Buffy Williams: Pa waith y mae'r Gweinidog wedi'i wneud i sicrhau bod cymunedau yn Rhondda yn ddiogel?
Buffy Williams: Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, mae cymorth iechyd meddwl amenedigol a'r bwlch rhwng y rhywiau sy'n dioddef trawiad ar y galon yn eithriadol o bwysig i mi, ond mae angen i ni siarad am y menopos hefyd. Mae'r menopos yn broses naturiol y mae pob menyw yn mynd drwyddi. Fodd bynnag, mae llawer o fenywod yn mynd drwy gyfnod llawn straen, fel a geir ar unrhyw adeg o...
Buffy Williams: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'n wych clywed y bydd 95 y cant o ysgolion Cymru yn cymryd y cam nesaf ar eu taith yn y cwricwlwm. Mae'r byd wedi newid yn sylweddol dros gyfnod byr iawn, a bydd yn parhau i newid. Mae'n iawn ein bod ni'n parhau i drawsnewid addysg er mwyn cadw i fyny â'r newid hwn, mae symud i ffwrdd oddi wrth y pynciau cul a rhoi mwy o ymreolaeth yn newid mae...
Buffy Williams: Gweinidog, mae trigolion y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn wythnosol oherwydd bod eu ceisiadau am fannau parcio i bobl anabl wedi'u gwrthod, nid oherwydd nad ydyn nhw'n gymwys, ond oherwydd, yn Rhondda Cynon Taf, nid oes ond cyllid ar gael ar gyfer 12 man newydd y flwyddyn. Ers 2011, mae perchnogaeth ceir fesul cartref yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu bron 14 y cant, yn ôl Sefydliad yr...
Buffy Williams: Diolch i aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eich adroddiad ac am y cyfle i drafod amseroedd aros ar lawr y Senedd heddiw. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith ddwys ar ein gwasanaeth iechyd, gydag amseroedd aros yn broblem wirioneddol. Croesawaf y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni, gan sicrhau na fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth...
Buffy Williams: Weinidog, mae gwella iechyd a llesiant ac addysg ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru mor bwysig—a hyd yn oed yn fwy pwysig yn awr, yn dilyn y pandemig. Bydd prydau ysgol am ddim yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'r Gweinidog addysg am eu holl waith caled ers yr adolygiad i sicrhau y bydd hwn yn dod yn normal newydd ar draws ysgolion yng Nghymru....
Buffy Williams: Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn annerbyniol, ac mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni ein chwe nod allweddol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Roeddwn yn arswydo o weld nifer yr achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Rhondda o'i gymharu â gweddill y wlad....
Buffy Williams: Diolch, Llywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw. Mae lleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ni chwarae a chwrdd â'u ffrindiau mor bwysig. Mae clybiau a grwpiau ar hyd a lled Cymru sy'n darparu'r lleoedd hyn, rhai fel y Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc, sy'n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol, ac eraill yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, fel Minis...
Buffy Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, cyn imi gael fy ethol i'r Senedd, bûm yn gweithio ym myd addysg am nifer o flynyddoedd. Mae'n un o'r swyddi mwyaf heriol i mi ei chael, ac rwy'n tynnu fy het i fy holl ffrindiau a'u cydweithwyr ym myd addysg sy'n gweithio i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, o ddydd i ddydd. Wrth ymweld ag ysgolion yn y...
Buffy Williams: Diolch, Lywydd. Genedigaeth plentyn yw un o'r profiadau mwyaf dwys ac emosiynol ym mywyd menyw, ond weithiau gall y genedigaethau sydd wedi'u cynllunio orau droi'n gyflym i fod yn ddigwyddiad heb fawr o lawenydd a hapusrwydd, yn anffodus. Mae cymorth i famau, eu partneriaid geni a'u teuluoedd drwy gydol y cyfnod amenedigol yn gwbl hanfodol am y rheswm hwn. Yn ogystal â'r uned gobaith...
Buffy Williams: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Ar ôl gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a Fast Track Caerdydd a'r Fro, rwy'n gwybod bod y datganiad heddiw'n newyddion da i'r holl elusennau a sefydliadau sydd wedi dod at ei gilydd i helpu i greu'r cynllun gweithredu HIV. Mae mynediad at ddata o ran HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru yn anodd iawn ac mae...
Buffy Williams: Rydym yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith ddwys ar ein gwasanaeth iechyd, gydag amseroedd aros yn broblem wirioneddol. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a gafodd ei wneud gan y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni yn sicrhau na fydd neb, erbyn 2025, yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth mewn mwy o arbenigeddau, ond mae angen i ni weld mwy o weithredu brys ar amseroedd aros canser. Cysylltodd...
Buffy Williams: Diolch, Weinidog. Gan gymryd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd a fodelwyd yn 2021 a'u diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd ar 1 Ebrill 2022, gallai hyd at 45 y cant neu 640,000 o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni, ac mae cynnydd mewn prisiau ynni'n debygol o gael effaith anghymesur ar aelwydydd incwm is. Roeddwn yn gweithio yn y trydydd sector cyn...
Buffy Williams: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn etholaeth Rhondda? OQ58137
Buffy Williams: Diolch i Helen Reeves-Graham am greu'r ddeiseb hynod bwysig hon. Fel y dywedodd Jack, gwyddom fod syndrom Tourette yn effeithio ar un o bob 100 o blant, felly nid yw gweld dros 10,000 o lofnodion o blaid darparu llwybr clinigol, gofal meddygol ac arbenigwyr i bobl â syndrom Tourette yng Nghymru yn syndod. Dywed Coleg Brenhinol y Seiciatryddion y bydd hyd at 85 y cant o bobl â syndrom...
Buffy Williams: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag ysgolion yn Rhondda ynghylch iechyd a lles dysgwyr ifanc?
Buffy Williams: Mae aelwydydd yng Nghymru yn wynebu'r gostyngiad mwyaf i incwm gwario mewn bron i 50 mlynedd, a'r aelwydydd tlotaf sy'n cael eu taro galetaf, gan wario dros chwarter eu hincwm ar ynni a bwyd. O gofio mai argyfwng costau byw y Torïaid yw hwn, mae'r atebion a'r sylwadau yr ydym ni wedi eu clywed gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan yn jôc. Dywedwyd wrthym ni am gael gwell swyddi, dywedwyd...
Buffy Williams: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar drigolion yn Rhondda?
Buffy Williams: Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Amenedigol. Gall problemau iechyd meddwl amenedigol heb eu trin gael effaith ddinistriol ar fenywod, eu teuluoedd a'u plant, ac mae'n parhau i fod yn brif achos marwolaeth ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth. Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar un o bob pump o famau ac un o bob 10 tad, ac yn...
Buffy Williams: 5. Pa ganran o gysylltiadau gorfodol ag ymwelwyr iechyd drwy raglen Plant Iach Cymru a gynhaliwyd yn y cnawd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OQ58025