Mark Isherwood: Gan fod diogelwch cymunedol yn fater datganoledig, roedd maniffesto Plaid y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ym mis Mai y byddem ni'n cynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru a Lloegr erbyn 2023. Dyna sy'n digwydd mewn gwirionedd. Sut ydych chi felly yn bwriadu...
Mark Isherwood: Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yng Nghymru?
Mark Isherwood: Fel y dywedais yma ym mis Mehefin 2016, 'Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan.' Heddiw, bum mlynedd union ers i bobl Cymru—pobl Cymru—bleidleisio i adael yr UE, mae Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan yn gallu llunio cytundebau masnach gyda marchnadoedd newydd fel grym masnachu rhyddfrydol,...
Mark Isherwood: Diolch. Mae arweinwyr masnach a diwydiant wedi croesawu dychweliad porthladdoedd rhydd i'r DU, ac mae'n bosibl mai’r sectorau prosesu bwyd, melysion, diodydd alcoholig a thecstilau fydd fwyaf ar eu hennill. Mae cytundebau masnach y DU yn cynnig hwb i fusnesau Cymru, lle mae halen môr Ynys Môn, cig oen o Gymru, cregyn gleision Conwy ac eirin Dinbych Dyffryn Clwyd er enghraifft ymhlith y 15...
Mark Isherwood: Diolch. O ystyried bod datblygu busnes yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, byddech yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyfrannu peth o’i harian ei hun hefyd yn ychwanegol at y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Er bod y Prif Weinidog yn gwadu hynny, dywedodd perchennog bwyty yng ngogledd Cymru, nad oedd yn gymwys i gael cyllid diweddaraf Llywodraeth Cymru, ei fod wedi eu bradychu....
Mark Isherwood: 5. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gymorth busnes yng Nghymru wrth ddrafftio ei chyllideb ar gyfer 2021-22? OQ56627
Mark Isherwood: Wrth gwrs, mae tagfeydd traffig ei hun yn llygru, a bydd pobl, sydd â mwy o ddewisiadau nag a oedd ganddyn nhw 50 mlynedd yn ôl, yn parhau i ddefnyddio ceir oherwydd cyfleustra, angenrheidrwydd, tywydd, ardal neu ryddid y ffordd yn unig. Fel y dywedwch, rydych yn mynd i oedi pob cynllun ffordd newydd wrth ichi adolygu eich ymrwymiadau presennol, felly fel y dywedwch, nid cau'r drws yn llwyr...
Mark Isherwood: Diolch. Fe hoffwn innau wneud sylwadau hefyd ynghylch eich cyfeiriad at ganolfannau addysg awyr agored preswyl. Cysylltodd rhai ohonyn nhw â mi ddoe, a dyna sut y cefais i wybod am ddatganiad Llywodraeth Cymru, gan nad oeddem ni wedi cael ein hysbysu'n uniongyrchol fel Aelodau. Fe godais i'r pryderon hyn a fynegwyd gan ganolfannau addysg awyr agored preswyl ynghylch canllawiau coronafeirws...
Mark Isherwood: Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yng Nghymru?
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc byddar mewn addysg yng Nghymru?
Mark Isherwood: Dim ond un cwestiwn byr. Ychydig funudau'n ôl, cefais e-bost gan etholwr yn y gogledd, a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ateb eu pwyntiau, yn dilyn eich ymateb blaenorol: 'Roeddwn i'n gwylio'r newyddion am y cyhoeddiad am yr arian ar gyfer COVID hir. Y drafferth yw nad oes llawer o staff sydd â phrofiad, ac ni fyddan nhw'n gwrando ar y rheini ohonom sydd â'r profiad ac sy'n barod i...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddadl neu ddatganiad llafar yn amser Llywodraeth Cymru ar ofal i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Yr unfed ar ddeg ar hugain o Fai oedd pen-blwydd 10 mlynedd sgandal Winterbourne View, pan amlygwyd cam-drin pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ddatganiad...
