Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen hyfforddiant meddygol C21 gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei darparu ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Cafodd y fenter hon ei chyflwyno i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a bydd hon yn sail i gwricwlwm ysgol feddygol gogledd Cymru.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Jane, a diolch am eich ffocws parhaus ar y mater hwn. Mae'n sicr yn cadw'r pwysau arnaf fi. Rwy'n falch o ddweud y bydd y contract newydd hwn, fel y dywedais, yn arwain at weld 5,000 o bobl ychwanegol nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddeintyddion y GIG ym Mhowys ar hyn o bryd yn cael mynediad, a 13,000 o bobl yn ardal Hywel Dda. Felly, rydym wedi rhoi arian ar y bwrdd, ond fel y...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Russell. Rwy'n derbyn bod problem gyda chapasiti ar hyn o bryd, a dyna pam fy mod yn treulio cryn dipyn o fy amser yn awr yn ceisio mynd i'r afael â'r union fater hwn. Rydym yn gwneud cynnydd cyson gydag adfer gwasanaethau deintyddol. Ac er fy mod yn derbyn nad oedd yn wych cyn y pandemig, mae'r pandemig yn sicr wedi gwneud pethau gryn dipyn yn waeth, ac rydym yn dal i fod ymhell o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, dilyniant o'r cwestiwn diwethaf. Yn sicr, mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio ac asesu darpariaeth ddeintyddol i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ddiwygio'r contract deintyddol i ganolbwyntio ar atal a thriniaeth sy'n seiliedig ar angen er mwyn creu mwy o fynediad i gleifion GIG newydd.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn nodi bod tua 20,000 o bobl yn cael eu trin gan wasanaethau deintyddol bob wythnos yng Nghymru, ac mae nifer y deintyddion wedi codi yn 2018 a 2019 i dros 1,500. Wrth gwrs, un o'r problemau a gawsom oedd bod cynhyrchiant aerosol mewn practisau deintyddol yn beryglus iawn yn ystod COVID, a dyna lle y gwelsom ostyngiad...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, pan welwn y datblygiadau hyn yn digwydd, rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni ystyried seilwaith ychwanegol, yn cynnwys ysgolion a'r holl bethau eraill sy'n mynd gyda hwy, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r cynnydd yn y boblogaeth yn enwedig yn yr ardal y cyfeiriwch ati, John. A dyna pam fy mod wedi cymeradwyo £28 miliwn o gyllid yn ddiweddar, sydd wedi'i gadarnhau, er mwyn datblygu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol wedi newid yn ddramatig ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gwasanaethau wedi gorfod addasu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gofal sylfaenol mewn modd diogel ac effeithiol. Mae technoleg ddigidol wedi helpu i gyflawni'r gwelliannau hyn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn gwrando ar glinigwyr. Ni yw'r bobl sydd wedi gofyn i'r bobl hyn feddwl am syniadau. Y cyfyngiad arnom yw cyfalaf, felly dyna'r broblem sydd gennym. A allwn ni sefydlu'r sefydliadau hyn mewn gwirionedd? Rwy'n credu y bydd angen inni addasu'r hyn sydd gennym, yn hytrach nag adeiladu cyfleusterau newydd, ond ni chewch unrhyw...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, yn bendant, rydych wedi camddeall os credwch ein bod rywsut wedi hepgor orthopedeg o'n strategaeth gofal wedi'i gynllunio. Dyna lle mae gennyf fwyaf o bryderon, oherwydd mae'r rhestrau aros yn faith iawn mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod yn rhoi llawer o sylw iddo ac yn canolbwyntio arno. Ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir, fel y gŵyr yr Aelod, fy mod yn awyddus iawn i weld hybiau...
