Lee Waters: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb, am y ddadl honno.
Lee Waters: Cefais fy nghalonogi'n fawr gan faint o gonsensws a geir, ynghylch pwysigrwydd bysiau ac ynghylch rhai o'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies ar y dechrau, mae angen inni adfer diben cyhoeddus trafnidiaeth gyhoeddus, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n sylw pwerus a craff iawn. A nododd Heledd Fychan yn rymus iawn sut y...
Lee Waters: Diolch. Nid yw hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr adolygiad o ffyrdd, ond mae'n dod o fewn strategaeth drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth, ac rydym yn edrych ar y rhwydwaith dosbarthu milltir olaf hwnnw a'r potensial i wneud pethau'n wahanol. Ac fel rhan o'r cyllid eleni, rydym yn ariannu prosiect treialu sy'n defnyddio beiciau trydan, beiciau cargo yn Abertawe, Aberystwyth,...
Lee Waters: Diolch. Rwy'n sicr yn cytuno bod angen inni wario mwy o arian yn cynnal y rhwydwaith priffyrdd. Y rhwydwaith priffyrdd yw'r ased mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru, y rhwydwaith yn ein perchnogaeth ni ein hunain, ac yn amlwg, mae hynny hefyd yn berthnasol i'r rhwydwaith ffyrdd sy'n eiddo i lywodraeth leol hefyd. Rwy'n credu bod angen inni wario mwy o arian ar ofalu amdano. Dyna un o'r...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ofn nad ydw i'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Nhrefnant, ond rwy'n hapus iawn i edrych arni a chael sgwrs bellach gyda'r Aelod. Rydym yn darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed eleni ar gyfer seilwaith teithio llesol—£75 miliwn, sy'n fwy y pen nag unrhyw ran arall o'r wlad—ac mae arian ar gael eleni, yn barhaus, i awdurdodau lleol wneud cais am gynlluniau a fydd yn...
Lee Waters: O ran yr effaith ar fusnes, un o'r problemau sydd gan fusnesau yw tagfeydd lle mae gennych chi bobl yn defnyddio ceir i wneud teithiau y mae modd eu gwneud drwy ddulliau eraill, ond yn hytrach maen nhw'n tagu'r rhwydwaith ffyrdd. Felly, os cawn hyn yn iawn, gallwn dynnu traffig nad oes angen iddo fod ar y ffordd oddi yno, lle mae dewisiadau ymarferol eraill. Ailadroddaf y ffigur bod dwy ran o...
Lee Waters: Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae wedi gwneud yr achos yn erbyn y llwybr coch yn gyson ac, fel y dywed yr hen ddywediad, ni fydd rhai pobl yn fodlon derbyn 'ie' fel ateb. Rydym bellach wedi ymateb i hynny drwy rewi'r cynllun a'i adolygu. Byddwn i wedi tybio y byddai wedi croesawu hynny. Rwy'n gwybod nad yw'n un i ganmol Llywodraeth Cymru yn rhwydd, ond roeddwn i'n credu bod hynny'n rhywbeth...
Lee Waters: Ar y pwynt olaf hwnnw, byddwn yn nodi, 50 mlynedd yn ôl, roedd gennym lefelau sylweddol uwch o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ac nid yw'r bryniau wedi ymddangos yn sydyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Credaf mai'r hyn sydd wedi newid yw ein hagweddau, ein disgwyliadau a'n harferion, a dyna'r her i ni, o ran newid ymddygiad. Nid oes un ateb i fynd i'r afael ag...
Lee Waters: Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithredu'n gyson. Rydym yn dweud bod angen i bob cynllun nad yw'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd fod o fewn cwmpas yr adolygiad, oherwydd mae angen i'r adolygiad wneud cyfres o ddyfarniadau ynghylch pryd y mae cynlluniau ffyrdd yn ateb cywir i broblemau yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'n edrych yn rhyfedd iawn pe byddem wedi hepgor Llandeilo...
Lee Waters: Wel, rwy'n credu bod cryn nifer o'r pwyntiau y soniodd Altaf Hussain amdanyn nhw wedi cael sylw yn fy natganiad, felly rhoddaf gyfle iddo fyfyrio ar hynny, ac os oes ganddo ragor o gwestiynau rwy'n hapus i'w hateb. O ran y cwestiwn penodol ynghylch y ganolfan ganser, nid yw hynny wedi'i gynnwys yng nghwmpas yr adolygiad hwn, oherwydd cynllun yw hwnnw i roi mynediad i brosiect; nid yw'n...
