Canlyniadau 381–400 o 3000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg ( 2 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn ag argaeledd deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg? OQ57689

8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 ( 1 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i. Prin ydy'r newidiadau, mewn difrif, ond mae bob un yn arwyddocaol wrth inni symud tuag at gyfnod mwy endemig. Ond, mae'n gwneud synnwyr, fel sylw cyntaf, i ymestyn y prif reoliadau tan ddiwedd Mawrth. Dŷn ni'n dal ddim wedi rhoi'r pandemig y tu cefn i ni, ond yn ymarferol, prin iawn ydy'r mesurau amddiffyn statudol sy'n dal mewn lle. Mi ydw i'n gwneud y...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024 ( 1 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma heddiw.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024 ( 1 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Gwn i fod hwn yn fater y mae gan y Gweinidog ddiddordeb brwd ynddo. Bu'r ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar y pwyllgor iechyd yn y pumed Senedd yn ystod hynt Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Cyflwynais i'r gwelliant a arweiniodd at y Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno strategaeth gordewdra, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog a minnau'n cytuno bod yn wir raid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni. Rwy'n credu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Yn sicr, maen nhw'n rhy hir, ac mae yna bobl tu ôl i bob ystadegyn, wrth gwrs. Rydw i, a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma, wedi bod yn casglu tystiolaeth am effaith y creisis ambiwlans. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae’r straeon a glywn yn ddychrynllyd: gwraig 89 oed yn llewygu ac yn gorwedd ar y llawr am chwe awr; damwain ffermio heb unrhyw ambiwlans o gwbl ar gael, felly caiff claf sydd wedi torri ei gefn ei gludo mewn car; claf sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ac sydd wedi torri asgwrn yn clywed bod angen aros tri diwrnod gan nad yw'n achos brys; menyw yr ystyrid bod ei symptomau'n galw am ymateb...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi digalonni eto heddiw yn edrych ar ddata amseroedd aros iechyd. Ffigurau aros am apwyntiad cyntaf CAMHS welais i heddiw, yn dangos mai dim ond 22 y cant sy'n cael apwyntiad o fewn pedair wythnos, y lefel isaf erioed, pan oedd o'n 75 y cant flwyddyn yn ôl. Yfory, rydym ni'n disgwyl ffigurau iechyd ehangach, yn cynnwys amseroedd aros ambiwlans, sy'n dangos...

