Alun Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad a dadl gyffredinol, os caf i, os gwelwch chi'n dda? Mae'r datganiad cyntaf yn dilyn y cwestiwn blaenorol, mewn gwirionedd. O ran ein profiad o Brexit hyd yn hyn, ni waeth ble'r oeddech chi'n sefyll ar y cwestiwn ei hun, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei fod wedi bod yn drychineb yn ystod y ddau fis diwethaf. Nid yn unig yr ydym wedi gweld yr effaith ar y...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Byddwch wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan, a gyhoeddwyd yn yr hydref, a oedd yn adroddiad dinistriol ac yn gondemniad dinistriol o Lywodraeth y DU gan bwyllgor a oedd yn cael ei reoli'n bennaf gan Aelodau Ceidwadol. Cafwyd dwy feirniadaeth ganddynt o Lywodraeth y DU. Yn gyntaf oll, roedd y diffyg ymgysylltu a...
Alun Davies: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56275
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfraniad wrth agor y ddadl hon. Mae tri mater yr hoffwn ymdrin â nhw yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma: strwythur ein harian, ac yna incwm a gwariant. Gadewch i ni edrych ar y strwythur yn gyntaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn glir iawn yn ei adroddiad fod y ffordd y mae'r gyllideb wedi'i strwythuro a'r cyd-destun y mae'r gyllideb yn digwydd ynddo eleni yn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog; credaf fod y rhan honno o safbwynt cyffredinol y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y pum mlynedd diwethaf. Ond fe fyddwch wedi gweld yr adroddiadau, y gofynnais i'r Prif Weinidog amdanynt ddoe, sydd wedi dangos yn glir iawn y bydd ardaloedd fel Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn dioddef yn anghymesur o ganlyniad i'r pandemig...
Alun Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth tai i gymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd yn y cyfnod ar ôl COVID-19? OQ56237
Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol?
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud yn dyner iawn wrth y Ceidwadwyr fod angen iddyn nhw ddysgu peidio â gwrthwynebu popeth y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud wrth ymdrin â'r pandemig hwn. Mae'r rhain yn ddyddiau hynod anodd, ac rwyf i yn cydymdeimlo yn fawr â'r Gweinidog wrth wneud y penderfyniadau y mae...
Alun Davies: Fe wnaf hynny. Mae'n ymddangos braidd yn wrthnysig ein bod yn cael y ddadl hon yma. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth sut y mae'n bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn yn y dyfodol. Oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o'r strwythur llywodraethu cyffredinol y gall y Llywodraeth fynd ar drywydd trethiadau amgen.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae dau fater yr wyf am eu codi gyda hi y prynhawn yma. Yn gyntaf oll mae swyddogaeth treth, nid yn unig fel modd o godi refeniw, ond hefyd fel dull polisi i gyflawni a llunio polisi. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth yn cynnwys cynaliadwyedd fel un o'i hegwyddorion allweddol ar gyfer trethiant. Credaf y...
Alun Davies: Codais fater effaith economaidd wahaniaethol y coronafeirws ar gymunedau difreintiedig yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Hoffwn i ofyn am ddadl gan y Llywodraeth ar y mater hwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun nifer o wahanol astudiaethau ac adroddiadau a dadansoddiadau yn ystod y misoedd diwethaf, a bydd yn gosod yr agenda ar gyfer dull gweithredu'r Llywodraeth i'r materion...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Bydd ef wedi gweld yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dangos yn eglur bod cymunedau fel Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn debygol o ddioddef effaith economaidd lawer gwaeth o ganlyniad i'r coronafeirws na llawer o gymunedau eraill. Felly, bydd angen buddsoddiad ychwanegol ar y...
Alun Davies: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56240
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rydym wedi gweld nifer o adroddiadau gwahanol yn cael eu cyhoeddi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a heb dreulio amser yn rhestru pob un ohonynt, mae pob un yn dweud dau beth yn y bôn: yn gyntaf oll, fod dyfnder yr her economaidd sy'n ein hwynebu ar ôl COVID ac ar ôl Brexit yn fwy o lawer nag y byddem, efallai, wedi’i gydnabod beth amser yn...
Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd? OQ56186
Alun Davies: Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma, a hefyd yn cefnogi'r Llywodraeth pan ddaw'r ddeddfwriaeth sylwedd ger ein bron yr wythnos nesaf. Yn un o'r Gweinidogion a gyflwynodd ddeddfwriaeth frys, rwyf wedi ystyried hyn o ddifrif, oherwydd mae'n fecanwaith na ddylid ond ei ddefnyddio pan fydd yr amgylchiadau'n mynnu hynny. Cawsom wybod heddiw ein bod wedi colli mwy o bobl i COVID yn ystod...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd. Sylwaf fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad i reilffordd Cwm Ebwy gynyddu i un â phedwar trên yr awr a byddwn yn ddiolchgar am gael syniad o amserlen hynny. Hoffwn ddeall hefyd beth yw gweledigaeth y dyfodol ar gyfer y rheilffordd, oherwydd pan gafodd ei chreu a phan gafodd ei hadfer a'i hagor, roedd...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad y prynhawn yma, os gwelwch chi'n dda? Yn gyntaf oll ar bysgodfeydd, ac yn ail ar y gronfa ffyniant gyffredin. Gweinidog, nid wyf i'n credu y gallai'r un ohonom fod wedi methu â chael ein cyffwrdd gan yr adroddiadau yr ydym ni'n eu gweld gan y diwydiant pysgota ar hyn o bryd. Nid wyf yn hoffi defnyddio'r iaith hon, ond mae'n...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Llywydd, a diolch am eich atebion ar hyn, Prif Weinidog. Ymwelais â'r ganolfan frechu torfol a agorodd yng Nglynebwy ddydd Iau diwethaf, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn brofiad i ysbrydoli a chodi calon gweld brwdfrydedd y staff nyrsio, gweithwyr y gwasanaeth iechyd, yn gweithio ochr yn ochr â phersonél yr RAF a oedd yno yn rheoli'r broses—roedd yn rhywbeth a oedd...
Alun Davies: A gaf fi ddweud cymaint rwy'n cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i bob un o'r deisebau hyn? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa ddifrifol iawn gyda'r coronafeirws ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod pawb yn ymwybodol na allwn wneud pethau y byddem yn dewis eu gwneud neu beidio â'u gwneud ac ymddwyn yn y ffordd y byddem fel arfer, ac mae hynny'n ddealladwy. Ond wrth i'r Llywodraeth sefydlu...