Canlyniadau 21–40 o 300 ar gyfer speaker:Carolyn Thomas

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Diolch. Mae effaith newid hinsawdd yn gwbl amlwg, ac mae Cymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â heriau datgarboneiddio cynhyrchiant ynni, gyda pholisïau a chefnogaeth i ynni adnewyddadwy. Mae cynlluniau ar gyfer datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn sicrhau y bydd yr elw a wneir yng Nghymru yn arwain at fwy o fudd i drigolion, gydag elw’n cael ei ailfuddsoddi er...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru' (18 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Diolch. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhaff achub i lawer, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae'n fater cymdeithasol, yn ogystal â chynnal mynediad at waith. Rwy'n gwybod, mewn ardaloedd gwledig, mai'r daith ar y bws yw lle mae teithwyr rheolaidd yn mwynhau sgwrs gymdeithasol gyda'i gilydd a'r gyrrwr, ac rydym wedi clywed yn y pwyllgor...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (18 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynnal a chadw priffyrdd wrth benderfynu'r setliad awdurdod lleol eleni?

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gyfarfod ag undebau llafur y GIG (17 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Siaradais i â nyrsys ar y llinell biced, oherwydd roeddwn i eisiau clywed eu barn nhw hefyd, ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf nad arian yn unig sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â phwysau bywyd-gwaith hefyd. Mae llawer yn gwneud shifftiau 12 awr. Ac mae diffyg hyblygrwydd hefyd, gyda gofal plant ac ati. Fe wnaethon nhw hefyd sôn am gostau asiantaeth, ac mae'n eu poeni nhw os ydyn nhw'n...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, a'r buddsoddiad mewn amddiffyn arfordirol yn y gogledd hefyd, sy'n sylweddol. Mae llifogydd, fel glaw, yn effeithio ar seilwaith ein priffyrdd ni, ein ffyrdd ni, ein pontydd a'n palmentydd ni, ac rydym ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn y gogledd, gyda thirlithriadau yn sir y Fflint, Trecelyn a Phont Llanerch sydd wedi costio miliynau i'w hadfer....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych (17 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Rwyf innau hefyd wedi bod yn cyfarfod ag arweinydd sir Ddinbych a swyddogion a chefais fy synnu nawr gan y gost—oherwydd pwysau chwyddiant, gallai fod yn adeiladu ag arian cyfalaf gwerth £82 miliwn. Rwy'n deall bod cyllid cyfalaf wedi cael ei dorri 11 y cant dros y blynyddoedd nesaf, a bod terfyn benthyca Cymru wedi cael ei gyfyngu gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae angen i ni wneud rhywbeth,...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol' (11 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeirydd a staff y pwyllgor a luniodd yr adroddiad hwn a threfnu ymweliadau ledled Cymru, ac i bawb a gyfrannodd. Gall cyfleusterau cymunedol rymuso cymunedau a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl. Gallant helpu gyda chynaliadwyedd a llesiant. Dylid gwarchod neuaddau cymunedol, tafarndai, caeau chwarae a mannau eraill ar gyfer pobl a natur, llefydd fel...

3. Cwestiynau Amserol: Yr Hawl i Streicio (11 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Diolch. A gaf fi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Unite the Union, a gynt yn aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fel gweithiwr post? Gwnsler Cyffredinol, ddwy flynedd yn ôl, roeddem yn sefyll ar garreg ein drysau'n clapio i'r gweithwyr, a nawr rydym yn gweld beth mae'r Torïaid yn ei feddwl go iawn, drwy gyflwyno Bil i'w diswyddo. Fel y dywedoch chi, caiff y Bil ei adnabod fel Bil...

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth (10 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Hoffwn ganmol popeth rydych chi'n ei wneud a'r flaenoriaeth sy'n cael ei roi i natur a bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae wir yn cynhesu'r galon. Hoffwn siarad am atebion sy'n seiliedig ar natur ynglŷn â llifogydd, arafu dŵr, ac afancod. Felly mae afancod Ewrasia yn frodorol i Gymru, i Brydain, ac wedi bod yn byw yn wyllt yng Nghymru ers 2013. Rwy'n gwybod bod rhywun wedi cyflwyno un yn eithaf...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru — Cynhyrchu radioisotopau meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear (10 Ion 2023)

Carolyn Thomas: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cydnabyddiaeth barhaus o'r gweithlu medrus iawn sydd gennym ni yn y gogledd ac am y buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn y sector iechyd, gan gynnwys yr ysgol feddygol ym Mangor. Bellach gall radioisotopau meddygol gael eu creu gan adweithyddion gronynnau, fel y soniwyd amdano yn gynharach, yn hytrach nag adweithyddion niwclear, fel y...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi Plant (14 Rha 2022)

