I want to write to Gareth Davies
Gareth Davies: —cyfrifiad 2021 yn dangos gostyngiad mewn niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n onest am yr achosion a'r datrysiadau i hyn. Llywodraeth y Ceidwadwyr, o dan reolaeth Margaret Thatcher, wnaeth greu S4C yn 1982, i ddod â'r iaith Gymraeg i gartrefi Cymru yn ogystal â gwneud yr iaith Gymraeg yn gyfartal i Saesneg. Dydy 25 mlynedd o reolaeth Llafur a Phlaid heb ddod â'r...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma, a lle dwi'n gallu siarad Cymraeg pan dwi'n rhoi fy meddwl iddo, dwi ddim fel arfer yn siarad cymaint o Gymraeg ag y dylwn i. Dwi'n meddwl yn Saesneg, felly rhaid meddwl dwbl, os ydw i'n clywed rhywun neu'n siarad Cymraeg. Fel mae pawb wedi clywed drwy’r ddadl hon, mae’r Gymraeg wrth galon ein...
Gareth Davies: Rwy’n falch fod y pwnc hwn wedi’i godi heddiw, a lle mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd a’r Llywodraeth yn credu bod gennym brinder safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, credaf fod gennym ormod ohonynt, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu oddi yma, ym Mae Caerdydd, fod angen i bob awdurdod lleol gael o leiaf un safle Sipsiwn a Theithwyr i fodloni eu hagenda woke, ond...
Gareth Davies: Diolch am eich datganiad, y prynhawn yma, Gweinidog, ac, yn wir, am wahodd Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ddoe i gael eich briff. Rwy'n mynd i fod yn glir gyda chi, Gweinidog, mewn gwirionedd. Mae pobl Dyffryn Clwyd wedi cael digon, ac nid yw'n ddoniol—gallaf i weld eich bod chi'n gwenu yno—oherwydd mae'n nhw wedi cael...
Gareth Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar yn y White House yn Rhuallt, ynglŷn â chynnydd o ran y gwaith o ailadeiladu pont Llannerch yr oedd mawr ei angen, yn dilyn ei herydiad drwy achosion naturiol yn sgil storm Christoph, yn ôl yn 2021. Cafodd trigolion lleol, cynghorwyr, arweinwyr cyngor, a phenaethiaid adrannol o'r awdurdod yn sir Ddinbych...
Gareth Davies: 2. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â chynlluniau i ailosod pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion? OQ59153
Gareth Davies: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. A minnau'n dod o gefndir adsefydlu ym maes ffisiotherapi yn y GIG, mae’n braf gweld y gwaith sy’n mynd rhagddo i wella sgiliau symud o gwmpas, byw’n annibynnol a symudedd plant, er mwyn gwella bywydau pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg. Credaf y dylid dathlu hynny. Rwyf hefyd yn falch o weld cefnogaeth Cŵn Tywys Cymru i'r...
Gareth Davies: Prynhawn da, Gweinidog, a Dydd Sant Ffolant hapus. [Chwerthin.] Roedd yn rhaid i mi gael yr un yna i mewn. Mae pobl ifanc ymhlith y grwpiau y mae pwysau costau byw fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru fel pe bai'n gwrthsefyll syniad Plaid Cymru y gallwch chi drethu eich ffordd allan o argyfwng, pan mai pobl ifanc fydd yn wynebu'r beichiau mwyaf drwy eu...
Gareth Davies: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n mynd i gadw fy nghyfraniad yn weddol fyr ac i'r pwynt heddiw. A diolch i Blaid Cymru am gyflwyno trafodaeth mor bwysig, gan ei bod yn dangos eto fod yr hyn a elwir yn Blaid Cymru yn fwy allan o gysylltiad nag y bu erioed ag anghenion pobl Cymru. Yr wythnos diwethaf, Lywydd, roeddent yn hapus i glochdar eu polisi arddangosol o...
Gareth Davies: Diolch am ildio, Joyce, ac mae’n araith ddiddorol. A allwch chi gadarnhau eich bod yn dweud nad ydych am fuddsoddi na chreu swyddi yn eich rhanbarth eich hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Gareth Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, er fy mod yn teimlo ychydig fel DJ ar y radio ar raglen brecwast cynnar nawr, gan ein bod ni ar y shifft hwyr. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fel arfer rwy'n mynd ychydig bach yn siomedig hefyd, achos mae gen i'r llun yma bob amser yn fy meddwl ein bod ni'n mynd i fod yn eistedd yma fel Charles Babbage gyda chyfrifianellau, gan fynd...
Gareth Davies: Rwy'n cael trafferth deall eich syniadaeth chi ynghylch hyn, mewn gwirionedd, oherwydd yr wythnos diwethaf gwelais yn y wasg fod Plaid Cymru eisiau codi trethi ledled Cymru. Sut bydd hynny'n helpu'r bobl sy'n derbyn y cyflogau isaf yn y wlad?
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Trefnydd, ac rwy'n falch o weld y newyddion diweddaraf mai'r uchelgais yw agor Adeilad Marchnad y Frenhines, yn wir, yr haf hwn, fel y gwnaethoch chi sôn. Ac yn wir, mae gweld codi'r ffrâm ddur ar y promenâd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi achosi llawer o bleser imi. Fodd bynnag, mae llawer o unedau i'w llenwi, ac mae angen i'r agoriad yn ystod yr...
Gareth Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl? OQ59102
Gareth Davies: Diolch i chi am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gallu rhagweld yr hyn yr wyf i am ei ddweud, oherwydd cafodd ei nodi gan y BBC wythnos diwethaf mai dim ond 62 y cant o'r adeiladau sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n cael eu hystyried fel rhai sy'n ddiogel i'w gweithredu. Yn ysbyty Abergele, sy'n rhoi gwasanaeth da i fy etholwyr i, dim ond 15 y cant o'r...
Gareth Davies: Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, Gweinidog, a'r rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am yr union reswm hwnnw, oherwydd bydd HSBC yn Ninbych yn cau yn yr haf fel rhan o 114 o ganghennau yn cau ar draws y DU. Ond yr hyn nad ydw i'n ei gredu yw bod y diwydrwydd dyladwy wedi cael ei ystyried ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig, ac yn arbennig pobl Dinbych, lle na all rhai deithio cyn...
Gareth Davies: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y prynhawn yma ar gyflwr ffyrdd gwledig yn sir Ddinbych? Mae pobl leol yn y sir wedi cysylltu â mi sy'n poeni am y cynnydd yn y tyllau yn y ffordd a'r holltau dwfn sy'n achosi llawer o gur pen i ddefnyddwyr y ffordd a thraffig fferm, a rhai yn cael eu disgrifio fel rhai o'r trydydd byd. Yn y cabinet blaenorol, fe wnaethon...
Gareth Davies: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella darpariaeth bancio gwledig yn sir Ddinbych? OQ59049
Gareth Davies: 5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyflwr ystadau ysbyty ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ59042