Baroness Mair Eluned Morgan: 270 o welyau i bob 100,000 yng Nghymru o'i gymharu â 170 o welyau i bob 100,000 yn Lloegr. Felly, os cymharwch ein ffigurau, o ran gwelyau yma yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, rydym yn gwneud yn llawer gwell nag y maent hwy'n ei wneud.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, a diolch hefyd i'r pwyllgor am yr argymhellion. Mi fyddaf i'n cymryd amser i fynd drwy'r rheini, ond dwi'n siŵr y bydd yna lot o syniadau. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷn ni wedi bod yn ei anwybyddu, mae'n rhywbeth rŷn ni wedi bod yn talu lot o sylw iddo. Ond fel y mae'r pwyllgor nawr yn deall, mae'n system sy'n gymhleth tu hwnt, lle mae'n rhaid ichi anelu at wneud gwelliant ar...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n cytuno bod angen inni roi llawer mwy o amser ac ymdrech i mewn i endometriosis yn y GIG yng Nghymru, a dyna pam fy mod yn falch iawn fod hyn wedi bod yn ffocws i'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, lle rydym wedi cyflwyno £1 filiwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r mater hwn o ddifrif, ynghyd ag un neu ddau o faterion eraill yn ymwneud â menywod. Fe fyddwch yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Credaf mai dyna'r mater allweddol, onid e—pryd y mae'n ddiogel i wneud hynny, a sut y gallwn sicrhau y gallwch gael y gofal cyflymaf a gorau posibl cyn gynted â phosibl. Penderfyniad i Hywel Dda yw hwnnw, ac wrth gwrs byddwn yn dilyn eu harweiniad clinigol. Yr hyn rwy'n ei wybod, ochr yn ochr â gweddill y pwysau a welwn ar draws ein holl adrannau damweiniau ac achosion brys, yw mai'r peth...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Darparu gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion yw ein blaenoriaeth ni ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys pobl Preseli sir Benfro. Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf i ddarparu gofal o safon, sef y math o ofal mae pobl yn ei haeddu.
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy’n disgwyl i bob claf gael ei weld yn ôl trefn blaenoriaeth glinigol yn unol ag asesiad y clinigydd perthnasol, a hynny ar sail canllawiau’r coleg brenhinol. Rwy’n disgwyl i’r cleifion sydd â’r anghenion mwyaf brys gael eu gweld yn gyntaf.
Baroness Mair Eluned Morgan: Ambulance resourcing is an operational matter for the Welsh Ambulance Services NHS Trust, in collaboration with health boards and the Emergency Ambulance Services Committee, as commissioners of ambulance services in Wales. The national roster review factored in the particular characteristics of rural communities to ensure they are not disadvantaged.
Baroness Mair Eluned Morgan: As well as routine gynaecological services, patients with endometriosis in Hywel Dda University Health Board are receiving care and support from a dedicated clinical nurse specialist in endometriosis and pelvic pain.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch, Altaf. Yn sicr, rydym yn ymwybodol bod y cyfle hwnnw i wneud profion ar-lein a sicrhau eu bod nhw'n cael eu danfon i'ch cartrefi—rwy'n credu bod hynny yn agor cyfle newydd. O ran y profion 15 munud, yn amlwg, os bydd pobl yn dod yn ôl atom ynghylch hynny yn yr ymgynghoriad, yna mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried. Rydych chi'n awgrymu y gall profion HIV fod yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Buffy. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, y pwynt yr ydych yn ei wneud, oherwydd rydym ni'n gwybod bod HIV yn effeithio ar ddynion, menywod, pobl draws, pob math o bobl, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod hynny a'n bod, unwaith eto, yn dweud hynny'n glir. Dyna pam yr ydym wedi sicrhau bod y cynllun hwn yn gynhwysol iawn ac nad oes neb yn cael ei...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn sicr, o ran Cenedl Llwybr Carlam, dwi'n meddwl bod yna fodelau gwych yma yng Nghymru eisoes. Yn sicr, mae'r model sydd yma yng Nghaerdydd a'r Fro wedi bod yn un allweddol, a dwi yn gobeithio y gwelwn ni'r modelau yna'n cael eu gweld ledled Cymru yn y pen draw. Wrth gwrs, mae'n gwneud synnwyr i ni efallai dargedu rhai ardaloedd yn gyflymach nag eraill, ond beth dwi'n gobeithio o ran...