Lee Waters: Diolch. Byddwn i, wrth gwrs, yn hapus i gyfarfod, ac mae honno'n enghraifft ddiddorol o ble yr adeiladwyd ffordd osgoi, beth, 10 mlynedd yn ôl nawr—rwy'n cofio mynd i'r seremoni agoriadol—lle mae honno wedi creu cyfres o atebion, ond yn ychwanegu pwysau ymhellach i lawr y rhwydwaith ffyrdd, gan arwain at alwadau am ragor o ffyrdd osgoi. Dyna'r math o ateb rhagweld a darparu yr oeddwn i'n...
Lee Waters: Diolch am y sylwadau, a byddwn i'n gobeithio bod llawer iawn o dir cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y mater hwn. Rwy'n sylwi yn ystod ymgyrch yr etholiad inni gael ein beirniadu am beidio â bod yn ddigon eofn, am beidio â symud yn ddigon cyflym ar newid hinsawdd. Rwy'n credu y bu gan eich plaid chi ymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2035 ac y gwnaethoch chi ddweud ein...
Lee Waters: Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r dadansoddiad yna o'r broblem. Mae Natasha Asghar wedi nodi'r dull rhagweld a darparu traddodiadol o adeiladu ffyrdd: rhagwelir y bydd traffig yn cynyddu, felly fe wnawn ni gynyddu'r cyflenwad o ffyrdd. Rydym wedi dilyn y llwybr hwnnw ers 50 mlynedd ac mae hynny wedi cynhyrchu mwy o draffig, teithiau hirach, pobl yn gweithio ymhellach oddi cartref, lefelau...
Lee Waters: Diolch, Llywydd. Mae gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym mewn termau clir iawn fod angen inni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys. Er 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31 y cant, ond er mwyn cyrraedd ein targed statudol o sero net erbyn 2050 mae angen inni wneud llawer mwy. Fel yr atgoffodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ni yr wythnos diwethaf, os ydym ni am gadw'r cynnydd mewn...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r prosiect y cyfeiriwch ato yn sir Benfro; mae'n swnio'n ddiddorol iawn a hoffwn gael gwybod mwy amdano, ac ateb eich cwestiwn yn iawn ynglŷn â pha wersi y gellir eu dysgu ohono. Felly, os ydych chi'n fodlon, fe wnaf ddarganfod mwy am hynny ac ysgrifennu atoch. Fel y nodais yn gynharach, rwy'n cytuno'n llwyr fod potensial...
Lee Waters: Diolch, Janet. Credaf fod honno'n her deg. Yn amlwg, fel y mae'r wyddoniaeth yn dangos, bydd y rhain yn digwydd yn amlach ac yn amlach, a bydd gallu pob asiantaeth a phob rhan o'r Llywodraeth—lleol a chanolog—i ymdrin â hwy yn wynebu her enfawr. Mae gwersi i ni eu dysgu o'r llifogydd ym Mhentre ac yn ardal Rhondda Cynon Taf ychydig flynyddoedd yn ôl a ledled Cymru. Rwy'n credu bod...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi adleisio'r hyn a ddywedais am Huw Irranca-Davies am Jenny Rathbone hefyd, sydd wedi bod yn dadlau'n frwd dros yr agenda hon? Rwy'n gwerthfawrogi ei hymdrechion yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at barhau â'i her. Cododd gyfres o gwestiynau am dai. Fel yr eglurodd Julie James yn gynharach, mae rhannu'r portffolio anferth hwn yn her ddyddiol. Un o'r pethau rydym...
Lee Waters: Yn gyntaf oll, a gaf fi dalu teyrnged ddiffuant iawn i Huw Irranca-Davies am y rôl y mae wedi'i chwarae, cyn iddo ddod i'r Senedd, yn San Steffan fel Gweinidog ac fel Cadeirydd pwyllgor dethol, ac ers iddo ddod yma? Gweithiais yn agos iawn gydag ef yn y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn y Senedd ddiwethaf a gobeithiaf barhau i wneud hynny eto. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd...
Lee Waters: Diolch am hynny, ac yn enwedig am y cyfeiriadau at Fenws a'r lleuad. Nid yn aml y maent yn rhan o'n trafodaethau ar newid hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr, fel rwyf newydd ei nodi, ynglŷn â'r rhan y gall plannu coed ei chwarae ar lefel deuluol a chymunedol. Rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rwystrau a allai fod yn y ffordd a gwneud rhai argymhellion i'r Senedd cyn diwedd tymor yr haf ar sut y...
Lee Waters: Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Cytunaf yn llwyr fod y newidiadau ar ôl yr UE—i'r hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol—yn peri gofid mawr. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dros nifer o flynyddoedd rydym wedi datblygu dull strategol o weithredu ar amrywiaeth o raglenni, gan ganolbwyntio'n benodol ar fioamrywiaeth a newid hinsawdd, nad ydynt yn cyd-fynd yn daclus bellach â'r...