Carolyn Thomas: Fel llawer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae tlodi'n effeithio ar unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, o'u iechyd a'u datblygiad gwybyddol i ganlyniadau cymdeithasol ac addysgol. Gall canlyniadau hyn aros gydag unigolyn ar hyd ei oes. Dyna pam ei bod mor anfaddeuol fod y rhan fwyaf o deuluoedd agored i niwed wedi gorfod ysgwyddo baich mesurau cyni Torïaidd dros y 12 mlynedd...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (13 Rha 2022)

Carolyn Thomas: Mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei llunio mewn cyfnod sydd gyda'r mwyaf heriol mewn cof diweddar i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n croesawu'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cymorth drwy gydol yr argyfwng costau byw i'r rhai sydd fwyaf anghenus, er gwaethaf bod yn hualau San Steffan yn rhy aml. I fod yn gyson, rydw i'n mynd i wneud apêl am adsefydlu cyllid cydnerthedd priffyrdd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Carolyn Thomas: Ledled Cymru, mae tua 90 o safleoedd cartrefi preswyl mewn parciau, sy'n gartref i dros 3,000 o aelwydydd. Dangosodd gwaith ymchwil a gafodd ei gyflawni ar ran Llywodraeth Cymru yn 2016, bod tystiolaeth o dlodi tanwydd ar y safleoedd hyn. Mae'n siŵr y bydd y sefyllfa hon wedi gwaethygu yn yr argyfwng costau byw presennol. Mae'r mwyafrif o drigolion y cartrefi mewn parciau'n oedrannus ac yn...

12. Dadl Fer: Breuddwydion atomig: Pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio ( 7 Rha 2022)

Carolyn Thomas: Diolch, Mabon, am roi munud o'ch amser i mi ar gyfer y ddadl bwysig hon. Mae gwneud ein systemau ynni'n gynaliadwy yn un o heriau ein cyfnod ni. Fel yr argyfwng hinsawdd, mae'n her sy'n cyrraedd y tu hwnt i'n ffiniau, felly mae'n rhaid i ddod o hyd i ateb fod yn dasg ryngwladol. Mae niwclear yn ddadleuol ac o bosibl yn beryglus, ac mae'n hollti barn. Rhaid inni fod yn onest gyda ni'n hunain...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau ( 6 Rha 2022)

Carolyn Thomas: Rwy'n croesawu bod pwyslais Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, er gwaethaf toriadau ariannol sylweddol mewn termau real gan Lywodraeth y DU. Teitl fy neiseb i i'r Senedd dair blynedd yn ôl oedd, 'Bysiau i bobl nid elw', ac fel y dywedoch chi, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol go iawn, sef sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a dyna'r gwahaniaeth...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru (30 Tach 2022)

Carolyn Thomas: Rwy'n cofio eistedd yn swyddfa'r arweinydd yng Nghyngor Sir y Fflint ym mis Mawrth 2020 yn ystyried sut y gallem anfon pawb i weithio gartref a chadw gwasanaethau rheng flaen i redeg. Roeddem wedi ein syfrdanu ac roedd yn frawychus i'n gweithlu. Ar y dechrau, treuliais amser yn casglu cyfarpar diogelwch personol o unrhyw fath gan grwpiau chwarae, ysgolion, busnesau a gwirfoddolwyr a oedd wedi...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol — 'Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig' (30 Tach 2022)

Carolyn Thomas: Hoffwn innau ddiolch i holl staff y pwyllgor a’r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad. Credaf mai’r neges sy’n sefyll allan yw y dylai chwaraeon fod yn gyfartal, ond mae llawer o rwystrau y mae angen eu goresgyn i gyflawni hynny. Mae amddifadedd yn wrthwynebydd aruthrol ym mhob agwedd ar lywodraethu, ac nid yw chwaraeon yn eithriad. Fel y dywedodd Tom Giffard yn...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Carolyn Thomas: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE' (30 Tach 2022)

Carolyn Thomas: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall, gennyf fi? Rwy'n deall bod cais ariannol ffyniant bro ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU ac mae'n rhaid i'r awdurdod ei roi yn ôl i mewn eto. Ond a ydych chi'n cytuno gyda mi fod swyddogion yr awdurdod lleol wedi dweud ei fod fel mynd yn ôl 10 mlynedd nawr er mwyn symud ymlaen gyda hyn, felly nid yw'n cyflawni llawer...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwariant ar Lety Dros Dro (30 Tach 2022)

Carolyn Thomas: Weinidog, rwy'n ymwybodol fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bolisi ailgartrefu cyflym sydd wedi gweithio'n dda mewn amgylchiadau enbyd, a bod cynghorau hefyd yn cynghori tenantiaid preifat i aros lle maent os ydynt yn cael hysbysiadau troi allan heb fai tra'u bod yn ceisio eu helpu gyda'r cyllid rydych newydd ei grybwyll. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wirioneddol...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.