Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gordewdra yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r strategaeth hon, oherwydd ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop. Felly, mae croeso mawr i strategaeth. Gweinidog, rwy’n cefnogi llawer o’ch cynllun ac rwy’n croesawu'r pwyslais ar atal, yn enwedig...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Darren am gyflwyno'i gynnig ar gyfer Bil ar hawliau pobl hŷn. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynigion Darren yn llawn, ac fe wnaf bopeth a allaf i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad hwn. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â threchu unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon ar y pwnc. Bydd diogelu hawliau pobl hŷn yn mynd...
Caroline Jones: Weinidog, a ydych yn derbyn nad oes angen 22 awdurdod lleol ar wahân ar Gymru a bod ymdrechion Gweinidogion blaenorol i ddatrys y broblem heb ad-drefnu llywodraeth leol wedi arwain at wastraff sylweddol a biwrocratiaeth? Ddydd Llun, cyfarfûm â grŵp o benaethiaid o fy rhanbarth i drafod yr argyfwng ariannu mewn addysg, ac roedd un o'u prif bryderon yn ymwneud â'r haen ychwanegol o...
Caroline Jones: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ag anhwylderau sbectrwm awtistig wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, camau y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig wedi methu eu cyflawni hyd...
Caroline Jones: Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac...
Caroline Jones: Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo...
Caroline Jones: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol. Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd...
Caroline Jones: Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n mynd ar drywydd cyfleoedd dysgu gydol oes yn ein colegau addysg bellach. Fodd bynnag, mae'r sector yn dal i ddarparu cyfleoedd dysgu i bron 65 y cant o'r 250,000 o oedolion sy'n ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r sector addysg bellach yn wynebu argyfwng ariannu o ganlyniad i doriadau diweddar. Pa asesiad y...
Caroline Jones: Fe hoffwn i ddiolch i'r Athro Holtham am gynhyrchu adroddiad craff arall, a fydd yn helpu i lywio un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl: sut ydym ni'n talu am ofal cymdeithasol? Ni all neb wadu bod hyn yn bryder dybryd. Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng, fel y nododd y pwyllgor iechyd. Mae lefel presennol y cyllid yn annigonol i ddiwallu'r galw presennol, heb sôn am yr angen...
Caroline Jones: Mae 70 mlynedd wedi bod ers i'r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac rydym wedi teithio'n bell yn y saith degawd diwethaf, ond nid ydym wedi teithio'n ddigon pell. I filiynau o bobl ledled y byd, nid yw'r amddiffyniadau a'r addewidion cyffredinol hynny'n ddim ond breuddwyd. Nid yw'r 30 erthygl sydd mor bwysig i ni yn golygu fawr ddim i bobl yn Yemen neu...
Caroline Jones: Ymatal.
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr yn mynegi siom am eu hanallu i deithio ar gludiant cyhoeddus gyda ffrindiau, oherwydd mae pob un angen lle i gadair olwyn. Ac, os ydych chi'n lwcus, mae gan y rhan fwyaf o gludiant cyhoeddus un neu ddau le ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol y gallu i deithio gyda'n gilydd, ac eto gwrthodir yr hawl...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rheoliadau cynllunio ac adeiladu sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i dai gael eu diddosi mor dda fel na fydd angen cymaint o wresogi arnyn nhw. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae disgwyl i'r DU brofi cyfnodau poeth yn amlach, mae cael hafau fel eleni dri deg gwaith yn fwy tebygol. Yn ystod...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae gan y fargen ddinesig ran fawr i'w chwarae o ran gwella economi fy rhanbarth i, ac felly hefyd cydweithio gwirioneddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae mentrau bach a chanolig eu maint y rhanbarth angen Llywodraeth sy'n deall eu hanghenion pan ddaw i seilwaith a rheoleiddio. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd pan ddaw i greu'r amgylchedd iawn i fusnesau...
Caroline Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gall newidiadau i reoliadau cynllunio helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53083
Caroline Jones: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cael triniaeth a chyfleoedd cyfartal? OAQ53090
Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn COP24, cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig?
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad llafar i'r Siambr ynghylch cynlluniau eich Llywodraeth i fynd i'r afael â bwlio? Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar fwlio, ond rwyf i'n tybio na fydd canllawiau yn ddigonol, ac nid fi yw'r unig un. Mae'r crwner yng nghwest Bradley John wedi cwestiynu a...