Neil McEvoy: Dyna eiriau da iawn o ochr arall y Siambr. Fe wnes i wenu pan wnaeth yr aelod o UKIP gyfeirio at 'hawliau dynol honedig'. Wel, mae hawliau dynol yn hawliau dynol. Ac rwy'n anghytuno â'r ymadrodd 'hawliau lleiafrifoedd'; buaswn i, gorau oll, yn dweud 'hawliau i bawb'. Mae angen parchu pawb a dylai pawb gael hawl, oherwydd, pan fydd pawb yn cael eu parchu, daw hynny â chytgord i'n cymdeithas....
Neil McEvoy: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar Nant y Rhath. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y gwaith arfaethedig yn cael ei ohirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os aiff yn ei flaen wedyn bydd pobl yn y rhan hon o Ben-y-lan yn colli hanner eu parc a nifer fawr o goed aeddfed. Y rheswm a roddwyd yw atal llifogydd, ond ni fu llifogydd yn y parc penodol hwn am fwy na 70 mlynedd yn sicr, os erioed,...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae cod y Gweinidogion yn darparu atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd aelodau'r cabinet?
Neil McEvoy: Na wnaf. Mae’r swm o arian sydd hefyd yn cael ei wastraffu yn syfrdanol—syfrdanol. Degau o filiynau o bunnoedd ar gytundebau tir amheus, cymorth amheus i fusnesau—dyna ble mae'r arian yn mynd. Ac, rwyf wedi blino ar y diwylliant o ddibyniaeth yng Nghymru. Hoffwn weld cyllideb sy'n gofyn inni sefyll ar ein traed ein hunain. Hoffwn weld cyllideb sy'n arwain at bobl yn cael eu grymuso i...
Neil McEvoy: Dydw i ddim yn mynd i bleidleisio o blaid y gyllideb ddrafft hon. Dydw i ddim yn mynd i ymatal. Rwy’n mynd i bleidleisio yn erbyn. Mae'r gyllideb hon yn ddrwg. Mae Cymru'n dal i wynebu ffioedd dysgu o £9,000. Ydyn ni i fod i fod yn ddiolchgar am hynny? Nid yw'n ddigon da o bell ffordd. Mae pobl yng Nghymru yn dal i gael eu troi allan o'u cartrefi oherwydd y dreth ystafell wely; y bobl...
Neil McEvoy: Ni fyddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Gofynnais yn y Siambr hon beth sydd o'i le ar werthu tŷ cyngor cyhyd ag y defnyddir yr arian i adeiladu rhai newydd, ac nid wyf wedi cael ateb boddhaol. Nid wyf yn barod i bleidleisio i gael gwared ar opsiwn i bobl dosbarth gweithiol fod yn berchen ar eu cartref eu hunain heb gyflwyno unrhyw ffyrdd newydd iddyn nhw brynu tŷ. Mae'r ddeddfwriaeth yn...
Neil McEvoy: Rwyf yn edrych ar ddau ddatganiad gan arweinydd y Siambr. Mae'r Llywodraeth yn ddigon teg wedi cyhoeddi datganiadau am erchyllterau terfysgol yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae gennym ni gymuned o bobl o'r Yemen yng Nghaerdydd, ac yng Nghymru, ac mae dinasyddion yn yr Yemen yn cael eu bomio ac yn cael eu llwgu i farwolaeth bob un dydd. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, rydych chi'n ymchwilio nawr i ddatgeliad cyfrinachau posibl ar ôl yr honiad bod llawer o bobl yn gwybod am ad-drefniant eich Cabinet cyn iddo ddigwydd. Ymddengys hefyd bod llawer o bobl yma sy'n gwybod pwy yw'r achwynwyr yn erbyn Carl Sargeant a natur y cwynion. Ni ellir ei godi yma oherwydd cyfreithiau diogelu data. Erbyn dydd Gwener roedd—. Ar ddydd Llun yr wythnos dan...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, rydych chi wedi atgyfeirio eich hun ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion o'r diwedd. Rwyf i wedi bod yn gofyn i chi wneud hynny ers misoedd, ar dri gwahanol achlysur pan fy mod yn credu eich bod chi wedi camarwain y Senedd hon. Rydych chi naill ai wedi anwybyddu'r galwadau neu, yn hytrach, wedi taflu baw ataf i. Nawr, mae cod y gweinidogion yn eglur: os ydych chi'n...
