Joyce Watson: Diolch. Rwy'n cydnabod bod hyn yn bwysig i chi, ac rydych wedi nodi eich teimladau yn eich datganiad ar gael eich mab bach a’r heriau yn sgil hynny. Maent yn heriau go iawn, fel rydych wedi sylweddoli, ac maent, yn eich geiriau eich hun, wedi gwneud i chi ailystyried eich dyfodol. Ac mae’n flin iawn gennyf eich colli, fel sawl un arall, rwy'n siŵr, o'r sefydliad hwn. Gwyddom na all...
Joyce Watson: Diolch am eich cwestiwn, Bethan. Cefnogir ein diwylliant gweithio hyblyg gan ystod o bolisïau sy'n cynnwys gweithio hyblyg, rhannu swyddi a gweithio gartref, sy'n galluogi staff i reoli eu horiau gwaith eu hunain, cydbwyso gwaith a hefyd ymrwymiadau yn y cartref. Mae gan 40 y cant o staff y Comisiwn gyfrifoldebau gofalu am blant ifanc, ac mae gan 15 y cant o staff gyfrifoldebau gofalu...
Joyce Watson: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru?
Joyce Watson: Diolch, Weinidog, ond cefais fy nychryn wrth weld tro pedol diweddar Llywodraeth y DU ar ganiatáu i rai ffermwyr ddefnyddio plaladdwyr neonicotinoid, plaladdwr hynod niweidiol, ar gnydau betys siwgr. Yn 2018, gwrthododd Llywodraeth y DU gais tebyg i ddefnyddio plaladdwyr neonicotinoid a gwnaethant gefnogi cyfyngiadau ar y plaladdwyr hyn ledled yr Undeb Ewropeaidd, ac ar y pryd, dywedodd...
Joyce Watson: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu niferoedd pryfed yng Nghymru? OQ56219
Joyce Watson: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau’r ôl troed carbon wrth adeiladu tai yng Nghymru?
Joyce Watson: Diolch yn fawr am yr ymrwymiad hwnnw sy'n cael ei ddangos gan y Llywodraeth, ond yr un yw'r ymrwymiad y mae mudiadau'r sector gwirfoddol yn ei roi i'w cymunedau, yn enwedig yn y cyfnod hwn o angen mawr. Yr hyn yr wyf i eisiau ei ofyn i chi heddiw, Dirprwy Weinidog, yw a fyddech chi'n ymrwymo i ddiolch i'r holl unigolion hynny ledled Cymru, y sefydliadau elusennol sydd wedi rhoi o'u hamser yn...
Joyce Watson: 5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn ystod y pandemig? OQ56220
Joyce Watson: Rwy'n llwyr gefnogi'r camau rydych wedi'u cymryd, a gobeithio y bydd pawb yma'n eu cefnogi hefyd. Rydym mewn sefyllfa—ac rwyf am ddefnyddio terminoleg yr adain dde—o arwahanrwydd gogoneddus yn yr ystyr nad oes gan y porthladdoedd yn yr ardaloedd rwy'n eu cynrychioli unrhyw fasnach mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn ogoneddus ynglŷn â bod ar wahân mewn ffordd sy'n...
Joyce Watson: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ56178
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig COVID-19?
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weinyddu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor?
Joyce Watson: Prif Weinidog, diolchaf i chi am yr ateb yna, ac mae'r ffigurau yn sicr, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn syfrdanol, o ran nifer y bobl a fyddai'n dioddef y gostyngiad hwn i'r hyn sydd, fe wyddom, yr incwm sylfaenol iawn y maen nhw ei angen i fodoli. Rwy'n tybio, wrth gwrs, bod Llywodraeth y DU wedi seilio'r newid hwn ar ryw dystiolaeth bod pobl angen £20 ychwanegol yr wythnos dim ond i...
Joyce Watson: 4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen? OQ56123
Joyce Watson: Hoffwn groesawu dull Llywodraeth Cymru o weithredu’r rhaglen dai arloesol honno, sydd eleni wedi canolbwyntio ei chyllid ar ddulliau adeiladu modern. Rydych eisoes wedi dweud y bydd buddsoddiad o £35 miliwn yn mynd i gwmnïau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd mai cwmnïau lleol a'u cadwyni cyflenwi ydyw, ac mae hwnnw'n hwb i'w groesawu yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Ac...
Joyce Watson: Diolch. Yn ystod mis cyntaf y cyfyngiadau symud, cynyddodd nifer y chwiliadau ar-lein am gŵn a chathod bach 120 y cant yn ôl Dogs Trust. Ac mae’r cynnydd hwnnw yng ngwerthiant cŵn a chathod bach, yn ôl adroddiad gan Gartref Cŵn Battersea, wedi arwain at gynnydd o 94 y cant mewn mewnforion cyfreithiol o dramor i ateb y galw. Yn anffodus, yn ôl yr elusen, mae'r cynnydd hwn yn debygol o...
Joyce Watson: Mae golau ar ben draw’r twnnel—twnnel a fu ac sy'n parhau i fod yn dwnnel tywyll iawn—ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych wedi'i ddweud. Ond mae gennyf un cais heddiw, Brif Weinidog. Gofynnaf i chi gyfleu neges i bobl am weithwyr archfarchnadoedd. Mae pob un ohonom wedi gweld y ffaith eu bod wedi cael eu difrïo yn y siopau eleni, yn fwy felly nag unrhyw flwyddyn arall, felly a...
Joyce Watson: Rwy'n codi i siarad, yn amlwg, o blaid y Prif Weinidog. Fy ymateb pennaf i'r cyhoeddiad heddiw yw rhyddhad. Rydym yn edrych ar y niferoedd, ac rydym yn gwrando ar y swyddogion iechyd a staff rheng flaen y GIG, yn fy rhanbarth fy hun yn unig, ac mae'r sefyllfa mewn perygl eithafol o fynd y tu hwnt i reolaeth. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, wrth gwrs; dyna eiriau'r bobl hynny y bu’n rhaid...
Joyce Watson: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y cŵn bach a gaiff eu gwerthu yn ystod pandemig COVID-19? OQ56048
Joyce Watson: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi atebion tai arloesol yng Nghymru? OQ56049