Llyr Gruffydd: Rŷn ni oll, bellach, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r llanast y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i wneud wrth ymdrin â'r diwydiant pysgod cregyn. Does dim angen ailadrodd yr hanes trist yna, ond mae e yn effeithio, wrth gwrs, yn andwyol ar hyfywedd y sector yma yng Nghymru. Cyn Brexit, byddai pysgotwyr pysgod cregyn Cymru yn gallu allforio eu cynnyrch i'r Iseldiroedd, dyweder, er mwyn iddyn...
Llyr Gruffydd: Cyn dechrau'r drafodaeth yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, mi hoffwn i gymryd ennyd fach jest i gofio am y tri pysgotwr o ogledd Cymru sydd yn parhau ar goll heddiw, a'u teuluoedd nhw sydd mewn galar. Fe ddiflannodd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath, ynghyd â'u cwch y Nicola Faith, ym mis Ionawr oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mi hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota môr yng Nghymru, a dwi wedi cytuno rhoi munud o fy amser i Janet Finch-Saunders i gyfrannu i'r ddadl yma hefyd.
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am fynd ar drywydd yr honiad fod Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian i ffermwyr allu ymateb i'r gofynion newydd hyn. Rwy'n credu bod oddeutu £11.5 miliwn yn cael ei ddarparu. Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, byddai hynny'n ddigon i dalu am anghenion Ynys Môn yn unig, heb sôn am weddill Cymru. Mae'r amcangyfrifon senario cost isel gan...
Llyr Gruffydd: Ocê. Maen nhw'n rheoliadau anymarferol, maen nhw'n rheoliadau na ellir eu cyflawni heb greu difrod amgylcheddol na dinistr economaidd i'r ffermydd ar draws Cymru, ac maen nhw'n dod i rym wythnos cyn dyddiad gwreiddiol diddymu y Senedd yma. Mae etholiad mewn mater o wythnosau; peidiwch â rhuthro'r rheoliadau yma drwodd yn fyrbwyll. Cymerwch gam yn ôl ac ailystyriwch.
Llyr Gruffydd: Mi fydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi gosod cynnig i ddiddymu y rheoliadau yma, a fydd yn cael ei ddadlau a’i bleidleisio arno yr wythnos nesaf, ond mae’n dda cael cyfle i wyntyllu’r dadleuon wrth inni baratoi ar gyfer y bleidlais fawr honno. Wrth gwrs, mi fyddwn ni’n cefnogi'r cynnig yma heddiw. Dwi’n gwrthwynebu’r rheoliadau yma nid am nad oes yna broblem ansawdd dŵr mewn...
Llyr Gruffydd: Dywedwch yn eich datganiad 'mae angen i ni gadw ffermwyr Cymru ar y tir'— Ni allwn i gytuno mwy â hynny, wrth gwrs— 'drwy gryfhau ymhellach eu henw da am safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan i gynyddu gwerth y nwyddau y maent yn eu cynhyrchu.' Wel, wrth gwrs, un peth y mae'n rhaid iddo fod yn ganolog i hynny yw cynyddu ein capasiti prosesu...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae hi, wrth gwrs, yn hanfodol bod yna fframwaith penodol ar gyfer cefnogaeth wledig yng Nghymru, gyda mesurau penodol i gefnogi datblygu gwledig er mwyn cyfrannu at hyfywedd cefn gwlad. Ac wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig bod approach y Llywodraeth yn delifro ar draws y nodau sy’n cael eu hadlewyrchu yn...
