Canlyniadau 381–400 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru (17 Med 2019)

Mark Reckless: Yn flaenorol rwyf wedi nodweddu rhai o gyfraniadau'r Gweinidog cyllid fel cwynion hirfaith am gyni ac weithiau Brexit. Pan wrandawais i ar ddatganiad y Canghellor a chlywed nid yn unig y datganiad bod cyni ar ben, ond bod cynnydd sylweddol mewn gwariant, a chan ddechrau ystyried beth y byddai hynny'n ei olygu o ran pa arian ychwanegol a ddaw i Gymru, meddyliais 'Beth ar y ddaear fydd gan...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol"): Achos yr Uchel Lys mewn perthynas ag Addoediad (17 Med 2019)

Mark Reckless: Onid yw'n rhan bwysig o reolaeth y gyfraith y dylai Prif Weinidog Cymru dderbyn penderfyniadau llysoedd o fewn ein hawdurdodaeth? Ac, yn dilyn penderfyniad y llys adrannol yn Llundain, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, bod y penderfyniad i addoedi yn gyfreithlon, a yw'n briodol i'r Prif Weinidog ddisgrifio'r penderfyniad fel un anghyfreithlon?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Med 2019)

Mark Reckless: Felly, rydych chi'n glynu wrth eich penderfyniad. Rydych chi newydd ddweud nawr ei fod yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ond ni ddywedasoch chi ddim am hynny yn eich hysbysiad am y penderfyniad, wnaethoch chi? [Torri ar draws.] Roedd yr hysbysiad am y penderfyniad yn sôn am yr amgylchedd a gwastatir Gwent; nid oedd yn sôn am y newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.]

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Med 2019)

Mark Reckless: Rwyf i wedi cefnogi Brexit erioed. Nid wyf i erioed wedi dweud celwydd am hynny. Nawr, defnyddiwyd y gair hwnnw gennych chi—o leiaf dyna'r hyn yr wyf i'n eich cofio chi'n ei ddefnyddio, neu ystyr yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ac eto dywedodd eich plaid, a bron pawb y tu ôl i chi, y byddech chi'n parchu'r refferendwm. Ac eto, nawr, eich polisi chi yw mynd at yr Undeb Ewropeaidd, os...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Med 2019)

Mark Reckless: Prif Weinidog, 12 diwrnod yn ôl, fe wnaethoch benderfyniad bwriadol i honni bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud celwydd. Sut byddech chi'n disgrifio'r datganiad: Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4?

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol"): Achos yr Uchel Lys mewn perthynas ag Addoediad (17 Med 2019)

Mark Reckless: 4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gost i'r trethdalwr yn sgil Llywodraeth Cymru'n ymuno â'r achos aflwyddiannus yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag addoediad? OAQ54307

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Mark Reckless: A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog ystyried a oedd yn wirioneddol briodol iddo alw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gelwyddgi ar lawr y tŷ hwn?

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Mark Reckless: Wel, rwy'n credu ei fod yn dal dŵr fel pwynt cyffredinol. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad yw'r Llywydd yma wedi dod â fy mhlant i mewn i'r peth. Mae ganddi bolisi urddas a pharch hefyd, polisi y mae hi, hyd y gwn i, yn arwain arno drwy esiampl bersonol, ond yn y Senedd, yn Nhŷ’r Cyffredin, gwelwn Lefarydd gyda'r honiadau mwyaf gwaradwyddus a difrifol o'r ffynonellau agosaf posibl o...

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Mark Reckless: Wel, mae areithiau'r Prif Weinidog bob amser yn ddiddorol ac yn ennyn sylw pawb; rwy'n siŵr nad yw angen unrhyw wersi areithio gan ei ragflaenydd. Ond rydym yn gweld y Blaid Lafur a Phlaid Cymru—. Ac nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd; rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y maent wedi cytuno ar gynnig ar y cyd gyda Phlaid Cymru ac yna mae Plaid Cymru wedi ceisio ymosod ar y cynnig hwnnw...

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

Mark Reckless: Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn enw Caroline Jones. A gaf fi ddechrau drwy fynegi peth cydymdeimlad â'r BBC wrth iddynt ymdrechu i esbonio i'w gwrandawyr a'u gwylwyr beth yw diben ein had-alw heddiw? Dywedant na chaiff y ddadl unrhyw effaith ar broses Brexit, ond y gallai roi syniad o farn ACau. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn dweud, 'Byddwn yn gwrthsefyll hyn â'n holl nerth', ond wrth gwrs,...

