolaeth gwasanaethau hynod bwysig. Gyda siom y dysgais felly fod cyngor newydd sir Fynwy dan arweiniad...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Peter Fox: Wel, diolch, unwaith eto, Weinidog. Cymeraf o hynny nad ydych yn difaru’r buddsoddiad dros y 10 mlynedd, er ei fod yn swm enfawr o arian, a gwn y byddai llawer o Aelodau yma wedi hoffi gweld yr arian hwnnw’n cael ei wario mewn llawer o feysydd eraill, megis iechyd ac addysg, ac efallai wedyn na fyddem yn y sefyllfa wael rydym ynddi, ond dyna ble rydym. Yn anffodus, Weinidog, mae...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch, Weinidog—diolch am yr eglurhad. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y Senedd yn deall y manylion. Gwn y bydd hynny wedi'i gynnwys yn y gyllideb atodol, ac edrychwn ymlaen at drafod hynny’n gynharach. Mae costau cyfle bob amser pan fydd yn rhaid addasu pethau fel hynny. Felly, mae'n bwysig ein bod yn deall goblygiadau'r penderfyniadau hynny. Ond Weinidog, yn yr un modd o ran deall...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn falch fod trafodaethau gyda’n hathrawon ac undebau ein GIG ynghylch cynigion cyflog diwygiedig yn edrych yn addawol ac wedi atal streiciau pellach gan athrawon ac unrhyw staff GIG am y tro. Gadewch inni obeithio y bydd y cynigion yn cael eu derbyn. Ond ers wythnosau, Weinidog, roedd Llywodraeth Cymru wedi honni nad oes...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Parhad Cydwasanaethau (15 Chw 2023)

Peter Fox: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ac ariannu parhad cydwasanaethau? OQ59139

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllideb y DU (14 Chw 2023)

Peter Fox: Mae pwyslais y Canghellor a Phrif Weinidog y DU ar sefydlogrwydd, yr wyf i'n siŵr fydd yn parhau yng nghyllideb y gwanwyn, yn paratoi'r tir er mwyn i'r DU ganolbwyntio ar dwf. Gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf y disgwylir i economi'r DU wella yn gynt na'r disgwyl, ceir cyfle yng Nghymru i ni wneud y cam i fyny i'r economi arloesol twf uchel y mae angen i ni fod, gan adeiladu ar yr asedau sydd...

7. Dadl Plaid Cymru: Datganoli treth incwm ( 8 Chw 2023)

Peter Fox: Rwy'n deall bod yna drafodaeth bwysig i'w chael ynglŷn â sut rydym yn ariannu gwasanaethau yma yng Nghymru ac mai amrywio lefelau trethi yw'r ateb i wleidyddion wrth edrych ar godi refeniw ychwanegol, ond ni ddylem anghofio faint o gyllideb Cymru, tua £4 biliwn, sydd eisoes yn cael ei godi drwy ddulliau treth datganoledig; caiff tua £2.8 biliwn ei godi drwy gyfraddau Cymreig o dreth incwm...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 8 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch. Roedd yn ddefnyddiol clywed hynny. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith achos yr ysgrifennais atoch yn ei gylch yn y gorffennol, sy'n cyffwrdd â fy nghwestiwn gwreiddiol—. Y prif fater a gafodd ei ddwyn i fy sylw oedd nad oes cyfeirio syml ar gael yn gyffredinol i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd sy'n dymuno mynychu addysg ôl-16. Rwy'n siŵr,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg ôl-16 i Bobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 8 Chw 2023)

Peter Fox: 2. What support does the Welsh Government provide to young people with additional learning needs who wish to attend post-16 education, and their families? OQ59089

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: Yr hyn rwy'n ei awgrymu yn y fan yma yw rhywbeth nad yw'n annhebyg i'r hyn y byddem yn ei wneud pe byddem yn arwain cynghorau a gweld ein hysgolion yn cronni balansau enfawr gan beidio â defnyddio'r rheini i'r diben y cawsant eu creu ar ei gyfer, yr adnodd hwnnw i helpu i addysgu ein plant ifanc. Awgrym yn unig yw hwn, pan fo cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol uwchben trothwy,...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: I wneud hynny—. Fe orffennaf y pwynt yma, Mike, os caf i. I wneud hynny, byddai fformiwla yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi addasu'r grant cynnal ardrethi, pryd mae cynghorau'n dal cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio uwchben trothwy penodol. Byddai'r arian sy'n cael ei addasu o'r grant cynnal ardrethi dros y trothwy yn cael ei ailddosbarthu er mwyn creu...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: Dydw i ddim yn myfyrio ar hynny ar hyn o bryd.

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: Fy marn bersonol i yw bod yna lawer o bobl yng Nghymru sy'n gallu fforddio talu am brydau bwyd i'w plant yn iawn. A fyddech chi'n disgwyl prydau am ddim i'ch plant chi? A fyddwn i? Dydw i ddim yn credu. Felly, gadewch i ni fod yn onest, ac fe af yn ôl eto. Felly, faint yw hynny? Ble mae'r gwariant o £6 miliwn ar bolisi etholiadol, ble mae'r £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol a £8 miliwn...

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: Iawn, fe wnaf i.

4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24 ( 7 Chw 2023)

Peter Fox: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n cydnabod y cefndir ariannol anodd y mae'r gyllideb eleni wedi'i drafftio ynddo. Er hynny, mae rhai arwyddion cadarnhaol y bydd y lefelau uchel presennol o chwyddiant nawr yn dechrau gostwng yn ystod eleni. Diolch i'r camau pendant a gymerwyd gan Brif Weinidog y DU...

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (31 Ion 2023)

Peter Fox: Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Gwn fod y Senedd wedi trafod rhinweddau cytundeb masnach rydd Awstralia a Seland Newydd ar sawl achlysur. Ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud â Bil sy'n sicrhau bod mesurau perthnasol yn cael eu cyflwyno fel bod modd gweithredu'r cytundeb masnach. Fel yr wyf i'n...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.