Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cymorth iechyd meddwl digonol ar gael i bobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Ydy.
Peredur Owen Griffiths: Ydy.
Peredur Owen Griffiths: Llywydd, gawn ni symud ymlaen i'r pleidleisiau olaf heno? Diolch.
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Ac i gloi fy nghyfraniad olaf yn nadl olaf hon trafodion Cyfnod 3, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda'r broses graffu: clercod y Senedd, cyfreithwyr, a thîm Plaid, a hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r ffordd y mae'r Gweinidog a'i swyddogion wedi mynd i'r afael â'r broses graffu, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n teimlo'n well yn fuan. Mae'n...
Peredur Owen Griffiths: Diben gwelliannau 10 ac 11 yw diwygio adran 40, sy'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei chynnwys yn eu cofrestr gontractau. Effaith y gwelliannau hyn, eto, fel y soniais eisoes o ran y rhai a gyflwynwyd ynghylch adran 27, yw diogelu adran 40 at y dyfodol drwy ychwanegu grym gwneud rheoliadau tebyg a fydd yn galluogi Gweinidogion i ddiwygio'r rhestr o ofynion pe bai...
Peredur Owen Griffiths: Ydy, plîs.
Peredur Owen Griffiths: Plis.
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am gefnogi'r gwelliannau hyn, a fydd ond yn cryfhau canlyniadau cadarnhaol y Bil hwn ac yn anfon neges eglur am ei fwriad. Rwy'n arbennig o hapus bod y Llywodraeth wedi gweithredu ar fater y Gymraeg. Roedd ei safbwynt blaenorol yn anghyson â'i pholisi tuag at yr iaith a'i nod o greu amodau ar gyfer miliynau o siaradwyr erbyn 2050—miliwn o siaradwyr; byddai...
Peredur Owen Griffiths: Doedd dim cyfeiriad at y Gymraeg ar wyneb y Bil, fel y’i cyflwynwyd. Soniais yn ystod y cyfnod pwyllgor y ddeddfwriaeth yma am ba mor bwysig ydy hi i’r Gymraeg gael ei gwreiddio wrth galon y fframwaith caffael cyhoeddus yng Nghymru, fel un o’r amcanion cymdeithasol a pholisi cyhoeddus allweddol yr ydym yn disgwyl i’r maes yma gyfrannu tuag ato. Mae eisoes yn bolisi Llywodraeth yn sgil...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Rydym ni o'r farn bod yr adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol yn fecanwaith allweddol i sicrhau bod y Bil yn cael yr effaith a ddymunir i wella caffael cyhoeddus, ar lefel corff cyhoeddus unigol, a hefyd ar lefel genedlaethol strategol, wrth i'r wybodaeth yr adroddir arni yn yr adroddiadau hyn gael ei chasglu a'i dadansoddi gan Weinidogion Cymru, yn unol â'u...
Peredur Owen Griffiths: Plîs.
Peredur Owen Griffiths: Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Peredur Owen Griffiths: Mae'r gwelliannau hyn yn ychwanegiad cadarnhaol at y Bil hwn, ac rwy'n cynnig ein bod yn symud yn syth i'r bleidlais.
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Diben gwelliant 5 yw diwygio adran 27, sy'n ymdrin â'r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn contractau ar gyfer contractau adeiladu mawr. Bwriad y categorïau a'r gwelliannau a geisir drwy'r adran hon o'r ddeddfwriaeth yw cyflawni gwelliannau i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol o ganlyniad i weithgareddau caffael...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Os caf i droi at Jenny yn gyntaf ar ddatblygiad y canllawiau statudol ac edrych ar fwyd o ffynonellau lleol, mae'n rhywbeth y gellir gweithio drwyddo. Nid wyf i'n deall yn iawn y ddadl yr oedd Jenny yn ei gwneud, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda chyflenwyr lleol ac awdurdodau lleol i weithio drwy'r pethau hynny ac i weithio yn unol â'r canllawiau statudol...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Fel yr wyf i wedi ei nodi drwy bob cam o hynt y Bil hwn drwy'r Senedd, hoffwn bwysleisio unwaith eto bwysigrwydd gwneud y ddeddfwriaeth hon mor gryf â phosibl o ran caffael cyhoeddus yng Nghymru. Am fwy na degawd, mae Plaid Cymru wedi galw am dargedau uchelgeisiol ond realistig, mesurau meintiol, a nodau eglur i gynyddu'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru trwy...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich sylwadau. Hoffwn ddiolch i nifer fawr o sefydliadau ac elusennau trydydd sector sydd wedi cynnig barn ac awgrymiadau am y maes hwn o'r Bil a'r pryder gwirioneddol efallai na chafodd eu lleisiau eu clywed. Diolch i'r Llywodraeth am eu parodrwydd i gefnogi'r gwelliant hwn, sy'n ymwneud â sicrhau bod y lleisiau cywir yn cael eu clywed yn ôl yr arbenigedd sydd...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Pwrpas y gwelliant hwn yw diwygio adran 9 o'r Bil, sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer yr is-grŵp caffael cyhoeddus. Bydd hyn yn ychwanegu gofyniad i Weinidogion Cymru lunio canllawiau y mae'n rhaid i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol roi sylw iddyn nhw wrth benodi aelodau i'w is-grŵp caffael cyhoeddus. Yn benodol, rhaid i'r canllawiau hynny gynnwys gofynion ynghylch...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y sicrwydd hynny. Roedd rhywfaint o bryder mewn rhai rhannau y byddai rhai grwpiau a gweithwyr yn cael eu difreinio o'r elfen hon o'r Bil. Ar ôl clywed y sicrwydd hynny ar y cofnod heddiw, rwy'n fodlon na fydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r rhan hon o'r Bil yn cael eu gwireddu. Ar ôl dweud hynny, rwy'n ddiolchgar am yr ymgymeriad y gellid...