Carl Sargeant: Suzy Davies, gallwch fynd â fy nghefnogaeth i’ch cyfarfod yfory gyda HSBC. Dywedwch wrthynt fy mod yn gobeithio y gallant barhau i gefnogi eich cymuned a llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae banc yn ganolbwynt trefnus iawn i gymuned, a dylem barhau, cymaint ag y gallwn, i’w hannog i aros yn y cymunedau yr ydych yn eu cynrychioli ac yr wyf fi’n eu cynrychioli.
Carl Sargeant: Wrth gwrs. Rwy’n credu bod cysondeb yn bwysig iawn. Mae proffesiynoldeb y gwasanaeth yn bwysig hefyd. Rydym wedi gwneud llawer o waith gydag undebau credyd. Mae undebau credyd wedi darparu gwerth £20.4 miliwn o fenthyciadau i fwy na 25,000 o aelodau wedi’u hallgáu’n ariannol rhwng mis Ebrill 2014, a Medi 2016. Rhyddhawyd y cyllid diweddaraf o £422,000 yn 2017-18, a bydd yn helpu...
Carl Sargeant: Rwy’n cydnabod pwynt yr Aelod. Fe ddywedwn fod mynediad at waith yn un elfen o lwyddiant. Mae llwyddiant yn y tymor hir yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu cynnal cyflogaeth. Ond mae’r profiad y mae pobl yn mynd drwyddo ar y cwrs ei hun yn sgil craidd i’r unigolion hynny, i dyfu i mewn i’r cyfleoedd i gael gwaith yn y lle cyntaf. Felly, mae un allbwn o gael swydd a’i chynnal yn...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Ers cyhoeddi’r cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr 2016, rydym wedi datblygu llawer o’r camau gweithredu, drwy weithio gyda sefydliadau partner ar draws pob sector. Bydd diweddariad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 gan nodi’r cynnydd a wnaethom.
Carl Sargeant: Mae’r holl faterion a gyflwynwyd gennym, o ran mesur perfformiad a data, yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chawn ein barnu yn y dyfodol ar berfformiad honno. Mae dangosyddion y Ddeddf honno yn bwysig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni dros Gymru yr hyn yr ydym yn dweud y byddwn yn ei gyflawni, o ran newid cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.
Carl Sargeant: Wel, nid wyf yn ymwybodol o’r rhaglenni penodol y mae’r Aelod yn eu dwyn i fy sylw heddiw, ond os hoffai roi ychydig mwy o fanylion i mi, fe roddaf ymateb llawnach i’r sylw hwnnw. Y mater ynglŷn â’r dyddiad terfynol yn 2020 yw ein bod yn ymwybodol fod y cyllid Ewropeaidd ar gael tan 2020. A byddwn yn parhau i ddefnyddio hwnnw cyhyd ag y gallwn.
Carl Sargeant: Mae fy nhîm yn cyfarfod â swyddogion yr ymchwiliad annibynnol yn rheolaidd, ac rydym yn darparu pob gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Byddwn yn eu helpu a’u cynorthwyo i wneud eu gwaith.
Carl Sargeant: Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y comisiwn sy’n ymwneud â phlant a gafodd eu cam-drin. Rwy’n deall bod fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau i siarad am blant a gafodd eu hanfon i wahanol wledydd a beth yw’r niferoedd hynny. Ond ceir llinell gymorth weithredol ar gyfer pobl sy’n dymuno rhoi gwybod am gam-drin hanesyddol; gallant siarad â phobl yn y wlad...
Carl Sargeant: Wel, wrth gwrs, y peth cyntaf, mewn gwirionedd, yw datgeliad neu gyswllt gan y bobl ifanc hyn—sy’n bobl hŷn bellach, ond pan oeddent yn ifanc a chael eu hanfon i wledydd eraill, mae’n rhaid ei bod yn frawychus iawn i’r rhan fwyaf o’r unigolion hynny. Mae gennym unigolion wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i ymdrin â’r pwyntiau cyswllt hynny, cyn belled â bod pobl yn rhoi gwybod.
