Canlyniadau 381–400 o 5000 ar gyfer speaker:Caroline Jones OR speaker:Caroline Jones OR speaker:Caroline Jones OR speaker:Caroline Jones OR speaker:Caroline Jones

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach: Cymru Iach — Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru (29 Ion 2019)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gordewdra yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r strategaeth hon, oherwydd ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop. Felly, mae croeso mawr i strategaeth. Gweinidog, rwy’n cefnogi llawer o’ch cynllun ac rwy’n croesawu'r pwyslais ar atal, yn enwedig...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn (23 Ion 2019)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Darren am gyflwyno'i gynnig ar gyfer Bil ar hawliau pobl hŷn. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynigion Darren yn llawn, ac fe wnaf bopeth a allaf i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad hwn. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â threchu unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon ar y pwnc. Bydd diogelu hawliau pobl hŷn yn mynd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ad-drefnu Llywodraeth Leol (23 Ion 2019)

Caroline Jones: Weinidog, a ydych yn derbyn nad oes angen 22 awdurdod lleol ar wahân ar Gymru a bod ymdrechion Gweinidogion blaenorol i ddatrys y broblem heb ad-drefnu llywodraeth leol wedi arwain at wastraff sylweddol a biwrocratiaeth? Ddydd Llun, cyfarfûm â grŵp o benaethiaid o fy rhanbarth i drafod yr argyfwng ariannu mewn addysg, ac roedd un o'u prif bryderon yn ymwneud â'r haen ychwanegol o...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (22 Ion 2019)

Caroline Jones: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru?

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (16 Ion 2019)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ag anhwylderau sbectrwm awtistig wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, camau y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig wedi methu eu cyflawni hyd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Perthynas â Chwmnïau Mawr (16 Ion 2019)

Caroline Jones: Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac...

7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 (15 Ion 2019)

Caroline Jones: Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Ion 2019)

Caroline Jones: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru ( 9 Ion 2019)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol. Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Mynediad i Ddysgu Gydol Oes ( 9 Ion 2019)

Caroline Jones: Weinidog, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n mynd ar drywydd cyfleoedd dysgu gydol oes yn ein colegau addysg bellach. Fodd bynnag, mae'r sector yn dal i ddarparu cyfleoedd dysgu i bron 65 y cant o'r 250,000 o oedolion sy'n ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r sector addysg bellach yn wynebu argyfwng ariannu o ganlyniad i doriadau diweddar. Pa asesiad y...

8. Dadl: Adroddiad Holtham ar Dalu am Ofal Cymdeithasol ( 8 Ion 2019)

Caroline Jones: Fe hoffwn i ddiolch i'r Athro Holtham am gynhyrchu adroddiad craff arall, a fydd yn helpu i lywio un o'r penderfyniadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl: sut ydym ni'n talu am ofal cymdeithasol? Ni all neb wadu bod hyn yn bryder dybryd. Mae gofal cymdeithasol mewn argyfwng, fel y nododd y pwyllgor iechyd. Mae lefel presennol y cyllid yn annigonol i ddiwallu'r galw presennol, heb sôn am yr angen...

4. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (12 Rha 2018)

Caroline Jones: Mae 70 mlynedd wedi bod ers i'r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac rydym wedi teithio'n bell yn y saith degawd diwethaf, ond nid ydym wedi teithio'n ddigon pell. I filiynau o bobl ledled y byd, nid yw'r amddiffyniadau a'r addewidion cyffredinol hynny'n ddim ond breuddwyd. Nid yw'r 30 erthygl sydd mor bwysig i ni yn golygu fawr ddim i bobl yn Yemen neu...

Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (12 Rha 2018)

Caroline Jones: Ymatal.

4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Pobl Anabl (11 Rha 2018)

Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr yn mynegi siom am eu hanallu i deithio ar gludiant cyhoeddus gyda ffrindiau, oherwydd mae pob un angen lle i gadair olwyn. Ac, os ydych chi'n lwcus, mae gan y rhan fwyaf o gludiant cyhoeddus un neu ddau le ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cymryd yn ganiataol y gallu i deithio gyda'n gilydd, ac eto gwrthodir yr hawl...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Newid yn yr Hinsawdd (11 Rha 2018)

Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rheoliadau cynllunio ac adeiladu sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i dai gael eu diddosi mor dda fel na fydd angen cymaint o wresogi arnyn nhw. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae disgwyl i'r DU brofi cyfnodau poeth yn amlach, mae cael hafau fel eleni dri deg gwaith yn fwy tebygol. Yn ystod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datblygu Economaidd yng Ngorllewin De Cymru (11 Rha 2018)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae gan y fargen ddinesig ran fawr i'w chwarae o ran gwella economi fy rhanbarth i, ac felly hefyd cydweithio gwirioneddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae mentrau bach a chanolig eu maint y rhanbarth angen Llywodraeth sy'n deall eu hanghenion pan ddaw i seilwaith a rheoleiddio. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd pan ddaw i greu'r amgylchedd iawn i fusnesau...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Newid yn yr Hinsawdd (11 Rha 2018)

Caroline Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gall newidiadau i reoliadau cynllunio helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53083

4. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Pobl Anabl (11 Rha 2018)

Caroline Jones: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cael triniaeth a chyfleoedd cyfartal? OAQ53090

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (11 Rha 2018)

Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn COP24, cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig?

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Rha 2018)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad llafar i'r Siambr ynghylch cynlluniau eich Llywodraeth i fynd i'r afael â bwlio? Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar fwlio, ond rwyf i'n tybio na fydd canllawiau yn ddigonol, ac nid fi yw'r unig un. Mae'r crwner yng nghwest Bradley John wedi cwestiynu a...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.