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal (15 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mi hoffwn i egluro pam y byddaf i a Phlaid Cymru'n gwrthwynebu—a gwrthwynebu'n chwyrn—y mesur cydsyniad deddfwriaethol yma. Mae hwn yn Fil eang iawn y mae o'n berthnasol iddo fo. Mae o'n cynnwys elfennau, fel y dywedodd y Gweinidog, y mae hi'n eiddgar i'w gweld yn cael eu hymestyn i Gymru. Does gen i yn sicr ddim gwrthwynebiad i weld rhannu deddfwriaeth debyg ar draws yr ynysoedd yma mewn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (15 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n falch o glywed bod yr hyder yn cynyddu, bod achosion yn lleihau a'r niferoedd sydd angen gofal ysbyty yn lleihau. Dwi'n fodlon efo'r agwedd bwyllog a'r amserlen wrth symud ymlaen tuag at godi'r ychydig fesurau diogelwch sydd ar ôl mewn lle. Mewn difri, ychydig o gyfyngiadau uniongyrchol sydd yna, bellach, ar ein bywydau ni. O ran pasys COVID,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Trefnydd yn ei rôl fel y Gweinidog dros faterion gweledig ac amaeth. Mae Uwch-gomisiynydd Awstralia i'r Deyrnas Unedig yn ymweld ag Ynys Môn yr wythnos yma. Dwi'n wastad yn mwynhau croesawu ymwelwyr i'r ynys, wrth gwrs, ond mi fydd George Brandis yn cyfarfod â ffermwyr a fydd yn eiddgar iawn, dwi'n siŵr, i godi eu pryderon nhw ynglŷn ag effaith y...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Lywydd, rydyn ni fel Aelodau Plaid Cymru yn falch o gael y cyfle i gyflwyno dadl fel hon yn Senedd ein gwlad ni. Rydyn ni wedi cael cyfle heddiw i amlinellu rhai o'r pethau sylfaenol yna rydyn ni'n meddwl a all ein galluogi ni i gryfhau seiliau Cymru y dyfodol. Ond, mae angen i'r Senedd yma weithredu ar ddiwedd y dydd—sylweddoli mai gennym ni, fel cynrychiolwyr pobl Cymru a chymunedau...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Fe ofynnaf i chi ar unwaith a ydych am ddod yn ôl ar hyn. A ydych yn dweud yn awr yr hoffech gael gwared ar ddatganoli oherwydd nad ydych yn hoffi rhai pethau y mae plaid arall draw acw yn eu gwneud? Nid wyf i yn y blaid honno ychwaith. Byddwn wrth fy modd yn cael gwared arnynt o rym, ond mae gennym y pŵer yn ein dwylo ein hunain yng Nghymru ac mae gennym y potensial hwnnw, a dyna rydym yn...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Onid yw'n ddadlennol eto, pan fyddwn yn sôn am rywbeth mor sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru, na allwch help ond ildio i'r demtasiwn o wleidydda hyn yn y modd hwnnw? A ninnau'n edrych ar ryddhau ein potensial, mae angen i chi fod ychydig yn fwy difrifol yn eich gwleidyddiaeth.  Yn ogystal ag edrych ar y rheolaeth y gallem ei gael drwy ddatganoli Ystâd y Goron, mae'r cynnig yn edrych ar...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Ni chyflwynwyd hon fel dadl ynglŷn ag annibyniaeth. Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gwbl glir yn ein fersiwn ni o Gymru annibynnol, ac mae ein hadnoddau, rheoli'r adnoddau hynny'n ofalus er budd holl bobl Cymru, yn rhan fawr o hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn dadlau bod rheoli'r adnoddau hynny yn y ffordd orau y gallwn, gan atal ecsbloetio'r adnoddau sydd gennym, yn aml gan eraill o'r tu...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am yr holl gyfraniadau. Mi wnaf i brosesu sylwadau'r Gweinidog a dod yn ôl at y rheini, o bosib, tuag at ddiwedd fy nghyfraniad i yn fan hyn. Dwi a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru yn credu yng Nghymru. Rydyn ni'n uchelgeisiol dros Gymru, a dwi'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr yma yn dweud eu bod nhwythau'n cyd-fynd â hynny. Ond, beth sy'n...

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Pam y mae'n gweithio i'r Alban ac na fyddai'n gweithio i Gymru?

8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Wel, os derbyniwch ymyriad arall, mae Ystâd y Goron yr Alban newydd gyhoeddi prydlesi ar gyfer 25 GW—llwyth syfrdanol o gynhyrchiant gwynt ar y môr—oherwydd cânt eu hysgogi i wneud hynny am mai hwy sy'n elwa yn y pen draw o hynny. Fe gewch eich ysgogi i'w wneud am mai gennych chi y mae'r fantais a'r pwerau i'w wneud. Dyna pam y mae'n gweithio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser ( 9 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ac i gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliant ni. O ran y prif gynnig, mi fyddwn ni'n cefnogi'r prif gynnig heddiw, wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddatganiad o bryder go iawn am gyflwr gwasanaethau iechyd yn gyffredinol ar ôl dwy flynedd o bandemig, mae yna elfennau yn y cynnig dwi yn sicr wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Chw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Ond rwy'n ofni, weithiau, fod penderfyniadau'n cael eu gwneud heb ddealltwriaeth ddofn o'r cymunedau y maen nhw'n effeithio arnyn nhw. Gadewch i ni edrych ar yr egwyddor honno o ganoli. Rwy'n deall yn llwyr y dadleuon dros ddatblygu canolfannau sy'n gallu cael cyfradd brosesu uwch o gleifion â'r afiechydon mwyaf difrifol. Ond (a) pan wnawn ni hynny ar gyfer ardaloedd gwledig, dyweder, mae'n...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.