Mark Isherwood: Yn ôl yr adroddiadau, mae chwythwyr chwiban yn dweud bod plant yn cael eu cosbi am ymddwyn yn awtistig a bod iechyd a diogelwch staff a phlant yn gwbl frawychus, a bod pobl ifanc yn cael eu camreoli, ac felly'n ymddwyn mewn ffyrdd heriol, gan arwain at eu cadw dan glo. Ond mae hyn yn nodweddiadol o gymaint o'r gwaith achos sydd gennyf ar ran etholwyr awtistig a/neu eu teuluoedd, lle mae pobl...
Mark Isherwood: Tair blynedd—. Diolch am eich datganiad chi. Dair blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chanllawiau cam wrth gam ar wneud cais i gynllun preswylydd sefydlog yr UE, statws preswylydd cyn-sefydlog a sefydlog, i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir a'u teuluoedd i wneud cais i barhau i fyw yn y DU ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 30 Mehefin...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i leoliadau priodas yng Nghymru. Pan holais i'r Prif Weinidog ynghylch derbyniadau priodas bythefnos yn ôl, gan gyferbynnu darpariaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr â chyfyngiadau parhaus Llywodraeth Cymru, atebodd y Prif Weinidog, 'mae gennyf gydymdeimlad enfawr â'r teuluoedd niferus sydd wedi trefnu ac aildrefnu derbyniadau...
Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt presennol ynghylch coridor yr A55, yr A494, a'r A548 yn sir y Fflint. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017 ei bod wedi penderfynu ar ddewis llwybr coch sir y Fflint i'r A55 yn Llaneurgain. Yn dilyn hynny codais bryderon etholwyr ynglŷn â hyn gyda chyn-Weinidog yr economi droeon, gan dynnu sylw at faterion gan gynnwys effaith...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wel, dywedodd eich Llywodraeth ddydd Gwener diwethaf, ac rwy'n dyfynnu, 'y gellir cynnal gweithgareddau wedi'u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas ar gyfer hyd at 30 o bobl dan do a 50 o bobl yn yr awyr agored', ond ychwanegodd 'Ni cheir cynnal derbyniadau awyr agored mewn gerddi preifat'. Dywedodd eich datganiad ysgrifenedig ar y rheoliadau coronafeirws hyn ddydd Gwener...
Mark Isherwood: Daeth Bryn a Liz Davies o Fae Cinmel yn ymwybodol am y tro cyntaf fod gan eu baban yn y groth gyflwr ar y galon yn y sgan 20 wythnos. Yn ddwy oed, ar ôl cael dwy lawdriniaeth fawr eisoes, cafodd Seren ddiagnosis hefyd o anhwylder genetig eithriadol o brin. Roedd Seren wrth ei bodd gyda'i hymweliadau seibiant â Thŷ Gobaith. Gan ei bod mor hapus ac yn cael gofal gan nyrsys proffesiynol, a...
Mark Isherwood: Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn y Senedd hon, noddais a siaradais yn nigwyddiad Wythnos Gofal Hosbis Hospice UK ym mis Hydref 2019, pan ddywedais fod hosbisau plant yn dweud er eu bod yn gweithredu ar sail "prynu un, cael saith neu wyth am ddim", cyllid gwastad statudol y maent wedi bod yn ei gael ers deng mlynedd. Y mis canlynol, arweiniais ddadl yma,...
Mark Isherwood: Diolch. A gaf fi ddechrau eto drwy ddweud cymaint rwyf wedi mwynhau gweithio gyda chi, yn enwedig yng ngogledd Cymru, ac yn bersonol, cymaint y byddaf yn gweld eich colli? Symudaf ymlaen at fy araith. Rwyf wedi cytuno i gyfraniadau gan Rhun ap Iorwerth a Dawn Bowden ar ddiwedd yr araith hon. Amcangyfrifir bod 3,600 o blant yng Nghymru yn byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd. Er bod gan...