11. Dadl Fer: Datganoli Treth (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Buom yn siarad ddoe am y ffigurau cyflogau sydd wedi dod allan ar lefel y DU—tua 3.6 y cant o dwf, sy'n uwch na'r disgwyl. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle'n sôn am gyflogau'r sector cyhoeddus, ond a yw hefyd yn cydnabod bod y cyflogau uwch hynny'n debygol o arwain at fwy o dderbyniadau o'r cyfraddau treth incwm Cymreig? Yn y gyllideb atodol, cawsom chwe mis yn rhagor o wybodaeth. Cawsom...

11. Dadl Fer: Datganoli Treth (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Ond ers mis Ebrill, rydym wedi wynebu risg yn sgil hyn, a'r pryder a oedd gennyf ynghylch datganoli treth, y cyfraddau Cymreig hyn o dreth incwm, yw eu bod wedi'u datganoli ar ôl addewid y byddai'n destun refferendwm, ac o edrych ar hanes hyn, roeddwn wedi meddwl efallai fod yna rywfaint o gydgynllwynio rhwng y Blaid Lafur yma a'r Ceidwadwyr yn San Steffan, ond nid wyf wedi gweld tystiolaeth...

11. Dadl Fer: Datganoli Treth (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Felly, roeddem yn edrych, rwy'n credu, ar—roedd pedair ohonynt. Mae gennyf dair ohonynt. Y dreth ar blastigion—rwy'n credu efallai ein bod yn edrych ar, os yw hynny'n mynd i ddigwydd, byddai'n fwy ar sail y DU, ac rwy'n credu y byddai'n arbennig o anodd i weithgynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi ei wneud ar gyfer Cymru'n unig. Roedd y dreth dwristiaeth yn amhoblogaidd iawn, rwy'n credu, ac...

11. Dadl Fer: Datganoli Treth (17 Gor 2019)

Mark Reckless: A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? Rwy'n siarad am ddatganoli trethi i Gymru. Nid wyf yn siŵr a ydw i wedi tynnu'r gwelltyn byr i gael y ddadl fer olaf yn y tymor, neu a yw'r Gweinidog wedi'i dynnu i ymateb i mi, neu efallai mai chi a wnaeth, Ddirprwy Lywydd, drwy orfod ein cadeirio, ond rydych wedi hen arfer â hynny, felly diolch i chi. Pan feddyliwn am ddatganoli trethi i Gymru,...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Blaenoriaethau Brexit (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Rydych yn mygu'r neges honno, a ddylai fynd allan gan bawb ar draws y Siambr hon, gan bob plaid a grŵp gwleidyddol, ein bod am i'r bobl hynny aros. Mae croeso iddynt yng Nghymru: arhoswch os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.]

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Blaenoriaethau Brexit (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad. Mae'n dda gweld bod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yma bellach hefyd. Roeddwn i'n meddwl bod ei ddatganiad yn un ystyriol iawn mewn gwirionedd, ac yn llai pleidiol a mwy cytbwys na'r cyfraniadau a glywsom hyd yma o'r llawr. Hefyd, roedd yn well na'r hyn a welais yn ei bwyllgor ddydd Llun, rwy’n credu, lle'r oedd y flaenraglen waith...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Cynllun Cymorth i Brynu (17 Gor 2019)

Mark Reckless: Cafwyd datganiad gan Lywodraeth y DU am ddyfodol Cymorth i Brynu yn Lloegr yr hydref diwethaf, a chredaf fod y diffyg sicrwydd yn dod yn fwyfwy anodd i adeiladwyr tai o ran eu cynllunio, pa ffordd bynnag yr aiff y penderfyniad. Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r cynllun hwn, tybed a yw'n disgwyl gwneud elw ar ailwerthu tai yn y pen draw, neu a yw'n bryderus y gallai prynwyr tro cyntaf...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Cynllun Cymorth i Brynu (17 Gor 2019)

Mark Reckless: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru? OAQ54281

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru (16 Gor 2019)

Mark Reckless: Pan oeddwn i'n cynllunio ar gyfer busnes yr wythnos hon, rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi, roeddwn i'n edrych drwy rywfaint o'r hyn y byddem yn ei wneud ac fe welais i'r datganiad hwn, 'Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru', ac roeddwn i'n llawn cyffro. Credais y byddem yn edrych ar rai o'r materion pwysig, hirdymor sy'n effeithio ar wariant...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (16 Gor 2019)

Mark Reckless: Dechreuodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy ddweud: 'Yn y datganiad deddfwriaethol hwn, byddaf yn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Biliau byddwn yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.' Credaf ei fod tua hanner ffordd drwy'r datganiad cyn inni glywed ynghylch hynny. Clywsom o'r blaen am yr hyn a ddigwyddodd neu'r hyn yr oedd eraill yn ei wneud neu pam na...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.