Llyr Gruffydd: Byddwch chi'n gwybod bod carchar y Berwyn, wrth gwrs, wedi cael ei feirniadu'n gryf gan y bwrdd monitro annibynnol y llynedd am fethu darparu ar gyfer carcharorion Cymraeg eu hiaith, ac wrth gwrs wedi gwadu rhai hawliau i'r carcharorion hynny am eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Nawr, chwe mis yn ddiweddarach, mewn gohebiaeth â mi, mae'r carchar wedi cadarnhau eu bod nhw ddim hyd yn oed yn...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam? OQ56309
Llyr Gruffydd: Wel, taflodd CNC hynny atoch, ac fe ddewisoch chi eu hanwybyddu am eu bod yn awgrymu bod 8 y cant o'r arwynebedd yn barthau perygl nitradau. Mae gwrando ar eu cyngor yn gyfleus ichi weithiau, ond nid dro arall, mae'n amlwg. Edrychwch, byddwn yn dweud bod y bennod ddiweddaraf hon yn cynrychioli'r dirywiad terfynol yn y berthynas rhwng eich Llywodraeth a'r gymuned amaethyddol, oherwydd dro ar...
Llyr Gruffydd: Rwy'n teimlo fel pe na baech wedi bod yn gwrando ar air rwyf wedi bod yn ei ddweud am y ddwy flynedd ddiwethaf, Weinidog. Nid oes unrhyw un yn gwadu bod problem y mae angen mynd i’r afael â hi; y broblem yma yw'r ateb rydych yn ei gynnig. Nid yw'n ymarferol ac nid yw'n gymesur, ac a dweud y gwir, nid yw'n mynd i weithio. Mae tystiolaeth o fannau eraill ledled Ewrop lle cafodd dull y...
Llyr Gruffydd: Rwyf wedi clywed sôn ichi addo saith gwaith i beidio â chyflwyno’r rheoliadau parthau perygl nitradau hyn yn ystod y pandemig. Mewn gwirionedd, rwyf wedi dod o hyd i fwy na 10 enghraifft lle rydych wedi nodi'n benodol, ar Gofnod y Cyfarfod Llawn neu i bwyllgorau'r Senedd, na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig COVID. Nawr, ar yr union ddiwrnod y dywedodd Prif Swyddog...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog ar y rheoliadau yma, wrth gwrs, fel rhan o'n gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft. Bydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar reoliadau bandiau treth a chyfraddau treth y dreth trafodiadau tir. Fe glywon ni gan y Gweinidog fod yna ddau benderfyniad o bwys ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn. Yn y lle cyntaf, cynyddu...
Llyr Gruffydd: Na.
Llyr Gruffydd: Na. Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, bu—[Anghlywadwy.]
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar yr ymateb i'r llifogydd diweddar mewn cymunedau ar draws Cymru? Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r ymrwymiad i gynnig cymorth ariannol i'r cartrefi a'r busnesau hynny a gafodd eu heffeithio. Mae angen sicrwydd bod hwnnw'n cael ei dalu'n syth, ac nid mewn dau fis, fel y digwyddodd mewn achosion tebyg y llynedd,...
Llyr Gruffydd: Wel, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, newydd gyhoeddi setliad o 2.3 y cant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yr ail setliad isaf yng Nghymru. Ac fel roeddech chi'n dweud nawr, mae hwnnw'n rannol seiliedig ar asesiadau newydd o boblogaeth y sir. Nawr, os ydy'r asesiadau newydd yma'n gywir, sef bod poblogaeth y sir yn statig, yn hytrach na'n codi'n sylweddol, pam fod adran gynllunio eich...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth fel sail i ddyraniadau cyllid cynghorau lleol? OQ56233
Llyr Gruffydd: Dwi am gefnogi, wrth gwrs, y cynnig yma. Mi fuasai natur y cynnig, dwi'n siŵr, yn wahanol iawn petai e heb gael ei osod cyn yr achosion o lifogydd a welon ni yn y dyddiau diwethaf, ond mae e yn gyfle, dwi'n meddwl, i ehangu ar rai o'r ymatebion sydd angen eu gweld. Mi wnes i, wrth gwrs, alw am gefnogaeth ariannol i'r rhai a gafodd eu heffeithio yn yr wythnos diwethaf, a dwi'n falch iawn bod...