Elin Jones: Gwelliant 2 sydd nesaf. Gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal—na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 10, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i bleidlais. Dwi'n gweld tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Felly, bydd y gloch yn cael ei chanu a'r pleidleisio'n digwydd mewn pum munud.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 7. Yr eitem yma yw’r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, a dwi’n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Elin Jones: Luke Fletcher nawr i ymateb i'r ddadl.
Elin Jones: Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol nawr i gyfrannu. Hannah Blythyn.
Elin Jones: Galw ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.
Elin Jones: Diolch. Peredur Owen Griffiths.
Elin Jones: Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1. Joel James.
Elin Jones: Yr eitem nesaf felly yw dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig yma. Luke Fletcher.
Elin Jones: Diolch, Sarah Murphy, am y cyfraniad yna.
Elin Jones: Er cymaint rwyf wedi fy swyno—[Chwerthin.]—gan y gwaith prosesu cennin newydd, datganiad 90 eiliad yw hwn.
Elin Jones: Ac rwy’n siŵr y byddwch yn parhau â’ch ymgyrchu dros gennin Cymreig i’r dyfodol. Diolch, Jenny Rathbone, am eich achos. Sarah Murphy.
Elin Jones: Diolch i'r Gweinidog am yr atebion. Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Jenny Rathbone.
Elin Jones: Diolch i’r Gweinidog. Mae’r cwestiwn nesaf i’w ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac i’w ofyn gan Adam Price.
Elin Jones: Mi ofynnoch chi ddau gwestiwn fanna. Mi allaf ateb un ohonyn nhw a bydd rhaid i mi ysgrifennu atoch chi gyda'r ateb i'r llall. Yr ateb felly i'r cwestiwn ynglŷn â beth yw targed nawr y Comisiwn o ran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru, gan ein bod ni wedi cwrdd â'n targed yn y Senedd ddiwethaf o 43 y cant, mae'r targed erbyn hyn yn 50 y cant ar gyfer y chweched Senedd, a dwi'n...
Elin Jones: Cafodd dangosyddion perfformiad allweddol y Comisiwn eu hadolygu ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r data dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y flwyddyn bresennol, sef Ebrill 2022 i Fawrth 2023, yn cael eu casglu ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23 yn yr haf.
Elin Jones: Wel, ydw, dwi'n cytuno ei fod e'n bwysig o ran iechyd ein democratiaeth ni fod pobl sy'n ein hethol ni yma i'r Senedd yn gyfarwydd â'n gwaith ni ac yn gyfarwydd â'r Senedd yn fwy cyffredinol. Ac mae'n fy mhryderu i glywed rhai o'r canrannau rydych chi wedi sôn amdanynt o bobl sydd ddim yn ymwybodol o waith dydd i ddydd y Senedd, na gwaith y Senedd yn ehangach na hynny. Mae hynny'n wir am...