Carl Sargeant: Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafod gyda’r byrddau darparu gwasanaethau lleol, a oedd, i bob pwrpas, yn rheoli gweithrediad Cymunedau yn Gyntaf. Mae hwnnw’n ehangu yn awr hefyd i grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill sydd â diddordeb, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhîm yn falch o edrych ar y cynigion y mae’r Aelod wedi eu dwyn i fy sylw heddiw.
Carl Sargeant: Yn wir. Rwy’n credu na ddylem gau’r drws ar ymgysylltu â’r gymuned mewn unrhyw ffordd. Dylem feddwl am y ffordd orau o ddarparu cefnogaeth effeithiol ar gyfer cymunedau gyda chymunedau, nid i gymunedau.
Carl Sargeant: Cyfeiriaf yr Aelod at fy ymateb diwethaf.
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn cyfarfod yn rheolaidd â mi i siarad am yr union faterion hyn. Rwyf am wneud cyfraith dda yng Nghymru, Lywydd. Nid wyf am gael fy rhuthro i mewn i hyn. Fodd bynnag, byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus i’w effeithiolrwydd, dull o weithredu wedi’i deilwra ar gyfer yr anghenion yng Nghymru, a bod y gallu i orfodi hyn yn ei le. Ond byddaf yn dod â datganiad yn ôl i’r Siambr.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth, pe baem yn cyflwyno deddfwriaeth, y byddai’r Aelod yn ei chefnogi wrth i ni fwrw ymlaen i’w chyflwyno. Edrychwch, Aelodau, rwy’n gobeithio gallu cyhoeddi’n fuan sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i’r mater hwn. Byddaf yn cyflwyno hynny i’r Siambr yn unol â hynny.
Carl Sargeant: Wel, dyna oedd un o’r materion yr oeddem yn pryderu yn eu cylch—trosglwyddo risg i denantiaid, yn enwedig mewn ffioedd. Rydym yn fwy bodlon bellach â’r dystiolaeth sy’n dod o’r Alban nad yw’n ymddangos bod hynny’n digwydd. Dyma ddeddfwriaeth y byddai’n rhaid i ni ei chyflwyno, felly bydd hynny’n dibynnu ar ei gyflwyno yn ôl yr amserlen ddeddfwriaethol, os a phryd y gallwn...
Carl Sargeant: Rydym yn ymwybodol fod yr Alban wedi gwahardd y ffioedd hyn rai blynyddoedd yn ôl. Bydd Lloegr yn ymgynghori ar eu hargymhellion cyn bo hir. Bydd eu profiad yn helpu i lywio’r argymhellion yma yng Nghymru. Nid oes gennyf amserlen sefydlog ar hyn, ond rwy’n annog yr Aelod, unwaith eto, a Jenny Rathbone ac Aelodau eraill wrth gwrs, i deimlo’n rhydd i’w gyflwyno ar gyfer pleidlais yr...
Carl Sargeant: [Yn parhau.]—Llywodraeth, os oes modd.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n bryderus iawn fod y ffioedd a godir gan asiantau gosod yn gosod baich anghymesur ar denantiaid. Cyn hir, gobeithiaf allu cyhoeddi sut yr ydym ni fel Llywodraeth yn bwriadu ymateb i’r mater hwn.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’r Aelod yn iawn, ddoe fe gyflwynoch welliant ar berthnasoedd iach, ac ymatebais yn y ddadl ddoe ynglŷn â’r rheswm pam nad oeddem yn ei gefnogi bryd hynny—am fod gennym weithgor y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg wedi’i sefydlu; rydym am ddysgu gan y gweithgor hwnnw. Ond rydych yn gwthio yn erbyn drws agored yma; mae’n ymwneud â’r...
Carl Sargeant: Yn wir. Mae NSPCC, BAWSO a’r brifysgol a’r llysgenhadon ieuenctid yn sicr yn gwneud gwaith gwych ac roeddwn wrth fy modd pan enillodd y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru wobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Llongyfarchiadau mawr oddi wrthyf fi ac rwyf eisoes wedi trydar i’w llongyfarch hefyd.