James Evans: Rhan o ddatblygu gwledig hefyd, Weinidog, yw'r cynllun Glastir, ac yn ddiweddar fe gyfarfûm ag NFU Cymru yn fy etholaeth a dirprwy gadeirydd NFU Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Rob Blaenbwch, a oedd am imi ofyn cwestiwn i chi'n uniongyrchol am gyllid Glastir. Rydym yn gweld yr arian Glastir yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn, gyda chontractau'n cael eu hadnewyddu. Yr hyn yr hoffai fy NFU...
James Evans: Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y personél o fewn awdurdodau lleol sy'n cael eu talu o dan reolau gwaith oddi ar y gyflogres IR35?
James Evans: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwneud arbedion o dros £1.7 miliwn mewn costau addysg. Mae cynigion gan y cyngor ar gyfer ysgolion yn cynnwys diffodd gliniaduron a rhoi'r gorau i lungopïo. Nid wyf yn siŵr faint o'r £1.7 miliwn a fydd yn cael ei arbed drwy roi'r gorau i lungopïo mewn ysgolion, ond mae hyn yn swnio fel ffordd anaddas o drin ein hathrawon...
James Evans: 7. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fesurau posibl i arbed costau ar gyfer ysgolion? OQ59092
James Evans: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad gan y comisiwn, neu'r hyn rwy'n hoff o'i alw'n gomisiwn annibynnol ar gyfer cydymdeimlwyr annibyniaeth, a barnu yn ôl pwy yw'r comisiynwyr. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen dogfen mor rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU ac yn erbyn undeb y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu, Gweinidog, bod pob un ohonom yn cytuno ac...
James Evans: Diolch yn fawr iawn am hynna, Dirprwy Weinidog. Ar ôl cyfarfod ag elusennau, mae llawer ohonyn nhw wedi sôn wrthyf i nad yw data ar gael yn rheolaidd, ac mai un ffordd y gallem ni gryfhau'r maes hwn yw drwy edrych unwaith eto ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 i wneud yn siŵr y ceir rhagor o dargedau y gall y Llywodraeth weithredu arnyn nhw mewn gwirionedd ac y gellir eu hadrodd nhw'n ôl...
James Evans: Diolch i chi, Dirprwy Weinidog. Mae gallu cael gafael ar yr wybodaeth yn bwysig, fel rydych chi newydd ei amlygu, i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu, ac mae hynny'n taflu goleuni ar berfformiad Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd hefyd. Er enghraifft, mae gwybodaeth a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd yn unig yn dangos bod 7,258 o blant yn aros i gael diagnosis...
James Evans: Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod sicrhau bod data iechyd meddwl ynglŷn â phob cyflwr iechyd meddwl ar gael i'r cyhoedd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru?
James Evans: Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich ateb. Gallwn fod wedi cyfeirio'r cwestiwn hwn at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach hefyd. Mae'r adroddiadau diweddar sy'n datblygu am Undeb Rygbi Cymru yn frawychus iawn. Cawsom wybod fod yna ddiwylliant gwenwynig o rywiaeth wrth galon y sefydliad. Clywsom honiadau fod gweithiwr gwrywaidd wedi gwneud sylw o flaen uwch-aelod o staff am...
James Evans: 2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC? TQ714
James Evans: Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd. Mae'r sector hydrogen yn hynod bwysig i fy etholaeth i, fel mae Janet wedi sôn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, symudodd cwmni o'r enw Riversimple i Landrindod i adeiladu prototeip o gar hydrogen yno ar y safle, o'r enw Rasa, yn addas iawn. Fe wnaeth hyd yn oed Ei Fawrhydi y Brenin fynd am dro mewn car hydrogen, ac...
James Evans: Hoffwn ddiolch am eich ateb, Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ddulliau yma i atal y streiciau, ac mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn, er enghraifft drwy beidio â thorri’r gyllideb addysg mewn termau real, a’i chodi yn unol â chwyddiant. O dan Lafur Cymru, mae plant Cymru yn cael eu gadael ar ôl. Nid yn unig eu bod wedi colli mwy o...
James Evans: Diolch, Lywydd. Nid oeddwn yn meddwl bod gennyf gwestiwn heddiw. [Chwerthin.]
James Evans: Na, mae hynny'n iawn. Rwyf wedi cael fy ngalw unwaith yn barod. Rwy'n meddwl am bobl eraill.
James Evans: Weinidog, rwy'n rhannu pryderon fy nghyd-Aelod Cefin Campbell ynglŷn â hyn, a'r costau cynyddol am gael gwared ar ddip defaid yn amlwg. Rwy'n cydnabod eich sylwadau am gael gwared ar ddip defaid mewn ffordd ddiogel ac ecogyfeillgar. Mae eich polisi ar gyfer dileu'r clafr yn cynnwys dipio defaid fel ffordd o ddileu'r clafr. Mae wedi profi mai dyma'r ffordd orau o gael gwared ar y clefyd. A...
James Evans: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd gydag undebau llafur yr athrawon yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau ysgolion? TQ711
James Evans: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad am gael gwared yn eithaf huawdl ar 99.9 y cant o fy araith, felly diolch am hynny. Bydd fy nghyfraniad i, Llywydd, yn un hynod o fyr, achos dydw i ddim yn credu bod angen i ni fynd trwy popeth eto. Nawr, fe wnes i gymryd rhan yn y gwaith o graffu ar y Bil hwn, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cwnsler Cyffredinol am ei...
James Evans: Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol, fawr hirdymor gyda'r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion cynaliadwy yn rhywbeth sy'n bwysig i blant ysgol ledled Cymru, ac yn bwysig iawn i fy mhlaid i. Mae cael amgylcheddau dysgu cynaliadwy yn un o'r pethau pwysicaf a all helpu plant i ddysgu a chyflawni eu nodau, ac rydym yn croesawu'r arian...
James Evans: Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Russell George am agor y ddadl hon a’i ymdrechion yn yr ymgyrch i dynnu sylw at y mater ar lwyfan cenedlaethol. Mae’r ambiwlans awyr yn hanfodol i bobl canolbarth Cymru, ac mae’n rhaff achub i’r bobl sy’n byw yno. Fel ardal wledig, nid oes gennym lawer o’r pethau y mae pobl mewn rhannau mwy poblog o Gymru yn eu cymryd yn ganiataol. Wyddoch chi,...
James Evans: Diolch, Weinidog. Weinidog, fe ddywedoch chi y bore yma yn y pwyllgor addysg fod arian ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg newydd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Mae gweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â sefydlu darpariaeth gynradd Gymraeg yn Nolau. Weinidog, penderfyniadau cul fel hyn,...