John Griffiths: Ydw. Siaradodd Hannah Blythyn am ganfyddiadau a pha mor bwysig ydynt, ac mae hynny'n sicr yn wir, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fwrw ymlaen ag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu, ac mae hynny'n ateb i ryw raddau y pwynt a wnaeth Helen Mary am ddyletswydd ddinesig, oherwydd credaf y byddai'n mynd i'r afael â hynny...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl? Mae'n dda gweld, rwy'n credu, fod ymdeimlad eithaf cryf o gonsensws o ran lle rydym ni a lle mae angen i ni fynd. Fel y dywedwyd, mae'r Cynulliad yma mewn gwirionedd yn enghraifft go dda o'r ffordd y gellir gwneud cynnydd ac o'r ffordd y gwnaethpwyd cynnydd. Er hynny, fel y gwyddom, mae gwaith pellach i...
John Griffiths: Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Clywsom dystiolaeth gan y pleidiau gwleidyddol. O ran cwotâu, roedd yna safbwyntiau cymysg, ac yn wir, roedd safbwyntiau cymysg ymhlith aelodau’r pwyllgor hefyd. Ond o ran gweithredu cadarnhaol, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol, yn sicr, yn derbyn yr egwyddor honno, ond wrth gwrs, y mater allweddol yw sut y caiff ei weithredu, a dyna lle...
John Griffiths: Gwnaf. Os caf fi orffen y frawddeg hon, Helen Mary, byddwn yn archwilio'r materion hyn ymhellach fel rhan o'n gwaith craffu ar y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.
John Griffiths: Gwelsom fod y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael am rôl cynghorydd yn rhwystr i ddenu ymgeiswyr posibl. Ni fydd pobl yn ymgeisio os nad ydynt yn deall beth y mae'r swydd yn ei olygu, ac mae diffyg gwybodaeth o'r fath hefyd yn bwydo'r syniad ymhlith rhai pobl nad yw rôl mewn bywyd cyhoeddus yn rhywbeth iddynt hwy. Drwy'r rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor dadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiadau personol naill ai fel...
John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu polisi buddsoddi ariannol Llywodraeth Cymru?
John Griffiths: Llywydd, fel y clywsom o'r blaen pan roeddem ni'n trafod y materion hyn, credaf fod cytundeb eang ar natur ddybryd a brys y problemau ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, er bod gwahanol awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, gyda safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr o ran a ddylai'r ffordd liniaru fod wedi'i hadeiladu ai peidio. Adlewyrchir hynny yn y negeseuon e-bost yr wyf...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae Cymru wedi dioddef cyni cyllidol Llywodraeth y DU ers tua naw mlynedd erbyn hyn, ac mae ei effaith gyfunol ar ein cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yn fwy a mwy niweidiol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ciwiau mewn banciau bwyd a phobl sy'n cysgu ar y stryd mewn pebyll a drysau yn dangos y dioddefaint a achosir. Mae llawer o'm hetholwyr i...
John Griffiths: 1. Beth yw effaith polisi Llywodraeth Cymru o ran lleihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54119
John Griffiths: Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn briodol yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n amlwg bod traffig ar y ffyrdd yn agwedd arwyddocaol iawn ar lygredd aer, ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad eisoes at y problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog yn fawr i fwrw ymlaen ag ymateb integredig i'r problemau hyn o ran trafnidiaeth?...
John Griffiths: Lywydd, er bod safbwyntiau gwahanol ynghylch yr atebion gorau i'r problemau ar goridor y M4 o amgylch Casnewydd, ni chredaf fod unrhyw un yn amau difrifoldeb y problemau hynny a'r angen i weithredu ar frys yn y tymor byr, yn ogystal â chamau gweithredu yn y tymor canolig ac yn hirdymor, i ymdrin â'r problemau hynny. Ac yn amlwg, mae pobl Casnewydd wedi dioddef yn hir yn sgil y llygredd aer,...
John Griffiths: Rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu bod llawer o enghreifftiau da ledled Cymru o ysgolion yn ateb yr her hon, a tybed a fyddech yn ymuno â mi i gydnabod cynnydd ysgolion fel Ysgol Gynradd Ringland yn fy etholaeth i, lle maent wedi cynyddu cerdded, beicio a mynd ar sgwter i'r ysgol 20 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, felly erbyn hyn mae ychydig dan hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol...
John Griffiths: A fyddai'r Aelod yn derbyn ymyriad?
John Griffiths: A fyddech yn cytuno hefyd y byddai terfynau cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd trefol yn gymorth mawr i gyflawni'r math hwnnw o newid?
John Griffiths: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw'n fawr iawn. A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, mae'r materion hyn yn ganolog i'n gwaith, ac, yn wir, yn ein hadroddiad ar hawliau dynol yng Nghymru, yn yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym, gwnaethom lawer o argymhellion y credaf eu bod yn berthnasol i'r datganiad hwn heddiw. Ac, wrth gwrs, yn y ddadl ar y cyd â'r...
John Griffiths: Roeddwn yn falch iawn heddiw o noddi digwyddiad Diwrnod Amgylchedd y Byd yma yn y Senedd, i nodi pwysigrwydd gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol sy'n ein hwynebu, er mwyn adfer natur yng Nghymru. Fel y clywsom, mae natur Cymru mewn cyflwr bregus. Mae hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio, ac mae dyfodol cannoedd o rywogaethau o dan fygythiad. Er mwyn mynd i'r afael â'r...
John Griffiths: Er gwaethaf y darlun brawychus hwn, Ddirprwy Lywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth gyffredinol ar dlodi ar hyn o bryd fel oedd ganddi mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae angen mwy o arweinyddiaeth. Y mesur mwyaf cyffredin o dlodi yw nifer neu gyfran y boblogaeth sy'n byw mewn cartref sydd ag incwm llai na 60 y cant o'r incwm canolrifol, wedi'i addasu ar gyfer maint a math o aelwyd...
John Griffiths: Ddirprwy Lywydd, i bob pwrpas, mae menywod yn wynebu baich dwbl o dlodi a gwahaniaethu, ac mae angen newid hynny a mynd i'r afael ag ef. Mae bwyd yn ganolbwynt i lawer o'r problemau tlodi hyn heddiw. Mae'r ymchwydd yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth bwyd brys yng Nghymru'n dangos y frwydr feunyddiol ofidus sy'n wynebu llawer o bobl ar hyd a lled ein gwlad o ran cael mynediad at hanfodion...
John Griffiths: Rwy'n hapus iawn i ymuno â Leanne Wood i alw am y newid hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn bolisi gwarthus sydd bron yn ceisio gorfodi safbwynt y wladwriaeth ynglŷn â faint o blant y dylai teuluoedd dosbarth gweithiol eu cael. Mae'n wirioneddol frawychus.