Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Suzy Davies AC. Mae thema gyffredin i bob dadl drwy hanes ar godi oedran addysg orfodol. Mae gwleidyddion yn dechrau ac yn aml yn gorffen eu hachos drwy gyfeirio at yr effaith ar yr economi. Mewn trafodaeth ynglŷn â chodi'r oedran ysgol yn y 1960au, cafodd ei ddisgrifio gan Ysgrifennydd addysg y Torïaid, Edward...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad enfawr i'r cynnig i ddechrau cloddio am agregau yn y man hardd poblogaidd a elwir yn 'The Canyons' yn fy etholaeth. Wrth gwrs, rwy'n deall na allwch wneud sylwadau ar apêl gynllunio fyw, ond fel y gwyddoch, roedd preswylwyr yn pryderu'n fawr nad oedd eu lleisiau wedi cael eu clywed yn iawn yn yr ymchwiliad cyhoeddus hirfaith. Rwyf...
Lynne Neagle: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan gymunedau lleol lais yn y system gynllunio? OAQ53865
Lynne Neagle: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n dda cael diweddariad heddiw, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylw cadarnhaol sydd yn eich datganiad, yn enwedig am y cynnydd yn nifer y cyfeillion dementia. Mae gen i rai cwestiynau penodol am y cynllun gweithredu. Roeddwn yn ddiolchgar am eich atebion i mi yn rhinwedd fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ynghylch...
Lynne Neagle: Gweinidog, rwyf wedi bod rhwng dau feddwl drwy'r dydd ynghylch pa un a ddylwn i siarad y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo y byddai'n anghywir i mi eistedd yma a minnau'n rhywun a gafodd gofal gwael iawn gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf pan gefais fy mhlentyn cyntaf, a dweud dim. Rwyf wedi ceisio anghofio'n llwyr am fy mhrofiadau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gyda fy maban cyntaf, ond digon yw dweud y...
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i'r cynigion i gloddio am agregau mewn llecyn o harddwch lleol y mae pobl yn hoff iawn ohono, a adnabyddir fel 'y canyons', gyda'ch Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar hyn o bryd, yn disgwyl penderfyniad. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol i'n hymgyrch i atal y datblygiad, ac yn arbennig i'r...
Lynne Neagle: 1. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i warchod yr amgylchedd naturiol yng Nghymoedd y De? OAQ53781
Lynne Neagle: Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr fod cyfyngiadau'n parhau i fod yn angenrheidiol yn yr unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru, sy'n golygu nad ydynt yn gallu gofalu am bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw unwaith eto am gamau gweithredu ar hyn yn eu hadroddiad ar wasanaethau...
Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru? 298
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog? Yn wahanol i rai yn y Siambr hon, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn cael cyfleoedd rheolaidd i drafod yr hyn yw'r bygythiad mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu ers degawdau. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn eich cais i rai yn y Siambr hon liniaru tipyn ar y rhethreg ynglŷn â Brexit oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae peth o'r...
Lynne Neagle: Mae fy safbwynt wedi bod yn glir iawn, Darren—rwyf am bleidlais gyhoeddus, a sylwaf nad ydych wedi trafferthu amddiffyn Theresa May heddiw. Hyd yn oed ar ôl beirniadaeth hallt o bob ochr ni chafwyd unrhyw ymgais i estyn allan a cyfaddawdu. Fel rhywbeth allan o nofel Bertie Wooster, gwahoddodd y Prif Weinidog griw dryslyd o ddynion gwyn crand i'w hencil yn y wlad mewn ymgais i ddatrys yr...
Lynne Neagle: Yn y Siambr hon ddoe, treuliodd Llywodraeth Cymru amser sylweddol yn cyflwyno gwelliannau deddfwriaethol i baratoi'r llyfr statud ar gyfer Brexit: rheoliadau ar bopeth o datws i drethu, iechyd planhigion i gyfrifyddu, o ofal cymdeithasol i faterion gwledig—pob dim yn wir. Ac er na chymerodd y pleidleisiau hyn lawer o amser, gwn y bydd y gwaith paratoi wedi cymryd amser. Bydd wedi cymryd...
Lynne Neagle: —a beth bynnag, maent eisoes yn ffactorau yn y fformiwla fel y mae'n bodoli heddiw. Fe ildiaf.
Lynne Neagle: Nick, rwy'n gyfarwydd iawn â'r fformiwla llywodraeth leol, ac mae teneurwydd poblogaeth eisoes yn cael ei ystyried, felly nid oes pwynt i chi fynd ar drywydd hynny. Nid wyf yn credu y byddai gan unrhyw AC Llafur neu Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw beth i'w ofni o adolygiad o'r modd y dyrennir cyllid, ond yn syml iawn, nid dyna lle mae'r broblem ar hyn o bryd. Mae'r broblem yn 11 Stryd Downing;...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn allu croesawu'r ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig oherwydd rwy'n credu bod llywodraeth leol yn wynebu ei chyfnod anoddaf ers datganoli yn 1999, ond anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell fyddai diolch i'r Torïaid am y cyfle i siarad am hyn oherwydd mai eu hagenda cyni hwy, y dewis gwleidyddol hwnnw i amddifadu gwasanaethau o gyllid, sydd wedi arwain at y...
Lynne Neagle: Weinidog, yn sgil cyni'r Torïaid, nid oedd dewis gan gyngor Torfaen ond cynyddu'r dreth gyngor eleni er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol, sef gofal cymdeithasol ac addysg. Rwy'n falch iawn fod gennym, yn Nhorfaen, gyngor Llafur sy'n barod i wneud y penderfyniadau hynny i ddiogelu ein gwasanaethau lleol. Nid yw arweinydd UKIP yn gwybod dim am y pwysau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod lleol...
Lynne Neagle: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysau ariannu mewn llywodraeth leol? OAQ53674
Lynne Neagle: Diolch ichi, Dirprwy Weinidog. Un o'r themâu clir a ddaeth i'r amlwg i mi yn ymchwiliadau diweddar y pwyllgor oedd bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dibynnu fwyfwy ar sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ond nad ydynt yn aml yn darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaethau hynny. Mae hyn wedi digwydd yn ymchwiliadau'r pwyllgor plant ar iechyd meddwl amenedigol, ar...
Lynne Neagle: Gweinidog, roeddwn i'n falch iawn ddydd Sadwrn o orymdeithio â miliwn neu fwy o ddinasyddion y Deyrnas Unedig, gan gynnwys miloedd lawer o bobl o Gymru. Rwy'n siŵr y byddwch chithau hefyd wedi gweld y 5.5 miliwn o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw am ddirymu erthygl 50. O ystyried yr adlach ddemocrataidd ddigynsail o ran y mater hwn, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bryd erbyn...
Lynne Neagle: 2. Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ53688