Neil McEvoy: O ran rolau, mae gennym hefyd gyfarwyddwyr cwmnïau a phobl a gyflogir mewn rolau eraill. Felly, mewn gwirionedd, i fynd at wraidd y cwestiwn—[Chwerthin.] Diolch. Beth ynglŷn ag Aelod Cynulliad yn bod yn gynghorydd sy'n peri cymaint o ofid i Lywodraeth Cymru? Ac a ydych yn bwriadu atal Aelodau'r Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr er mwyn rhwystro democratiaeth a gwneud yr hyn na allwch...
Neil McEvoy: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i'r ymgynghoriad yn ddiweddar. Gofynnai cwestiwn 33: a ydych yn cytuno na ddylid caniatáu i neb wasanaethu fel Aelod Cynulliad a chynghorydd? Ar wahân i'r ffaith ei fod yn gwestiwn arweiniol iawn ac yn anaddas ar gyfer ymgynghoriad difrifol, safbwynt y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw gwahardd Aelodau Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr hefyd....
Neil McEvoy: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51357
Neil McEvoy: Yn gyntaf oll, rwy'n ategu sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog a natur amhleidiol hyn. Hoffwn innau hefyd estyn llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd. Mae llawer o bethau da yma, ac rwyf wedi clywed llawer o bethau da yr ydych chi wedi eu dweud heddiw. Sylwais eich bod wedi dweud yr hoffech chi weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Sylwais eich bod yn dweud po...
Neil McEvoy: Mae hyn, mewn gwirionedd, yn dilyn yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood. Roeddwn yn awyddus i gael datganiad am gam-drin ar yr aelwyd sy'n effeithio ar bawb, yn wragedd ac yn ddynion. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod a merched yn cynnwys yr holl ymosodiadau a phob achos o gam-drin dynion yn y ffigurau hynny, ond nid oes sôn am y geiriau 'dyn/gŵr'. Felly, nid yr hyn sy'n...
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, hoffwn eich llongyfarch hefyd, ar y dechrau. A fyddai modd cael datganiad am Ddiwrnod Rhyngwladol Dynion a beth wnaeth y Llywodraeth yng Nghymru i'w gydnabod. Yr ail bwynt yw'r farn gyfreithiol a roddir i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd yn y Western Mail heddiw, a ganfu fod gwahaniaethu yn erbyn dynion ym maes cam-drin domestig yng Nghymru. Tybed...
Neil McEvoy: Iawn, diolch. Nid yw Lefel 5 yn gymhwyster ond mae'n statws. Nid yw'n arwain at unrhyw gynnydd yn y cyflog. Gall cynorthwywyr addysgu Lefel 1 ei gyflawni—daw hyn oll gan gynorthwyydd addysgu sydd wedi mynegi pryderon wrthyf. Chwe wythnos yn unig y mae'r hyfforddiant yn ei gymryd—tri diwrnod yn unig allan o'r ysgol. Un darn o waith yn unig sydd angen ei baratoi ar gyfer plentyn, grŵp...
Neil McEvoy: Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir wrthyf nad New Directions yw'r opsiwn rhataf ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, ond hwy yw'r asiantaeth a ffafrir. Gwnaed y cyhuddiadau canlynol ynglŷn â rhoddion y dywedir bod New Directions wedi eu defnyddio. Nid oes gennyf unrhyw farn ynglŷn ag uniondeb na gwirionedd y cyhuddiadau hyn, ond maent wedi cael eu gwneud. Honnwyd wrthyf fod New Directions...
Neil McEvoy: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ariannu hyfforddiant statws lefel 5 ar gyfer cynorthwywyr addysgu? OAQ51276
Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hawliau plant i gael mynediad at eu dau riant?
Neil McEvoy: Prif Weinidog, honnwyd gennych yn y Siambr hon y llynedd nad oes gan lobïwyr fynediad at Weinidogion y Llywodraeth. Roedd yn rhaid i chi newid eich safbwynt ar hynny pan ganfuwyd bod ganddynt. Honnwyd gennych eleni bod Gweinidogion Plaid Cymru wedi eu cysylltu rywsut â sgandal delio tir Llysfaen pan gollwyd £39 miliwn. Penderfynwyd ar y gwerthiant ar ôl i'r Blaid adael y Llywodraeth. Yn...