Canlyniadau 381–400 o 800 ar gyfer speaker:Hannah Blythyn

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llygredd yn Afonydd Cymru (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am ei ohebiaeth gynharach unwaith eto ar y mater pwysig hwn? O ran mynd i'r afael â hyn, a gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau ac yn atal effaith unrhyw lygredd o unrhyw fath neu unrhyw achos yn ein basnau afonydd ledled Cymru, lle bynnag y bo hynny, mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy a gyda...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llygredd yn Afonydd Cymru (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn. Mae'n crybwyll mater pwysig iawn. Mae unrhyw achos o lygredd yn ein hafonydd yn un achos yn ormod, am amryw o resymau, a dyna pam fod y Llywodraeth hon wedi gweithredu o ran sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â llygredd amaethyddol. Rydym ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cadw at yr arferion gorau, ac mai'r lleiafrif sy'n...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llygredd yn Afonydd Cymru (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Mae'r cynlluniau rheoli basn afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn dangos bod ansawdd dŵr ledled Cymru wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 37 y cant o'r cronfeydd dŵr yng Nghymru bellach yn cyrraedd statws da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu hyn i 42 y cant yn y tair blynedd nesaf.

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Mesurau Ansawdd Aer Lleol (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei ymrwymiad parhaus yn y maes hwn. Rydych chi'n iawn: fe wnes i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi gyfarfod nid yn unig â chynrychiolwyr Tata, ond gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd y cyfarfod hwn yn rhannol er mwyn edrych ar y mater a welsom ni dros yr haf, o ran, yn enwedig, y niwsans llwch, ond hefyd, sut y gallen nhw efallai...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Mesurau Ansawdd Aer Lleol (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei grybwyll o'r blaen yn y fan yma, ochr yn ochr â'r Aelod dros Aberafan hefyd. Rydych chi'n gwybod bod her arbennig o gymhleth a dyrys yng nghyswllt ansawdd aer ym mharthau Port Talbot, oherwydd natur hanesyddol y gwaith dur, sy'n gyflogwr mawr yn yr ardal hefyd, a'r M4 hefyd. O ran—. Rydych chi'n...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Mesurau Ansawdd Aer Lleol (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Diolch. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'n bwysig bod—. Mae'n hollol gywir nad yw hyn dim ond ynglŷn â chydymffurfiaeth gyfreithiol yn unig, oherwydd dyma yw'r peth iawn i'w wneud i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael a'r goblygiadau i iechyd a lles pobl ledled Cymru. O ran awdurdodau lleol, fe fyddwn i'n disgwyl i'r holl awdurdodau lleol asesu'r potensial o ran beth sydd...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Mesurau Ansawdd Aer Lleol (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Caiff gwelliannau i ansawdd yr aer lleol eu cefnogi drwy nifer o ddulliau cyllido, gan gynnwys cronfa ansawdd awyr bwrpasol, gwerth dros £20 miliwn. Gall hyn gefnogi costau parthau aer glân lle cânt eu dynodi gan awdurdodau lleol fel y dewisiadau gorau i gydymffurfio'n gyfreithiol â gwerthoedd terfyn llygryddion aer.

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Fel y dywedais, ni allaf bwysleisio digon i'r Aelod fy mod i'n llwyr ymwybodol o bryderon trigolion ar y mater hwn a'r Aelod ei hun, ond mae'n bwysig iawn, iawn i mi ac i'r Llywodraeth hon i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd pob cam cyfreithiol angenrheidiol ac yn gwneud y penderfyniad cywir, nid yn gyfreithiol yn unig, ond er mwyn trigolion y Barri hefyd.

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Fel y dywedais i, rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad cyn gynted â phosib. Rwy'n cydnabod y pryderon ynghylch hyn, ond, fel y mae'r Aelod ei hun wedi dweud, mae diwydrwydd dyladwy o'r pwys mwyaf gyda mater ac achos mor gymhleth â hyn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn dilyn holl—yn cael y cyngor cyfreithiol perthnasol ac yn gwneud popeth posib o fewn ein gallu i...

3. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n gwybod y bu'n uchel ei gloch yn dadlau dros hyn ochr yn ochr â'r Aelod etholaeth dros Fro Morgannwg. Er y buom ni'n disgwyl penderfyniad erbyn diwedd Tachwedd, roedd hi'n angenrheidiol cael eglurhad cyfreithiol ynglŷn ag agweddau ar yr achos. Rwyf eisiau gwneud penderfyniad i gyhoeddi hyn cyn gynted â phosib, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: The nature recovery action plan sets out our strategy and actions for wildlife, strengthening our approach for species and habitats across Government. This has, for example, seen us invest £4 million, securing an additional £11 million of EU funding, for three successful LIFE projects for important Welsh habitats.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd (11 Rha 2018)

Hannah Blythyn: Subject to planning and permitting controls, incineration is widely used to deal with difficult materials such as clinical or hazardous wastes. In the waste sector, the Welsh Government supports the limited use of high-efficiency energy from waste plants for the treatment of non-recyclable materials, in line with the waste hierarchy.  

8. Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 a 9. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 (13 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. Mae'r ddwy eitem sy'n cael eu gosod gerbron y Cynulliad heddiw yn rhan o'r gyfres reoleiddio sy'n gwneud systemau draenio cynaliadwy, neu SUDS, yn ofyniad gorfodol ar ddatblygiadau newydd o ddechrau'r flwyddyn nesaf. Cyflwynwyd y ddau offeryn hyn o dan bwerau sydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae nifer o sefydliadau allanol wedi cyfrannu'n sylweddol at...

9. Dadl Fer: Cymru Wledig — Economi i'w hyrwyddo ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Bydd, yn hollol. Er gwaethaf fy ynganu gwael heddiw, rwy'n ymdrechu'n galed iawn i ddysgu Cymraeg ac rwy'n deall yn iawn pa mor bwysig yw hi yn enwedig i gymunedau gwledig ledled Cymru. Rhan ohono yw'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n rhaid ei hystyried yn rhan o hynny. Dyna pam rwy'n dweud na fydd dull unffurf o weithredu'n gweithio, oherwydd gwyddom fod gan bob ardal yng Nghymru...

9. Dadl Fer: Cymru Wledig — Economi i'w hyrwyddo ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac yn arbennig i Angela Burns am gyflwyno'r ddadl fer hon? Ac er efallai na fyddwn yn cytuno ar bob elfen o araith Angela, rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno â mi wrth i mi ddweud ei bod hi'n araith angerddol a huawdl iawn, yn hyrwyddo rhyfeddodau ein cymunedau gwledig yng Nghymru. Rwy'n...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Gwarchod Rhywogaethau Prin a Rhai sydd mewn Perygl yng Nghymru ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cofio llawer o deithiau plentyndod i Sw Mynydd Cymru fy hun, a gwn eich bod yn hyrwyddwr balch dros y wiwer goch, sydd i'w gweld yn eich etholaeth chi mewn gwirionedd, yng Nghlocaenog. Pan euthum i ymweld â'r fan honno ar ddiwrnod iachus yng ngogledd Cymru yn gynharach eleni, roedd y saith wiwer goch a ryddhawyd yn y goedwig yn teimlo braidd yn rhy swil...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Gwarchod Rhywogaethau Prin a Rhai sydd mewn Perygl yng Nghymru ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Rwyf wedi ymrwymo i gadw'r warchodaeth a'r mesurau diogelwch yn safonau cyfredol yr UE ar gyfer amddiffyn rhywogaethau ac adeiladu ar hyn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ein nod yw ymgorffori adferiad natur ar draws pob un o'n polisïau a'n rhaglenni.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod—[Anghlywadwy.] Derbyniwyd cwyn a wnaed o dan gytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia (AEWA), yn honni bod diffyg cydymffurfiaeth â darpariaethau penodol yn y cytundeb rhyngwladol mewn perthynas â mesurau a gymerwyd yng Nghymru mewn perthynas â chadwraeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las. Roedd ein hymateb cychwynnol i'r gŵyn AEWA yn nodi ein barn fod y mesurau gwirfoddol hyn yng...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb a'i waith sylweddol yn y maes hwn. Rwy'n cydnabod bod y moratoriwm gwirfoddol presennol drwy gydol y flwyddyn ar saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru yn gweithio'n effeithiol ac y glynir ato gan glybiau helwriaeth yng Nghymru. Mae cytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia hefyd yn cydnabod y llwyddiant hwn ac mae gwaith partneriaeth gwyddau...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las ( 7 Tach 2018)

Hannah Blythyn: Caiff gwyddau talcenwyn yr Ynys Las eu categoreiddio fel rhywogaeth mewn perygl o dan feini prawf rhestr goch fyd-eang yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Yn ddiweddar, mae cytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia wedi codi mater gwaharddiad statudol yng Nghymru a Lloegr, a byddaf yn ystyried ac yn ymateb yn ddiweddarach y tymor hwn.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.